Aberdaron
Yn y rhaglen hon mae Iolo Williams a Shân Cothi yn teithio i Aberdaron, pentref bach glan môr prydferth ar ben pellaf trwyn Penrhyn Llŷn. Mae'n gorwedd rhyw 15 milltir i'r gorllewin o Bwllheli a 33 milltir i'r de orllewin o Gaernarfon, ac mae'n gartref i ryw 1,019 o bobl. Yng nghanol y pentref mae pont garreg o'r ail ganrif ar bymtheg, sy'n croesi'r Afon Daron wrth i honno ddechre ar gymal olaf ei thaith i'r môr. Ddim yn bell o'r traeth mae'r hen fythynnod pysgotwyr gwyngalchog, yn atgof o ddibyniaeth draddodiadol y gymuned leol ar y môr.
Mae Aberdaron yn gyrchfan gwyliau poblogaidd iawn, ac mae ymwelwyr yn tyrru yma yn eu miloedd bob blwyddyn.
Criw Clwb Hwylio Aberdaron
Bydd Iolo'n ymuno â John Gwynfor Jones a Dafid John Griffiths ar lan y môr. Mae'r ddau yn weithgar iawn gyda'r Clwb Hwylio lleol. Bydd Iolo'n clywed am gychod arbennig Aberdaron.
Alun Jones: Gwersyll Dwyros
Bydd Shân yn galw heibio gydag Alun Jones yng Ngwersyll Dwyros. Mae Alun wedi byw yn Aberdaron ers 1986, a gellir dadlau fod ganddo un o olygfeydd prydferthaf yr ardal o'i ddrws ffrynt, yn edrych lawr i'r môr a Bae Aberdaron. Athro rhan amser yw Alun yn ogystal â rhedeg y maes pebyll a charafannau. Mae maes pebyll a charafannau Dwyros yn denu nifer o ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn, ac mae tipyn o dir gan Alun i ofalu amdano, felly tybed a fydd Shân yn medru cynnig help llaw?
Colin Evans: Teithiau i Ynys Enlli
Mae Colin yn ddyn lleol sydd yn gwneud ei fywoliaeth o bysgota a threfnu tripiau ar y cwch o Aberdaron i Ynys Enlli. Yn ogystal â threfnu teithiau i'r Ynys, mae gan Colin dipyn o gyfrifoldebau eraill yno hefyd. Fe sydd yn cludo'r post ac unrhyw nwyddau eraill sydd eu hangen arnynt at drigolion yr Ynys.
Gan fod Colin yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser ar y môr yn teithio o Aberdaron i Ynys Enlli, does neb yn well nag ef i adrodd ambell i stori am yr ardal. Mae Iolo a Shân yn ymuno ag ef ar y cwch ar daith i Ynys Enlli.
Angharad Roberts: Ffermio ar Ynys Enlli
Mae Angharad wedi dychwelyd adre i weithio ar fferm y teulu - Fferm y Cwrt - ar ôl cyfnod yn byw a gweithio yn Aberystwyth yn dysgu merch fyddar. Roedd hiraeth arni a dychwelyd i Benllŷn oedd yr ateb. Yn ffodus i dad Angharad, Gareth, daeth ei chariad hi, Carwyn, sydd yn wreiddiol o Aberystwyth, 'nôl gyda hi i helpu ar y fferm hefyd.
Yn ogystal â gofalu am Fferm y Cwrt, mae Angharad a'i theulu'n gyfrifol am ffermio ar dir Ynys Enlli. Mae 450 acer o dir yno, ac arno mae 400 o ddefaid a 25 o fuchod duon. Mae yna deulu yn byw ar Ynys Enlli yn gofalu am yr anifeiliaid a'r tir trwy gydol y flwyddyn, ond bydd teulu Fferm y Cwrt yn teithio draw yn aml i sicrhau fod pob dim dan reolaeth, ac i helpu yn ystod cyfnodau prysur, megis cneifio a seilej. Tybed a fydd Iolo a Shân yn mentro cynnig help llaw?
Dafydd Hughes: Canolfan Felin Uchaf
Bydd Iolo'n ymweld â Chanolfan Felin Uchaf. Canolfan Addysg ydyw sydd yn ymchwilio i ffordd o fyw a Chydweithio Creadigol mewn Partneriaeth a'n Gilydd a'n Amgylchedd. Dafydd Hughes yw rheolwr y prosiect. Bydd Iolo'n goruwchwylio peth o'r gwaith adeiladu sydd yn mynd yn ei flaen yno ar hyn o bryd.
Geraint, Ifan a Deio: Syrffio
Bydd Iolo a Shân yn cwrdd â'r tri bachgen lleol yma ar y traeth wrth iddyn nhw baratoi i fynd allan i syrffio. Tybed a fedran nhw gynnig rhai tips i'r ddau? A tybed hefyd a chaiff Iolo a Shân y cyfle i wisgo'r hen 'wetsuits' eto?
Tony Jones: Ffotograffydd
Ar ôl 40 mlynedd yn gweithio ar y môr, mae Tony Jones wedi dychwelyd i'w wreiddiau yn Rhiw, sydd rhyw 2 filltir o Aberdaron. Mae'n falch iawn i ddweud ei fod wedi hwylio o gwmpas y byd dair gwaith cyn iddo droi 18 mlwydd oed. Mae gan Tony ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth erioed, a chafodd ei gamera gyntaf o Siapan yn 16 mlwydd oed, pan oedd ar un o'i deithiau. Ers ymddeol, mae Tony yn cadw'n brysur. Ef sydd yn gyfrifol am wefan www.Rhiw.com sydd yn rhoi pob manylyn o wybodaeth am ei ardal leol. Prynodd Porsche newydd i'w hun fel anrheg ymddeol ac mae'n mwynhau gyrru'r car ar deithiau hir pan fydd amser yn caniatáu. Ac wrth gwrs, ei ddiddordeb pennaf yw tynnu lluniau. Mae'n canolbwyntio, rhan amlaf, ar dynnu lluniau o dirluniau pan fo'r haul yn codi neu'n machlud. Mae olo'n ymuno ag ef wrth iddo geisio dal y machlud.
Alaw Tecwyn a Huw Erith: Cyd-gyfansoddi
Mae Alaw Tecwyn a Huw Erith yn cyfansoddi ar y cyd. Huw sy'n mynd ati i ysgrifennu'r geiriau tra bod Alaw yn gweithio ar alaw addas i gydfynd â'r geiriau. Merch leol yw Alaw sydd yn astudio'r llais yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Manceinion ac mae Huw yn bysgotwr lleol. Bydd Shân yn ymuno â nhw am sgwrs am eu partneriaeth.

