Y Barri
Yr wythnos hon ar Bro, mae Iolo a Shân yn ymweld â'r dref mae pawb yn ei chysylltu â'r gyfres deledu boblogaidd, Gavin and Stacey - Y Barri. Mae tre'r Barri tua 7 milltir i dde-orllewin dinas Caerdydd, ac mae'n agos at 50,000o bobl yn byw yma. Mae Ynys y Barri yn gyrchfan gwyliau poblogaidd i ymwelwyr bob blwyddyn. Mae miloedd yn tyrru yma oherwydd traethau bendigedig yr ardal. Mae diwydiant yn bwysig i'r dref hon, gyda nifer o gyflogwyr mawr yn helpu i ddarparu swyddi newydd yn lle'r nifer fawr o swyddi a gollwyd oherwydd diflaniad yr hen ddiwydiannau glo a haearn.
Catrin Elis: Maes Awyr Caerdydd
Bydd Iolo yn mynd, â'i ges a'i basbort gydag ef, i gwrdd â Catrin Elis ym Maes Awyr Caerdydd, yn y gobaith o fynd ar ei wyliau. Caiff olwg tu ôl i'r llenni ar yr hyn sydd yn mynd ymlaen yno o dan arweiniad Catrin, sydd yn gweithio yno fel Swyddog Marchnata. Tybed ble fydd Iolo yn treulio ei wythnos?
David Thompson: Taith Gavin and Stacey
Bydd Shân yn cwrdd â David Thompson, sydd yn cynnig teithiau Gavin and Stacey yn yr ardal leol. Gyda phoblogrwydd y gyfres deledu, mae'r Barri yn gyrchfan i nifer o wylwyr y rhaglen, ac mae David wrth ei fodd yn dangos yr holl leoliadau lle ffilmiwyd y gyfres, gan ddechrau yng Nghaffi Marco ar yr ynys.
Steffan Wiliam: Hanesydd
Bydd Iolo yn ymuno â Steffan Wiliam wrth ymyl ei dŷ ar Ynys y Barri i ddysgu ychydig am hanes y dref. Mae Steffan yn weithgar iawn yn y gymuned, ac mae e wedi byw yn y Barri y rhan fwyaf o'i oes. Mae ganddo olygfeydd hyfryd o tu allan i'w dŷ yn edrych allan dros yr ynysoedd sydd yn y amgylchynu'r Barri.
Lana Evans: Achub Bywyd
Bydd Shân yn ymuno â Lana Evans wrthi iddi hyfforddi ar y traeth ar gyfer ei chystadleuaeth achub bywyd nesaf. Cyn hir, bydd Lana'n teithio i'r Aifft i gystadlu ym Mhencampwriaeth Achub Bywyd y Byd. Mae Lana wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol. Â hithau'n gweithio fel achubydd bywyd ar y traeth yn y Barri, mae'n siŵr ei fod yn lle diogel iawn i nofio.
Amy ac Oliver Grant: Island Leisure Arcade
Bydd Iolo wrth ei fodd wrth gwrdd â'r brawd a chwaer Amy ac Oliver, sy'n gweithio yn un o'r arcedau poblgaidd ar yr ynys. Ffilmiwyd rhan o gyfres Gavin and Stacey yma, felly mae'n gyrchfan boblogaidd iawn i ymwelwyr. Bydd Iolo'n cynnig help llaw, ond mae'r peiriannau â'u goleuadau llachar yn ei ddenu…
Grwp Ballet Stage 1
Bydd Shân yn galw ym mar cabaret Shadows i gwrdd â grwp o blant lleol sy'n cael gwersi ballet wythnosol yno. Caiff sgwrs gyda rhai o'r plant a'u rhieni. Tybed faint o siap fydd ar Shân wrth iddi roi tro arni?
Tŷ Hafan
Bydd Iolo'n galw yn hosbis Tŷ Hafan, sydd wedi ei leoli yn ardal y Sili, ger y Barri. Mae Tŷ Hafan yn cynnig cysur, gofal a chymorth i blant a phobl ifanc, gan roi pwyslais ar wella ansawdd eu bywyd nhw a'u teuluoedd. Bydd Iolo wrth ei fodd yn cael golwg ar y gwaith pwysig mae'r staff yn ymgymryd ag ef a chwrdd â rhai o'r teuluoedd sy'n derbyn y gofal a'r cymorth yma.
Gethin Edwards a Huw Griffths: Hwylforio
Yn ystod y gyfres, mae Shân wedi gorfod gwisgo sawl westsuit. Ond yr wythnos hon, bydd yn gwisgo ei siwt bersonol am y tro cyntaf, wrth iddi gwrdd â Gethin Edwards a Dan Griffiths o Gymdeithas Hwylforio y Barri ar lyn Cosmeston i roi cynnig arni ei hun. Tybed sut 'hwyl' gaiff hi?

