Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro

Glyn Ebwy a'r Fro

Yr wythnos hon mae Iolo Williams a Shân Cothi yn ymweld â chartref Eisteddfod Genedlaethol 2010, Glyn Ebwy. Yn gartref i bron i 24,500 o bobl, Glyn Ebwy ydy tref fwyaf Cyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, roedd hi'n gartref i ddim ond rhyw 140 o bobl ar ffermydd a thai gwasgaredig ym mhen uchaf Cwm Ebwy Fawr. Ond bu sefydlu gwaith dur, haearn a glo Glynebwy'n gyfrifol am drawsnewid y cwm, ac roedd y gweithfeydd enfawr yn ymestyn hyd at 5km ar hyd llawr y dyffryn.

Yn y 1960au roedd agos at 15,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y gweithfeydd, ond daeth newid mawr yn ystod chwarter olaf yr ugeinfed ganrif. Yn dilyn streic yn 1980, caewyd rhannau helaeth o'r gweithfeydd yn dilyn diswyddo gweithwyr. Yn y blynyddoedd mwy diweddar, daeth Glyn Ebwy yn ganolbwynt cynlluniau i greu sylfaen diwydiannol newydd i gymryd lle'r diwydiannau trwm. Crëwyd nifer o barciau busnes a stadau diwydiannol a daeth hen safle Gŵyl Erddi Cymru 1992 yn barc mân-werthu ac yn gyfleuster hamdden.

Jeff Burridge: Hyfforddi Cŵn Newfoundland

Jeff Burridge: Hyfforddi Cŵn Newfoundland

Meddyg yw Jeff wrth ei waith, ond mae'n aelod o Gymdeithas Cŵn Newfoundland ac mae gan y teulu dri chi Newfoundland sy'n mynd â llawer o'u hamser hamdden. Iolo sy'n cael y pleser o gyfarfod â'r teulu a'u cŵn wrth y llyn ym Mharc Bryn Bach er mwyn dysgu am ddoniau unigryw'r cŵn wrth iddynt achub bywydau yn y dŵr.

Eifion Davies: BRfm

Eifion Davies: BRfm

Gŵr o Ddinbych yw Eifion yn wreiddiol, ond daeth gwaith ag ef i ardal Glyn Ebwy yn 1973. Athro Cymraeg wedi ymddeol yw Eifion ac mae'n ŵr prysur yn y gymuned. Mae'n gadeirydd ar nifer o bwyllgorau, yn Ysgrifennydd y Gymdeithas Hanes ac yn un o lywodraethwyr Ysgol Gymraeg Brynmawr. Mae Eifion yn un o leisiau oriau Cymraeg ar yr orsaf radio gymunedol leol, BRFM (Best Radio for Miles -; 97.3FM), sy'n cynnig gwasanaeth dwyieithog i bobl yr ardal am 16 awr y dydd. Shân sy'n torri ar draws un o raglenni Eifion ac yn ei holi'n fyw ar yr awyr.

Carys Wynne: Dawns De

Carys Wynne: Dawns De

Rheolydd y Celfyddydau yw teitl swyddogol Carys Wynne yn ei gwaith gyda Chyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent a hi sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau a gweithgareddau'r Met yn Abertyleri a Theatr Beaufort yng Nglyn Ebwy. Mae dawns de yn cael ei chynnal yn Theatr Beaufort bob prynhawn dydd Mawrth a Iolo sy'n ymuno yn yr hwyl gan roi tro ar ddawnsio gyda Carys cyn cael paned o de i dorri syched ar ôl yr holl ganolbwyntio ar y symudiadau.

Sheila Holmes: Y Gweithfeydd

Sheila Holmes: Y Gweithfeydd

Sheila sy'n tywys Shân o gwmpas hen safle'r gwaith dur sy'n cael ei thrawsnewid ar hyn o bryd. Dyma fydd safle Eisteddfod Genedlaethol 2010, ac wedi hynny, bydd datblygiadau tymor hir yn dod i i ardal Glyn Ebwy. Bydd tai newydd, ysgol gynradd, theatr a chanolfan hamdden yn cael eu hadeiladu. Pensaer ydy Sheila, ac mae hi wedi bod yn dylunio dwy ardd ar y safle newydd. Bydd Shân yn dysgu am sut mae'r gerddi wedi cael eu creu o deunyddiau'r hen weithfeydd dur gynt.

Richard Griffiths a Nicola Davis-Job: Ysbyty Aneurin Bevan

Richard Griffiths a Nicola Davis-Job: Ysbyty Aneurin Bevan

Caewyd Ysbyty Glyn Ebwy yn 2005 a dechreuodd y gwaith datblygu ar Ysbyty Aneurin Bevan yn 2007. Dechreuodd y gwaith gyda llenwi tyllau'r pyllau glo a'r gwaith dur ac mae'r adeilad wedi datblygu llawer ers hynny. Gobeithio bydd y drysau'n agor i'r cleifion yn ystod hydref 2010. Richard Griffiths, Rheolydd y Safle, sy'n egluro'r broses wrth Shân tra bod Nicola Davies-Job yn esbonio wrthi bod 96 ystafell wely en-suite unigol yn yr ysbyty newydd. Bydd modd rhannu'r rhain yn wardiau o wyth yn ddibynnol ar ofynion y cleifion. Bydd Adran Mân Anafiadau, dwy ystafell radioleg, Adran Cleifion Allanol ac Ystafell Eni.

Bydd llawdriniaethau bach yn cael eu gwneud yma, ond prif bwrpas yr ysbyty fydd cynnig gofal i gleifion wedi llawdriniaeth fawr, a gofal arbenigol ac adferiad yn dilyn strôc. Bydd cleifion yn medru gwella yn agos at gartref, lle bydd hi'n gyfleus i deulu a ffrindiau ymweld â nhw. Bydd y cyfleusterau mwyaf modern ar gael yn yr ysbyty hwn a Shân sy'n cael taith unigryw o'i gwmpas.

Frank Olding: Hanes

Frank Olding: Hanes

Swyddog Treftadaeth gyda Chyngor Blaenau Gwent yw teitl swyddogol Frank, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn hanes yr ardal leol. Mae Iolo'n mynd am dro gydag ef ar hyd Cefn Manmoel i'r Domen Fawr gan weld y clawdd amddiffynnol sy'n dyddio nôl i'r Oesoedd Tywyll (y nawfed neu'r ddegfed ganrif), caeau cefnen a rhych yn dyddio o'r 18fed neu'r 19eg ganrif a'r carneddau claddu o'r Oes Efydd ar ben y Domen Fawr. O'r Domen, caiff Iolo weld hen safle'r gwaith dur yn glir a dysgu mwy am hanes y diwydiant.

Ben Evans: Criced

Ben Evans: Criced

Mae Ben wedi chwarae criced ers oedd yn 6 oed ac erbyn hyn mae'n aelod o dîm cyntaf Glyn Ebwy ac yn helpu i hyfforddi'r chwaraewyr iau pan mae amser yn caniatáu. Iolo sy'n ymuno â Ben mewn sesiwn hyfforddi'r tîm o dan 13 oed ac yn rhoi tro ar fatio yn erbyn rhai o'r bowlwyr cyflymaf! Mae Ben wedi penderfynu ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol a bydd Iolo'n clywed am hyn hefyd.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales