Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro

Y Bala a'r Fro

Yr wythnos hon ar Bro, mae Iolo a Shân yn ymweld â thref Y Bala sydd wedi ei lleoli yn yr hen Sir Feirionydd yng Ngwynedd. Ar un adeg, roedd Y Bala'n ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân, ac fe fyddai hyd at 200,000 o barau o sanau yn cael eu gweu bob blwyddyn gan y trigolion lleol.

Heddiw, mae bron i 2,000 o bobl yn byw yno. Mae enw trawiadol y dref yn dod o'r gair Celtaidd belago sy'n golygu: "man lle bydd afon yn llifo o lyn". A'r llyn hwnnw, wrth gwrs, ydy Llyn Tegid - y llyn mwyaf yng Nghymru.

Sion Llewelyn: Fferyllydd Lleol

Sion Llewelyn: Fferyllydd Lleol

Bydd Sion Llewelyn o Lanuwchllyn yn ymuno â Iolo a Shân am drip ar y trên stêm o Lanuwchllyn i'r Bala. Er mai fel fferyllydd mae pawb yn adnabod Sion, yn ei amser hamdden, mae'n mwynhau crwydro mynyddoedd yr ardal, felly mae ganddo lu o straeon am hanes yr ardal. A chawn gyfle i glywed hefyd am ffisig enwog Y Bala!

ELIN HAF DAVIES: nyrs sydd yn hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth IronMan

Merch leol o ardal y Parc sydd heb ofn unrhyw sialens yw Elin Haf Davies! O ddydd i ddydd, mae Elin erbyn hyn yn byw yn Llundain ac yn gweithio fel nyrs yn Ysbyty Great Ormond Street, ac yn ei hamser hamdden yn rhoi ei hunan a brawf trwy osod sialensau rhyfeddol i'w hun. Mae wedi chwarae rygbi i Gymru ac wedi ymddangos yn llyfr The Guiness Book of Records fel aelod o'r tîm merched cyntaf i rwyfo cefnfor India. Ar hyn o bryd, mae'n hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth IronMan yn y Swistir, lle bydd gofyn iddi nofio dwy filltir a hanner, beicio dros 100 milltir a rhedeg 26 milltir. A ble gwell i hyfforddi ar gyfer nofio mewn dŵr oer nag ar Lyn Tegid? Bydd Iolo'n ymuno ag Elin am sgwrs. Yn ogystal â hyn oll, mae Elin hefyd yn astudio am ei doethuriaeth yn Llundain, ond dychwelyd adre bob cyfle posib sydd ar dop y rhestr!

RIA THOMAS: Siop Ria

RIA THOMAS: Siop Ria

Mae Ria yn rhedeg siop ei hun ar brif stryd Y Bala, yn gwerthu pob math o drugareddau o emwaith i fframiau i'r cardiau mae Ria yn eu creu gyda llaw yn ei gweithdy bach y tu cefn i'r siop, sydd yn enwog ar hyd y fro. Mae Ria'n ferch leol i ardal Y Bala a theimlodd dynfa i ddychwelyd i'w gwreiddiau ar ôl cyfnod i ffwrdd yn y coleg.

Caiff Shân y cyfle i gael tro ar greu un o'r cardiau mwyaf poblogaidd a werthir yn y siop.

EILIR ROWLANDS: Creu Cerfluniau gyda Llif-gadwyn

Mae Eilir Rowlands o fferm yr Hendre yng Nghefnddwysarn, rhyw bedair milltir o ganol tref Y Bala. Mae'n enwog ar hyd y fro am y cerfluniau rhyfeddol mae'n eu creu gan ddefnyddio llif-gadwyn. O ddydd i ddydd, mae Eilir yn gweithio fel contractiwr ac yn ail gynllunio gerddi, felly cadwch lygaid allan am ei waith sydd yn frith o gwmpas yr ardal. Caiff Iolo sgwrs gydag Eilir am y grefft unigryw hon a chyfle i ddysgu ychydig am y stori y tu cefn i ambell i ddarn.

SIONED LLEWELYN WILLIAMS: Bythynnod Bryn Caled

SIONED LLEWELYN WILLIAMS: Bythynnod Bryn Caled

Bydd Shân yn ymweld â bythynnod pum seren Bryn Caled yn Llanuwchllyn i gwrdd â'r perchennog, Sioned Llewelyn Williams. Merch leol yw Sioned sydd wedi dychwelyd i'w hardal enedigol ar ôl cyfnod yn byw a gweithio yng Nghaerdydd.

Dilyn cariad adre bu hanes Sioned, ac erbyn hyn, mae wedi ymgartrefu gyda'i gŵr Gareth a'u tri o blant yn Llanuwchllyn, yn cynnig llety o'r safon uchaf ar dir eu fferm ar ôl penderfynu troi beudy'r fferm i fwthyn pump seren. Ar ôl llwyddiant y beudy, penderfynodd Sioned agor dwy arall, ac erbyn hyn, mae'r bythynnod yn denu ymwelywr o bell i ardal Y Bala a'r fro.

Bydd Shân yn galw mewn i roi help llaw i lanhau'r bythynnod...

LOWRI REES: Golygydd Cylchgrawn Wa-w!

Golygydd cylchgrawn lleol y Bala sef cylchgrawn Wa-w yw Lowri. Yn wreiddiol, cafodd Wa-w! ei gyhoeddi yn arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffuniau yn 2009. Yn dilyn galw am un arall, penderfynodd Lowri fynd ati i gyhoeddi rhifyn misol ohono. Gwerthwyd dros 3,000 o gopïau o'r rhifyn gyntaf ac mae Lowri yn gobeithio'n fawr y bydd y cylchgronau i ddilyn yr un mor llwyddiannus.

Mae Lowri yn creu a golygu'r cylchgrawn o'i fferm yn Llanuwchllyn, a bydd Iolo'n taro mewn i gwrdd â'r teulu a helpu Lowri wrth ei gwaith.

ROWENNA A DERWYN WILLIAMS: Celf Gwyllt Cymru

ROWENNA A DERWYN WILLIAMS: Celf Gwyllt Cymru

Bu Shân yn ymweld â Rowenna a'i mab Derwyn ar lan Llyn Tegid. Mae Rowenna yn rhedeg Celf Gwyllt Cymru, sefydliad sydd yn credu mewn ceisio ysbrydoli pobl o bob oed a gallu i gysylltu gyda'r amgylchedd trwy ffyrdd creadigol. Celf amgylcheddol sydd yn mynd â bryd Rowenna, ac mae'n mwynhau'r syniad o greu celf yn yr awyr agored a'i adael yno i bobl eraill ei fwynhau ac efallai ychwanegu ato.

Mae Rowenna a Derwyn wedi penderfynu byw bywyd gwyrdd a defnyddio elfennau naturiol ym mhob agwedd o'u bywyd, ac mae Rowenna yn dysgu Derwyn o gartref. Caiff Shân y cyfle i fwynhau rhai o ddanteithion Derwyn wrth iddo baratoi cawl arbennig iawn ar lan y llyn a helpu Rowenna wrth ei gwaith yn creu cerflun ar lan y llyn.

CANOLFAN TRYWERYN

CANOLFAN TRYWERYN

Bydd Iolo a Shân yn ymweld â Chanolfan Tryweryn i flasu'r gweithgareddau sydd ar gael ar yr afon yn Frongoch. Mae'r ganolfan yn denu miloedd o ymwelwyr i'r ardal bob blwyddyn a hi oedd y sefydliad rafftio masnachol gyntaf i'w sefydlu ym Mhrydain yn 1986. Rheolir afon Tryweryn gan argae, felly mae dŵr yn medru llifo drwyddi o hyd, hyd yn oed pan fo afonydd eraill yn sych.

Bydd Iolo a Shân yn cwrdd â Awel Mai, merch lleol sydd yn gweithio yn y swyddfa yno, yn trefnu tripiau i bobl o bell ac agos. Ac allai'r ddau ddim gadael heb gael tro mewn rafft...

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales