Dyffryn Nantlle
Yr wythnos hon ar Bro, bydd Shân a Iolo yn teithio i gyfarfod â thrigolion un o ddyffrynnoedd amlycaf Gwynedd, lle mae 'na bentrefi di-ri - Dyffryn Nantlle!
Mae Dyffryn Nantlle yn adnabyddus am y nifer fawr o bentrefi sy'n rhan o'r ardal arbennig yma, a daeth nifer o'r pentrefi yn y dyffryn i fodolaeth o ganlyniad i gloddio am lechi yn y chwareli a agorwyd yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Un o'r chwareli mwyaf ffrwythlon oedd Chwarel Dorothea, sydd bellach o dan ddŵr.
Mae'r pentrefi sy'n gorwedd yn y dyffryn yn frith o hanes a hen chwedlau - pentrefi fel Llanllyfni, sy'n un o bentrefi hynaf Gwynedd, ac a fu ar un adeg yn gartref dros nos i'r nifer o foch oedd yn teithio o Eifionydd i farchnad Caernarfon; a Rhosgadfan, cartref y gyfres deledu boblogaidd 'C'mon Midffild'.
Tybed pa gymeriadau caiff Shan a Iolo y pleser o'u cwmni…
Angharad Gwyn
Mae Angharad yn rhedeg busnes gwerthu nwyddau Cymraeg ar y we o'i chartref. Mae'n cadw ei stoc yn y garej. Mi fuodd hi'n gweithio yn Adran Addysg y BBC yn creu gwefannau yng Nghaerdydd am nifer o flynyddoedd, ond roedd am ddychwelyd i'w gwreiddiau. Felly bu ei sgiliau o greu gwefannau yn dipyn o help wrth gychwyn y busnes. Mae Angharad a'i gŵr wedi symud yn ôl i'r ardal ac maent yn byw yn y tŷ lle magwyd ei gŵr. Nôl i'w gwreiddiau go iawn.
Roedd Angharad wedi cael llond bola ar weld y nwyddau arferol a gysylltir â Chymru yn cael eu gwerthu - Cennin Pedr, doliau mewn gwisg Gymreig, dreigiau coch - ac mae'n teimlo'n gryf ynglŷn â hyrwyddo nwyddau gwahanol, chwaethus, gan grefftwyr o Gymru.
Dewi Jones
Mae Dewi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, yn canolbwyntio yn bennaf ar ddringwyr. Mae'n wybodus iawn am hanes yr ardal, ac yn hoff iawn o gerdded a mynydda. Cafodd Dewi ei fagu ym mhentref Rhosgadfan, mewn tŷ wrth ochr y mynydd, a dyma lle ddechreuodd ei ddiddordeb mewn mynydda. Roedd ei dad yn gweithio yn y chwarel, ac arferai Dewi gerdded i gwrdd â'r dynion wrth iddyn nhw ddychwelyd o'r chwarel.
Yn 1967, symudodd Dewi i Benygroes, lle mae wedi ymgartrefu gyda Veronica, ei wraig. Mae ganddo un plentyn, Sharon. Ac mae tipyn o amser Dewi yn cael ei gymryd yn diddanu ei ŵyr Ioan a'i wyres Mared. Tan iddo ymddeol, roedd Dewi yn gweithio fel storeman a gyrru forklift.
Bydd Dewi yn mynd â ni am dro i Lyn Dywarchen a amgylchynir gan fynydd y Garn, a Mynydd Mawr a'r Wyddfa yn gefndir i'r cyfan. Bydd yn sôn am y dringwr George Mallory (un o'r cyntaf i ddringo Mount Eferest) a wnaeth ddringo mynydd y Garn a sôn hefyd am ddringwr a gollodd ei fywyd ar y mynydd ac sydd wedi ei gladdu ym mynwent leol Llanllyfni. Bydd Dewi hefyd yn sôn am gysylltiadau teulu lleol y Griffithses o Fferm Drws y Coed gyda sefydlu Sinn Fein yn Iwerddon (Arthur Griffiths a ddechreuodd y sefydliad yn 1905).
Sonir hefyd am hanes Marged Fwyn Ferch Ifan, dynes gref o'r ardal oedd yn enwog am reslo,adeiladu cychod a thelynau 'nôl yn y ddeunawfed ganrif. Roedd hi hefyd yn un dda am hel llwynogod, a byddai'n crafu llinell ar y lle tân bob tro byddai'n llwyddiannus.
Eryri Vaulters - Gymnasteg ar Geffylau
Tua dwy flynedd yn ôl, dechreuodd Andrew Williamson y clwb arbennig hwn - Clwb Gymasteg ar Geffylau. Maent yn cwrdd ym Marc Glynllifon bob nos Iau i ymarfer. Mae'r rhan fwyaf o'r plant sydd yn y Clwb yn siarad Cymraeg. Mae'r grŵp wedi bod yn llwyddiannus mewn nifer o gystadleuthau cenedlaethol. Maen nhw'n teithio i gystadlu ym mhob man.
Helen 'Miaw' Smith
Mae Helen yn medru siarad Cymraeg, Saesneg, Groeg, Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg, ac yn gweithio fel cyfieithydd o ddydd i ddydd yng Nghanolfan Bedwyr. Mae hefyd yn cadw 4 cath - ac yn siarad gyda nhw. Groeg a Chymraeg yw'r ddwy iaith mae'r cathod yn eu deall.
Mae Helen hefyd yn canu tipyn o garioci. Mae'n ymarfer ar ei pheiriant hi adre ac wedyn yn mynd allan i ddiddanu yn lleol. Mae ganddi lais operatig ac un o'i hoff ganeuon yw 'To where you are' a wnaed yn enwog gan Josh Groban. Mae hefyd yn casglu ornaments cathod.
Gweithio fel cyfieithydd ym Mhrifysgol Bangor yw swydd Helen o ddydd i ddydd, ac mae'r sgil yma yn handi iawn gan ei bod hi'n hoffi cyfieithu rhai o'r caneuon mae'n mwynhau canu.
James McFayden
Er bod James dipyn yn rhy ifanc i fynd tu ôl i olwyn car eto, mae'n gwbod yn iawn sut mae gyrru beic modur Motorcross. Bachgen lleol i bentref Nebo yw James sydd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Lleu, ac mae'n prysur wneud enw iddo'i hun trwy gystadlu mewn cystadleuthau cenedlaethol ar ei feic sydd yn galluogi iddo deithio hyd a lled Cymru, Lloegr a'r Alban. Dros fisoedd yr haf bydd y teulu oll yn teithio gyda James bob penwythnos i wahanol leoliadau iddo gystadlu. Mae'r teulu hefyd yn gorfod teithio i Southport er mwyn iddo ymarfer, ond maen nhw'n cadw'r beic adre yn Nebo lle fydd James yn aml yn cymryd y cyfle i redeg y beic ar gaeau ei Nain a Taid (gyda'r ceffylau yn gorfod gwneud lle iddo).
Prynodd rhieni James, Nia a John, ei feic cyntaf iddo pan oedd yn 6 mlwydd oed, felly mae'n hen law arni erbyn hyn ac yntau yn 11oed. Mae'n ddigwyddiad teuluol pan fo James yn cystadlu, a'r holl deulu - Mam, Dad a Jessica, chwaer fawr James - yn codi pac ac yn dilyn yn y garafan i gefnogi James. A does dim modd colli James ar y ffordd gan fod ganddynt fan mawr gyda'i lun ar ei feic ar yr ochr.
Robin Humphreys
Dyn ifanc lleol i Ddyffryn Nantlle yw Robin Humphreys ac mae'n treulio llawer iawn o'i amser yn hyfforddi plant a phobl ifanc yr ardal i wneud karate gydag Academi John Lynn. Llynedd, enillodd Robin y wobr am yr hyfforddwr mwyaf ysbrydoledig ym Mhrydain. Enwebwyd Robin gan berchennog yr academi, Chris Pritchard, a dywed yntau bod Robin yn hyfforddwr arbennig. Mae'r academi yn cynnal dosbarthiadau i dros 70 o bobl yn amrywio mewn oed o 4 i 72. Mae Robin eisoes wedi llwyddo i ennill ei wregys ddu, felly dyw e ddim yn ddyn i'w groesi.
Mae Robin hefyd yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai ac wedi bod yn hyfforddi yn yr academi ers rhyw 4 mlynedd, ac yn gobeithio parhau â'r gwaith hwnnw yn llawn amser ar ôl gorffen ei gwrs.
Tom Gloster
Mae Tom yn creu corchenwaith o'i weithdy ym Mharc Glynllifon. Yn wreiddiol o Birmingham, mae wedi dysgu Cymraeg ac wedi bod yn byw i mewn ac allan o Gymru ers yn fach.
Astudiodd gwrs 'Applied Arts' ym Mhrifysgol Derby am dair blynedd, gan weithio ar waith coed, metel, castio metel, gwydr, gwaith print, gwaith dylunio cyfrifiadurol ac arbenigo mewn crochenwaith yn ei flwyddyn olaf. Mae cyfuno'r ystod eang yma o feysydd wedi rhoi dealltwriaeth eang iddo o wahanol ddeunyddiau a thechnegau.
Erbyn hyn mae Tom yn enwog am ei grochenwaith yma yng Nghymru a thu hwnt, ac yn gwerthu ei waith ar y we ac o'i weithdy.
Iolo Povey
Mae Iolo wedi bod yn gweithio ar dir Y Wern am ryw 4 mlynedd bellach ac wedi byw yn ardal Dyffryn Nantlle ers rhyw 20 mlynedd, er ei fod yn hannu yn wreiddiol o Garndolbenmaen. Perchnogion y ffern yw Richard Wyn Hughes a'i wriag Iola, ond Iolo sydd yn cymryd nifer o'r cyfrifoldebau tra bod Iola'n brysur gyda'r plant a Richard i ffwrdd yn gweithio fel dyn camera.
Mae'r fferm yn 70 acer i gyd, gyda tua 6,500 o goed yn y winllan lle maent yn gobeithio am eu crop cyntaf o wrawnwin eleni i greu gwin eu hunain i werthu ar glos y fferm ym Mhenygroes.
Yn ogystal â'r winllan, mae ganddynt 3000 o goed afalau sydd yn tyfu i greu Sudd Afal Enlli, a tua 30 o goed gellyg (pêr).

