Llanbedr Pont Steffan a'r Fro
Yr wythnos hon mae Iolo Williams a Shân Cothi yn teithio i fro Llanbedr-Pont-Steffan ar lannau'r afon Teifi.
Llanbedr-Pont-Steffan neu Llambed fel mae'n cael ei galw gan y bobl leol yw'r drydedd dref fwyaf yn Sir Geredigion, ac mae'n gartref i un o brifysgolion Cymru a dyma'n wir dref brifysgol leia' Prydain. Mae 'na'n agos at dair mil o bobl yn byw yn y dref ei hun, ac mae'r ardal o'i chwmpas yn wledig, ac yn dibynnu'n helaeth ar ffermio, a'r gwaith sydd ynghlwm â ffermio.
Catrin Davies a Kirsty Mackie Jones - 'Dere i Dorri'
Iolo sy'n cael y cyfle i dderbyn triniaeth arbennig gyda'r therapydd harddwch Kirsty Mackie Jones wrth iddo ymweld â salon 'Dere i Dorri' yn y dref. Sefydlwyd y busnes yn 2003, ac yn sgîl datblygiad y busnes, fe symudodd 'Dere i Dorri' i salon newydd mwy o faint ar y Stryd Fawr gyferbyn â siop J. H. Williams ym mis Awst 2007. Mae 'Dere i Dorri' yn gwasanaethu ystod eang o gwsmeriaid, yn blant bach, pobl ifainc, oedolion a phensiynwyr. Daw'r cwsmeriaid o bob man, ond yn bennaf o dde Ceredigion a gogledd Sir Gaerfyrddin. Caiff Iolo gyfle i ddysgu am bwysigrwydd cefnogaeth pobl yr ardal leol i Catrin a'r salon.
Dylan a Dafydd Lewis – Hanes y dref
Shân sy'n mynd am dro o gwmpas y dref gyda'r ddau frawd Dylan a Dafydd er mwyn hel atgofion am ei hardal enedigol. Mae Dafydd yn gweithio yn y busnes teuluol W.D. Lewis a'i Fab yn y dref yn gwerthu pob math o nwyddau amaethyddol tra bod Dylan yn dysgu erbyn hyn. Mae Shân yn cael cyfle i ymweld â Neuadd y Dre' a'r Brifysgol cyn gorffen ei thaith gyda phaned blasus yn Pantri.
Tina Morris – Canolfan Ailgylchu LAS
Sefydlwyd y busnes teuluol LAS nôl yn 1963 ac yn yr 1980au daeth yn fusnes rheoli gwastraff. Iolo sy'n dysgu am daith y gwastraff o'r lori sbwriel hyd at y pecynnu a'r dosbarthu. Caiff Iolo weld sut mae'r deunydd yn cael ei droelli a bydd y darnau bach amrywiol yn cael eu gollwng i botiau mawr cyn i staff y ganolfan ddethol a dewis y deunyddiau amrywiol o'r penyrrau mawr o wastraff. Bydd y gwastraff yn cael ei anfon i leoliadau amrywiol.
Stuart Lloyd – Siop Bysgod a Sglodion Lloyds
Mae Iolo a Shân yn gorfod gweithio am eu cinio gyda Stuart Lloyd yn siop bysgod a sglodion Lloyds yng nghanol y dre'. Mae Shân yn cynorthwyo i ffrїo'r pysgod a'r sglodion tra bod Iolo'n gweini'r cwsmeriaid llwglyd yn ystod awr ginio brysur. Caiff y ddau glywed am hanes y siop sydd wedi ei sefydlu ers 60 mlynedd eleni cyn mynd ati i weithio'n galed! Tybed a fydd y ddau wedi gweithio'n ddigon caled i haeddu sglodion i ginio?
Aneurin Davies – Dyn tarw potel
Magwyd Aneurin Davies ar Fferm Penlan, Talsarn ac mae'n byw ar dyddyn yn Betws Bledrws ger Llambed erbyn hyn. Shân sy'n cael ymuno ag Aneurin ar Fferm Tyllwyd ar gyrion y dref i gynnig help llaw iddo wrth ei waith beunyddiol fel dyn tarw potel. Mae angen tarw ar Olwen yr Ail, un o wartheg Iwan Jenkins, ac mae Shân yn dysgu pa mor heriol yw'r broses.
Gareth Richards – cogydd lleol
Cafodd Gareth ei eni a'i fagu yn Llambed ac mae'n byw yn ei filltir sgwâr o hyd ac yn cynnig lluniaeth blasus i bobl yr ardal a thu hwnt yn ei gartref ar Ffordd Llanwnnen. Mae Gareth yn cynnal nosweithiau ar gyfer cymdeithasau o bob math gan arddangos sut i goginio ryseitiau arbennig yn y gegin cyn cynnig gwledd o fwyd blasus yn ei fwyty. Mae Gareth wrth ei fodd yn coginio amrywiaeth o ryseitiau ac yn mwynhau trefnu a gosod blodau o bob math hefyd. Iolo a Shân sy'n rhoi help llaw i Gareth yn y gegin ac yn ceisio gwneud troellen ar gyfer gwragedd y fro i'w blasu.
Kate Williams, Muriel McMullan a Manon Williams – Wigs & Co
Shân sy'n ymweld â Kate, Muriel a Manon yn Wigs & Co ac yn cael cyfle i fodelu pob math o wigiau lliwgar. Mae gan Kate dros 20 mlynedd o brofiad salon ac mae'n feistres ar dorri a lliwio gwallt o bob math a Muriel sy'n cadw trefn ar y llyfr apwyntiadau ac yn helpu Kate wrth ei gwaith bob dydd. Profiad personol oedd dechreubwynt Wigs & Co ac mae Manon yn egluro sut mae siop Wigs & Co wedi cynorthwyo nifer o bobl eraill yn ystod eu triniaeth. Mae gan Wigs & Co dros 500 o wigiau felly mae Shân wrth ei bodd yn cael trio ambell un yn ystod yr ymweliad.
Gwyn Williams – Tristar
Caiff Iolo a Shân gyfle i deithio tref Llambed yng nghoets a cheffylau arbennig Gwyn Williams, Tristar. Mae gan gwmni Tristar 30 o staff yn gweithio yn y gweithdy sy'n cynhyrchu gwageni ceffylau o bob math ac mae Gwyn hefyd yn ymddiddori mewn ceffylau rasio a choetsys o bob math. Mae gan Gwyn gasgliad amrywiol o goetsys, ond caiff Iolo a Shân gyfle i deithio mewn coets go arbennig o Efrog Newydd.

