Brynaman a'r Fro
Yr wythnos hon mae Iolo Williams a Shân Cothi mewn un pentref sy'n cael ei rannu rhwng dwy sir, sef Brynaman. Mae Shân yn ardal ddeheuol y pentref, sef Brynaman Isaf sydd yn Sir Castell Nedd a Phort Talbot ac mae Iolo yn rhan ogleddol y pentref, sef Brynaman Uchaf, sydd yn Sir Gaerfyrddin.
Ar hyd y blynyddoedd mae llawer o dynnu coes wedi bod rhwng y bobl oedd yn byw ym Mrynaman Uchaf a'r rhai oedd yn byw ym Mrynaman Isaf. Yn yr hen ddyddiau roedd ffair yn cael ei chynnal yn yr ardal a byddai bois y top a bois y gwaelod yn ymladd yn erbyn ei gilydd - yn ffodus, mae'n bentref llawer mwy cyfeillgar erbyn hyn. Mae'r pentref wedi ei leoli ar droed y Mynydd Du, sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae nifer o gerddwyr yn tyrru i'r ardal bob blwyddyn i fwynhau'r golygfeydd godidog.
Sarah Hopkin - Hanes
Iolo sy'n ymuno â Sarah Hopkin a'r criw wrth iddyn nhw fynd am dro ar y Mynydd Du a chaiff wybod mwy am hanes diwydiant yr ardal. Cyn athrawes yw Sarah sydd wedi byw ym Mrynaman erioed. Mae'n un o wirfoddolwyr brwd y gymuned ac yn helpu yn y Ganolfan yn aml. Mae hefyd yn aelod o Grŵp Cerdded yr ardal sy'n mynd am deithiau cyson o gwmpas y fro.
Margaret, Sharon a Steffani - Cwmni Bysus Gareth Evans
Cwmni teuluol yw hwn, sy'n cael ei reoli bellach gan dair cenhedlaeth o ferched; y fam a'r ferch, Sharon a Steffani a Margaret, y fam-gu, sy'n parhau i gynorthwyo a gyrru bysiau weithiau pan fo angen help ychwanegol. Y menywod sy'n gyfrifol am gludo plant yr ardal i'r ysgol a'r henoed ar eu tripiau i amrywiol lefydd. Shân sy'n cael y cyfle i deithio ar un o'r bysus melyn gyda Margaret er mwyn cyrraedd Canolfan y Mynydd Du.
Ffion Davies - Canolfan y Mynydd Du
Iolo sy'n ymweld â Ffion Davies yng Nghanolfan y Mynydd Du gan ddysgu am y gweithgareddau amrywiol sy'n cael eu cynnig yma i bobl yr ardal. Mae Ffion yn brysur yn paratoi ar gyfer digwyddiad go arbennig ac mae Iolo'n cael tro yn cynorthwyo gyda'r Luncheon Club wrth alw rhifau'r bingo. Canolfan y Mynydd Du yw Canolfan Gymunedol Brynaman a dyma yw canolbwynt y pentref ers yr agoriad swyddogol yn 2004
Peri Thomas - Mess up the Mess
Shân sy'n ymuno â Peri Thomas a Chwmni Theatr Mess up the Mess yng Nghanolfan y Mynydd Du. Nod Mess up the Mess yw darparu gweithdai ysgogol, addysgiadol ac yn bennaf oll, hwyliog i bobl ifanc a grwpiau sy'n dymuno datblygu eu sgiliau theatr. Mae'r ieuenctid yn ymarfer sgiliau dyfeisio, theatr gorfforol, creu cymeriad, gwaith ensemble, hyfforddiant llais a chanu. Caiff Shân ychydig o hanes y grŵp ac ymuno mewn sesiwn ymarferol gyda'r criw byrlymus.
Dai Evans - Artist
Mae gan Dai nifer o ddiddordebau megis ffotograffiaeth, garddio a bod yn dad-cu. Ffotograffiaeth ffilm yw gwaith celf pennaf Dai ac mae'n disgrifio'i waith fel swreal a herfeiddiol. Caiff Dai ei ysbrydoli i edrych o safbwynt gwahanol er mwyn gwneud i i'r gwyliwr feddwl a chwerthin hefyd. Mae Dai'n defnyddio modelau ac yn adeiladu ei setiau ei hun er mwyn rhoi ei farn ar gelfyddydau a materion cyfoes mewn modd hwyliog ac amgen. Shân sy'n edrych ar waith Dai ac yn ceisio dadansoddi ei luniau.
Juliana Hughes - Zumba
Juliana sydd wedi dechrau'r dosbarthiadau dawnsio Zumba yn ardal Brynaman trwy ei gwaith gyda Cymunedau yn Gyntaf, Llywodraeth Cynulliad Cymru. Iolo sy'n ymuno yn yr hwyl a'r sbri gyda'r dosbarth yn Ysgol Gwaun Cae Gurwen lle mae'r chwys yn diferu.Mae Iolo wrth ei fodd yn troelli ei gluniau ac yn symud gyda'r gerddoriaeth gan geisio cystadlu gyda'r merched bywiog.
Brian Harries - Sinema Brynaman
Mae Brian wedi ymddeol yn rhannol o'i waith yn y sinema erbyn hyn, ond caiff Shân glywed ei hanes a dysgu am waith y taflunyddion gwahanol. Mae Brian yn dal i fwynhau'r gwaith amrywiol yn y sinema - tybed a fydd amser ganddo i wylio ffilm fach gyda Shân?
Edward Dennis - Reslwr
Iolo sy'n cael y profiad o rannu llawr gydag Edward Dennis, sef Dafydd Rhys Y Ddraig neu Eddie Lizzard fel mae'n cael ei adnabod yn y cylch reslo. Dechreuodd diddordeb Edward mewn chwaraeon corfforol pan oedd yn mynychu'r ysgol Judo yng Ngwaun Cae Gurwen pan oedd yn fachgen ifanc. Er bod Edward wedi ei hyfforddi i fod yn athro Mathemateg, mae wedi penderfynu dewis bod yn reslwr. Mae Edward wedi treulio chwe mis yng Nghanada eleni yn hyfforddi ymhellach yn y cylch reslo ac mae'n dysgu symudiad go arbennig i Iolo yn ystod ei sesiwn ymarfer. Tybed pwy fydd â'r llaw uchaf?
Lisa Pedrick - Cyfansoddwraig a Pherfformwraig
Ganwyd Lisa Pedrick yng Ngwaun Cae Gurwen ac mae wedi perfformio ers pan oedd yn ifanc iawn. Mae Lisa wedi bod yn canu mewn gigs acwstig o amgylch Cymru ac yn 2008, cyhoeddwyd ei CD hyd llawn cyntaf, sef Dyma'r Amser. Mae Lisa hefyd wedi cwblhau ei EP cyntaf, sy'n cynnwys caneuon y mae hi wedi eu cyd ysgrifennu a chân newydd gan Cerys Matthews. Mae Lisa wedi dechrau band 5 darn yn ddiweddar hefyd, sef Peri, gyda cherddorion lleol. Mae Lisa wedi perfformio ar S4C yn achlysurol dros y 5 mlynedd diwethaf a mwy. Mae Shân yn clywed hanes un cyfansoddiad arbennig iawn sef 'Sunshine' sy'n sôn am dad-cu Lisa.

