Bro Cydweli
Pigion Bro
- Pigion Bro
Mae'n siŵr fod pawb wedi clywed am y gân am Hen Fenyw Fach Cydweli sy'n gwerthu losin du, ond yr wythnos hon ar Bro, bydd Iolo a Shân yn ei chyfarfod.
Gyda'i gastell hynafol a golygfeydd hyfryd, mae Cydweli a'r pentrefi cyfagos yn llawn cymunedau bywiog. Fe fydd y rhaglen yn gwibio drwy Gydweli, Trimsaran, Pembre a Phorth Tywyn gan ymweld â rhai o gymeriadau lliwgar yr ardal a mwynhau'r golygfeydd godidog ar y daith.
Allyson Thomas - Minimakers Cydweli
Mae Allyson Thomas yn un o ddeg o ferched lleol sy'n cyfarfod bob wythnos i greu eitemau bychain ar gyfer eu tai doliau a bocsys ystafell. Mae'r clwb yn bodoli ers rhyw saith mlynedd ac mae'r grŵp yn gwneud pob math o bethau, o flodau i ddillad isaf menywod! Mae'n rhyfeddol beth y mae'r criw gweithgar yma'n gallu ei wneud gyda' phethau sy'n cael eu darganfod o gwmpas y tŷ neu hyd yn oed ar y stryd. Mae caead bocs o losin Smarties yn gwneud bowlen fwyd ci ardderchog, ac mae bocs gwag o After Eights yn gwneud oergell arbennig. Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn gweithio ar brosiect ar y cyd - siop deganau fechan - fydd yn cael ei roi mewn ocsiwn er budd elusen.
Marc Scaife - Band Tref Porth Tywyn
Treuliodd Marc Scaife sawl blwyddyn yn Llundain yn gweithio ar y farchnad stoc cyn penderfynu newid ei fywyd yn gyfan gwbl a symud y teulu cyfan yn ôl i Gymru. Mae bellach yn ddatblygwr eiddo ac yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn perfformio gyda Band Tref Porth Tywyn. Er mai band amatur ydyn nhw, maen nhw'n cael eu cyfri fel rhif 30 o fandiau pres gorau'r byd. Maen nhw hefyd yn eithaf swnllyd, ac yn dilyn cwynion gan drigolion lleol am y lefelau sŵn, fe roddwyd ASBO arnyn nhw. Yn hytrach na gwylltio am hyn, mae Marc yn llawn cydymdeimlad â chlustiau'r bobl leol ac wedi mynd i drafferth mawr i sicrhau bod ei neuadd ymarfer yn ynysu'r sain.
Rhys Lloyd - Hyfforddwr Trac Rasio Pembre
Mae Rhys, sy'n bedair ar hugain mlwydd oed, yn rasio'n gyson ar Drac Rasio Pembre, ac mae hefyd yn hyfforddi darpar yrwyr rali yno. Dechreuodd Rhys ei yrfa'n rasio cart pan oedd yn un ar ddeg mlwydd oed ac wedi pum mlynedd aeth yn ei flaen i rasio ceir a ralio. Ers hynny mae wedi mynd o nerth i nerth, a llynedd fe gurodd 35 o yrwyr eraill i ddod yn bencampwr Cymru a Phrydain. Yn ŵr busnes naturiol, sefydlodd Rhys ei fusnes garej ei hun pan oedd ond yn un ar hugain mlwydd oed. Mae'n rasio bron i bob yn ail benwythnos, a hyd yn oed heb nawdd, mae'n gallu cynnal ei hun oherwydd ei fusnes llewyrchus.
Owain Davies - Cocs Bad Achub Porth Tywyn
Mae Owain Davies yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar fusnes peirianneg lleol llwyddiannus ac yn aelod blaenllaw o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain. Ond yn ei amser hamdden mae'n gocs ar Fad Achub Porth Tywyn i'r RNLI. Agorwyd drysau gorsaf bad achub Porth Tywyn am y tro cyntaf yn 1973 a gan fod ei dad yn gocs ar y pryd, magwyd Owain o gwmpas cychod ac roedd e'n treulio llawer iawn o'i amser yn yr orsaf. Ymunodd â'r criw pan oedd yn ddwy ar hugain, fe'i apwyntiwyd y llywiwr ieuengaf erioed pan yn ddeunaw, ac mae'n dathlu 20 mlynedd o wasanaeth eleni. Gyda dros 70 milltir o arfordir i edrych ar ei ôl, mae criw bad achub Porth Tywyn yn gofalu am un o'r ardaloedd mwyaf yn y wlad.
Peggy Davies - Hen Fenyw Fach Cydweli
Peggy Davies, sy'n chwe deg saith mlwydd oed, yw Hen Fenyw Fach Cydweli swyddogol y dref ers bron i ddegawd. Mae'r rôl seremonïol yn golygu gwisgo mewn gwisg Gymreig arbennig a gwneud ymddangosiadau yng Nghastell Cydweli lle mae'n gwerthu ei losin i dwristiaid ac i blant ysgol. Mae holl elw gwerthiant y losin du yn mynd tuag at gronfa goleuo'r castell adeg y Nadolig.
Spencer Davies - Peilot lleol
Ganwyd a magwyd Spencer Davies ym Mhorth Tywyn. Yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar ei gwmni peirianneg ei hun am 35 mlynedd, mae bellach wedi lled ymddeol ac yn treulio llawer o'i amser yn hwylio ac yn hedfan ei awyren fach bedair sedd, y Cessner 172. Mae'n cadw'r awyren mewn awyrendy ym maes awyr Pembre ac yn treulio sawl diwrnod yn teithio yn yr awyren led led y wlad - yn hedfan i Gaernarfon neu'r Ynysoedd Sili am ginio. Yn anffodus mae ei wraig ofn hedfan a hwylio ond dyw Spencer ddim yn brin o gwmpeini i fynd ar ei deithiau.
Mansel Thomas - Hanesydd
Prifathro wedi ymddeol ac actor yw Mansel Thomas ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn hanes lleol. Fel brodor lleol o Fynydd-y-Garreg ers 30 mlynedd, mae ganddo gyfoeth o straeon am yr ardal. Fe fydd yn adrodd stori iasol am hanes Cydweli wrth iddo sôn am achos llofruddiaeth y teulu Greenwood wrth Iolo.
Anna Brown - Cogyddes
Wedi'i geni a'i magu yng Nghydweli, fe ddaeth Anna yn ail yng nghystadleuaeth deledu Chez Dudley ar S4C yn 2006. Hi bellach sy'n rhedeg tafarn a bwyty'r Farriers yn Nhrimsaran. Mae ganddi hefyd slot goginio rheolaidd ar raglen Wedi 3 ac mae'n ysgrifennu colofn wythnosol ar gyfer papur y Carmarthen Journal. Fe ddangosodd ddiddordeb mewn coginio yn ifanc iawn ac fe'i ysbrydolwyd gan ei mam oedd yn gogyddes arbennig. Mae tad Anna yn filfeddyg a ffermwr felly roedd yna ddigonedd o gynnyrch i arbrofi â nhw pan oedd hi'n blentyn. Hyd yn oed pan yn ei harddegau, fe fyddai hi'n ddigon hapus i flingo a chymalu cwningod a ffesantod yn barod ar gyfer y sosban. Mae Anna wedi cael gwahoddiad i goginio ar gyfer perchnogion a'r hyfforddwyr yn Agoriad Swyddogol trac rasio ceffylau Ffos Las. Fe fydd Shân yn ymuno â hi ynghanol y paratoadau.
Arwyn Morgan a Wyn Davies - Ffos Las
Mae Arwyn Morgan wedi bod yn ymwneud â thrac rasio Ffos Las ers ei sefydlu yn 2007, ac mae wedi bod yn Brif Dirmon ers i'r cwmni ennill y comisiwn i greu'r trac. Mae ei waith bob dydd yn golygu ei fod yn gorfod edrych ar ôl y safle bob dydd a sicrhau bod y tir o'r ansawdd gorau bob amser. Wyn Davies yw cydweithiwr agos Arwyn ac mae'r ddau ohonyn nhw yn cynnal y cwrs drwy'r flwyddyn.