Dolgellau
Mae Shân ac Iolo yn gorffen eu taith o gwmpas Cymru drwy ymweld â Dolgellau, tref farchnad yng Ngwynedd sydd wedi'i lleoli wrth droed Cader Idris ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Dyma'r dref sy'n hawlio mae ganddi hi y mae clwb criced hynaf Cymru ac ar hyd y blynyddoedd mae yna filoedd o ymwelwyr wedi tyrru yma er mwyn cael Sesiwn Fawr!
Pentref oedd Dolgellau yn y ddeuddegfed ganrif, ond datblygodd yn raddol i'r dref rydyn ni'n ei hadnabod heddiw gyda'i strydoedd cul yn creu cyswllt rhwng sgwariau amrywiol y dref.
Mae'r dref yn gartref i 2,678 o drigolion erbyn heddiw, ond yn y ddeunawfed ganrif Dolgellau oedd canolfan diwydiant gwlân Meirionnydd. O ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen daeth dringo Cadair Idris yn boblogaidd ac yn sgil hynny datblygodd Dolgellau'n ganolfan bwysig i gerddwyr a mynyddwyr.
Ifan Richards - beicio
Mae Ifan Richards yn 32 ac yn byw ym Mrithdir sydd tua thair milltir o Ddolgellau. Mae wedi byw yno erioed ac mae'n gweithio i Gyngor Gwynedd yn Nolgellau. Mae Ifan wedi cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau rhedeg mynydd ac wedi cystadlu yn Ras yr Wyddfa eleni. Mae Ifan yn hyfforddi ar y mynyddoedd yn Nolgellau gan gynnwys yr Aran, mynydd Rhinogydd a Chader Idris. Mae Ifan yn hoff o rasio beiciau mynydd o gwmpas Dolgellau ac yng Nghanolfan Coed y Brenin. Iolo sy'n ymuno ag Ifan ar ei feic i ddysgu mwy am ei ddiddordeb a'i lwyddiant ar hyd Llwybr Mawddach.
Rhys Gwynn - Warden Parc Cenedlaethol Eryri
Ganwyd Rhys Gwynn yng Nghaerdydd ond mae wedi byw yn ardal Dolgellau ers sawl blwyddyn bellach - yn gweithio fel milfeddyg am gyfnod yn y fro cyn mynd i weithio fel Warden gyda Pharc Cenedlaethol Eryri pum mlynedd yn ôl. Mae Rhys wedi bod ynghlwm gyda nifer o brosiectau gwledig ers ei gyfnod fel warden ac un o'r rheiny yw addasu'r ceunant. Mae Rhys yn tywys Shân ar hyd Llwybr Clywedog gan egluro rhywfaint am ei waith fel warden cyn egluro am y diwydiant gwlân yn yr ardal wrth edrych ar yr hen felin.
Tudur Evans - Gweithdy Cyngor Gwynedd
Tudur Evans yw fforman Depot Cyngor Gwynedd yn Nolgellau. Tudur sy'n gyfrifol am y gweithwyr sy'n trwsio cerbydau'r Cyngor. Mae Tudur yn dipyn o gymeriad ac yn gwneud 'stand yp' ac yn canu gyda Chôr Colin Jones gyda'i frawd a'i dad. Iolo sy'n galw gyda Tudur i gael sgwrs am ei waith ac am ei ddiddordebau yn ystod ei amser hamdden.
Jaspa Wynne-Williams - Canolfan Ferlota
Mae gan yr ysgol ferlota 37 mlynedd o brofiad o hyfforddi disgyblion ag anghenion arbennig sut i farchogaeth. Mae gan Jaspa ddeg o geffylau i gyd a gwirfoddolwyr sy'n cynorthwyo yn y ganolfan gan helpu gyda'r dysgu dau ddiwrnod yr wythnos - plant ar ddydd Mawrth ac oedolion ar ddydd Mercher. Mae Jaspa'n athrawes Gymraeg yn Ysgol Y Gader yn ystod y tri diwrnod arall. Mae'r disgyblion wedi bod yn cystadlu ar lefel Prydain ers chwe' mlynedd ac wedi profi tipyn o lwyddiant. Shân sy'n ymweld â'r ganolfan ferlota i ddysgu mwy.
Gareth Wyn Jones - Gwanas Fawr
Mae llawer o hanes diddorol i gartref Gareth Wyn Jones, sef Gwanas Fawr ac Iolo sy'n galw heibio i gael mwy o wybodoaeth. Mae Gareth wrth ei fodd yn arlunio hefyd ac mae ei luniau i'w gweld o gwmpas y tŷ ym mhob man. Caiff Iolo gyfle i ddysgu am darddiad yr enw Gwanas a chael mwy o hanes y capel pabyddol ar ôl diddymiad y mynachdai gan Harri VIII yn 1538. Caiff Iolo weld tystiolaeth hyn heddiw yn ystod ei ymweliad.
Dylan Rowlands - Blasu Gwin
Mae Dylan Rowlands wedi byw yn Nolgellau ers chwarter canrif bellach ac yn cofio mynd yno ar ei wyliau yn ystod ei blentyndod. Daw Dylan o Essex yn wreiddiol ac mae wedi dysgu Cymraeg yn rhugl erbyn hyn. Mae Dylan wedi gorfod mynychu nifer o gyrsiau gwin er mwyn perffeithio'i grefft o flasu a disgrifio amrywiaeth o winoedd. Cwblhaodd Diploma dwy flynedd yn Llundain yn 2002 gan ddysgu sut i flasu gwin gan adnabod nodweddion gwahanol gwinoedd o wledydd amrywiol.
Nia Medi - Byncws HYB
Actores ac awdures o Harlech yw Nia Medi sy'n berchen ar siop unigryw mewn adeilad rhestredig yn Heol y Bont yn Nolgellau. Uwchben y siop mae Byncws HYB gyda phedair ystafell yn cysgu 16 sy'n addas ar gyfer mynyddwyr a cherddwyr sy'n dod i aros yn yr ardal. Iolo sy'n cael gweld y cyfleusterau sydd ar gael yn y byncws yn ystod ei ymweliad.
Ed Holden - 'Beatbocsio'
Ed Holden yw'r gŵr tu ôl Mr Phormula. Mae wedi bod yn aelod o fandiau megis Pep Le Pew, Genod Droog a'r Diwygiad. Mae Ed yn adnabyddus am rapio, beatbocsio a bod yn DJ. Mae Ed yn cynnal sesiynau beatbocsio yn Nhŷ Siamas yng nghanol Dolgellau a Shân sy'n cael ymuno gyda disgyblion Ysgol Y Gader yn ystod eu dosbarth beatbocsio.

