Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro

Caerfyrddin

Yr wythnos hon ar Bro, bydd Iolo a Shân yn ymweld â Chaerfyrddin, tref hynaf Cymru, sy'n gorwedd ar lannau'r afon Tywi. Tref farchnad brysur yw hi, gydag amrywiaeth dda o gyfleusterau siopau traddodiadol a modern, ac mae'n gartref i bron i 14,000 o bobl. Credir mai Caerfyrddin oedd cartref Myrddin, sef dewin y Brenin Arthur, a bu ei goeden dderwen yn nodwedd amlwg yn y dref am flynyddoedd.

Moyra Blakeman: Pantri Blakeman

Moyra Blakeman: Pantri Blakeman

Bydd Iolo'n galw i gynnig help llaw i Moyra a gweddill staff y caffi poblogaidd hwn. Caiff Iolo wres ei draed wrth i'r merched geisio ei hyfforddi i fod yn aelod defnyddiol o staff. Mae Moyra a'i chwaer Carol wedi bod yn rhedeg y caffi ers rhyw 4 mlynedd bellach, ac maent yn cynnig bwydlen draddodiadol Gymreig.

Keith Gibby: Pencadlys yr Heddlu (Adran Cŵn)

Keith Gibby: Pencadlys yr Heddlu (Adran Cŵn)

Bydd Shân yn ymweld â Phencadlys Heddlu Dyfed Powys sydd wedi ei leoli ychydig y tu allan i dref Caerfyrddin yn Nantycaws, ac yn cwrdd â Keith Gibby sydd yn gweithio yn yr Adran Cŵn. Caiff Shân sgwrs am y broses o hyfforddi'r cŵn a chlywed ychydig am hanes Keith ei hun, a'r mwynhad sydd yn dod gyda'r gwaith.

Elinor Wyn Reynolds: hanes yr ardal

Elinor Wyn Reynolds: hanes yr ardal

Bydd Iolo'n galw mewn gydag Elinor Wyn yn ei rhandir yng nghanol y dref i ddysgu ychydig am ei hanes. Clywn wrth ferch leol sut le yw Caerfyrddin i fyw, y newidiadau mae'r dref wedi eu gweld yn ddiweddar, a'r dynfa sydd gan y dref i ddenu ei frodorion yn ôl. Yn enedigol o'r dref ei hun, bu Elinor yn byw i ffwrdd am nifer o flynyddoedd, ond penderfynodd yr hoffai i'w phlant gael eu magu yma yn y dref. Bardd a darlledwraig yn y Gymraeg a'r Saesneg yw Elinor Wyn ac mae wedi gweithio'n helaeth gyda phlant o bob oed yn y ddwy iaith gyda gweithdai barddoniaeth a rhyddiaith amrywiol. Mae'n cyhoeddi ei gwaith yn gyson mewn cylchgronau megis Taliesin, Barn a Golwg, ac mae hefyd yn ysgrifennu dramâu. Mae Elinor Wyn newydd gychwyn swydd newydd fel golygydd gyda Gwasg Gomer.

Rhian Evans

Rhian Evans

Bydd Shân yn ymweld ag un o gymeriadau mwyaf diddorol Caerfyrddin, Rhian Evans, yn ei thŷ yn nhref Caerfyrddin. Ers blynyddoedd bellach, mae Rhian wedi colli ei golwg, ond dyw hynny ddim wedi ei rhwystro hi rhag byw bywyd llawn a phrysur, a bydd Shân yn dysgu ychydig mwy am ei ffordd hi o fyw.

Marchnad Caerfyrddin

Marchnad Caerfyrddin

Bydd Iolo yn crwydro trwy Farchnad Caerfyrddin ar ddiwrnod prysur yn y dref. Bydd yn cwrdd â nifer o'r stondinwyr sydd wedi gweld newidiadau mawr yn ddiweddar yn y farchnad: John a Iona sy'n rhedeg y stondin ffrwythau a llysiau; Paula Richardson sy'n rhedeg stondin gacennau; Lawrence Thomas a'i stondin gaws a menyn, a Chris ac Ann Rees o stondin cigyddion Albert Rees. Bydd Iolo yn cynnig help llaw, ac yn gwerthu'r nwyddau arbennig sydd ganddynt i'w gynnig i drigolion Caerfyrddin ac ymwelwyr o bell.

Jack Morris: crefftwr

Jack Morris: crefftwr

Bydd Shân yn galw heibio i weithdy'r crefftwr lleol, Jack Morris, i weld beth sydd ganddo ar waith. Mae Jack yn byw ym mhentref bach Abergwili, tua 2 filltir a hanner allan o dref Caerfyrddin, ac sy'n gartref i Amgueddfa Caerfyrddin. Mae Jack wedi byw yma ers dros ugain mlynedd gyda'i wraig Pauline a'i ferch. Mae gwaith Jack i'w weld mewn nifer o lefydd lleol, yn amrywio o ysgolion lleol i dafarndai lleol. Ar hyn o bryd mae Jack wrthi'n creu cerflun o Myrddin a fydd yn cael ei osod ar gylchfan yn y dref. Er bod Jack wedi rhyw hanner ymddeol erbyn hyn, mae'n ei gweld hi'n anodd iawn i hongian ei dŵls i fyny yn gyfan gwbl, a bydd Shân yn awyddus i'w helpu gyda'i waith.

Robert Morgan: Canolfan Filfeddygol Caerfyrdd

Robert Morgan: Canolfan Filfeddygol Caerfyrdd

Nghaerfyrddin erioed, heblaw am y blynyddoedd yr oedd yn y coleg yn Llundain yn hyfforddi i fod yn filfeddyg rhwng 1956 a 1963. Ar ôl gorffen ei hyfforddiant, daeth yn ôl i weithio i gwmni milfeddyg ei dad ar Heol y Gwyddau. Ymunodd y cwmni â milfeddygon eraill i greu Merlin Vet Groups tan i Rob benderfynu rhedeg y cwmni'n annibynol yn 1988. A dyna sut y bu hi am 20 mlynedd, gan gyflogi chwech aelod arall o staff. Oherwydd y datblygiadau oedd i ddod gyda'r siopau newydd yn y dref, cafodd Rob ei orfodi i ystyried adeilad a safle newydd, felly unodd 3 phractis gwahanol i greu Canolfan Filfeddygol Caerfyrddin yn Llanllwch. Bydd Iolo'n dysgu am yr hyn sydd gan y ganolfan i'w gynnig i'r bobl leol...a tybed sut bydd Iolo'n delio gyda gweld llawdriniaeth?

Geraint Griffiths: cerddor

Geraint Griffiths: cerddor

Bydd Shân yn cwrdd â wyneb cyfarwydd sy'n gysylltiedig ag ardal Caerrfyrddin, Geraint Griffiths. Mae Geraint, yn wreddiol o Bontrhydyfen, wedi gwneud ei farc ym myd cerddorol Cymru ar hyd y blynyddoedd, yn canu gyda nifer o fandiau. Dechreuodd gyfansoddi pan oedd yn 14 mlwydd oed, ac mae nifer o'i ganeuon ag ôl dylanwad tref Caerfyrddin arnyn nhw. Ers blynyddoedd bellach, mae Geraint yn ei ystyried ei hun yn frodor o Gaerfyrddin am iddo fyw yma gyhyd, ond yn ddiweddar, mae wedi bod yn hel ei achau, ac wedi darganfod mai yma yng Nghaerfyrddin y roedd ei wreiddiau o'r cychwyn.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales