Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro

Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod

Yr wythnos hon, mae Iolo Williams a Shân Cothi yn teithio i'r Canolbarth i ymweld â dwy ardal ym Mhowys. Mae taith Iolo'n dechrau yn nhref Llandrindod, neu 'Llandod' fel mae'n cael ei galw gan y trigolion lleol ac mae Shân 8 milltir i lawr yr hewl yn nhref Llanfair-ym-Muallt sydd ar Afon Gwy.

Mae tref Llanfair-ym-Muallt yng nghalon Sir Powys ac yn gartref i bron i 2500 o bobl. Mae enw'r dref yn cyfeirio at sylfaen eglwys Normanaidd wedi ei ymroi i'r Santes Fair, ac roedd y dref wedi ei gosod fel dwy stryd yn cysylltu castell ac eglwys. Yn raddol datblygodd y dref a thyfu o ran pwysigrwydd a maint hyd nes y daeth yn fwrdeistref yn 1277 a chafodd Siartr Frenhinol gan Edward I.

Llandrindod ydy'r bumed dref fwyaf ym Mhowys, ac mae tua 5000 o bobl yn byw yma. Cyn y 1860au roedd safle tref Llandrindod yn dir comin ym mhlwyf Cefnllys, ond erbyn hyn mae pensaernïaeth y dref yn frith o adeiladau o steil addurnedig yn dyddio o'r cyfnod Fictorianaidd ac Edwardaidd, yn cynnwys gwesty'r Metropole a'r Glen Usk. Mae'r llyn sydd wedi ei greu gan ddyn yn lleoliad poblogaidd i bysgota a dyma gartref Amgueddfa Feicio Genedlaethol Cymru.

Jenny Clapham - Canolfan Bio-mas Llysdinam

Jenny Clapham - Llysdinam Biomass Centre

Cafodd Jenny ei magu ar fferm yn Sir Benfro ac mae wedi hyfforddi fel nyrs a pharafeddyg. Mae gan Jenny ddiddordeb mewn byd natur ac mae hi'n gwneud Doethuriaeth gan ganolbwyntio ar gnydau ynni a phorfa fawr - bioamrywiaeth. Mae Jenny'n astudio yng Nghanolfan Faes Llysdinam, Pontnewydd ar Ŵy, sy'n rhan o Ganolfan Biomas Cymru. Iolo sy'n ymuno â Jenny i weld os oes unrhyw anifeiliaid bach yn y maglau.

Arwyn Morgans - cigydd lleol

Arwyn Morgans - local butcher

Mae Arwyn yn ffermio ar Fferm High Meadows yn Llanfair-ym-Muallt ac yn berchen ar y siop gigydd deuluol, Morgans, yng nghanol y dref. Mae'r siop wedi agor ei drysau ers tua deng mlynedd bellach ac mae tri o staff llawn amser yn gweithio yn y siop sy'n rhoi cyfle i Arwyn fynd i ocsiynau i brynu gwartheg ac ŵyn o bob math. Mae 15 o wartheg a 30-40 o ŵyn gydag e ar hyn o bryd, ac mae taith wythnosol i'r lladd-dy yn arferol iddo. Hen fridiau traddodiadol sy'n mynd â diddordeb Arwyn a'r Gwartheg Duon Cymreig yw'r ffefryn. Shân sy'n galw heibio Siop Morgans yn Llanfair-ym-Muallt er mwyn cynnig help llaw.

Gareth Davies - Gwneud Medd

Gareth Davies - Making Mead

Mae gan Gareth ddiddordeb mewn gwenyn ac mae wedi bod yn llwyddiannus wrth gystadlu yn y Sioe Frenhinol dros y blynyddoedd. Mae Gareth wrth ei fodd yn gwneud medd gan ddefnyddio'r mêl a gasglwyd gan y gwenyn. Iolo sy'n galw heibio i ddysgu am y broses. Tybed sut fydd y medd yn blasu?

Caron Evans - Maes y Sioe Frenhinol

Caron Evans - Show Ground

Mae Caron yn byw yn Llanfair-ym-Muallt ac yn gweithio yn swyddfa Maes y Sioe trwy gydol y flwyddyn yn paratoi ar gyfer y gweithgareddau amrywiol sy'n cael eu cynnal yma'n flynyddol, sef Gŵyl Tyddyn a Gardd, Sioe Frenhinol Cymru a'r Ffair Aeaf. Shân sy'n mynd am dro gyda Caron er mwyn cael mwy o wybodaeth am y gweithgareddau gwahanol.

Gwynfor Evans - Hanes

Gwynfor Evans - History

Mae Gwynfor wedi byw yn Llanfair-ym-Muallt ers 1964 ac ef yw gohebydd yr ardal leol ar gyfer y papur bro 'Y Fan a'r Lle'. Mae Gwynfor wrth ei fodd yn chwarae golff. Iolo sy'n ymuno ag e ar y cwrs golff yn Llanfair-ym-Muallt er mwyn clywed mwy am hanes brwydr Llywelyn Ein Llyw Olaf. Dywed y chwedl bod milwyr Edward a Llywelyn wedi cael eu claddu o dan dir y cwrs golff yn dilyn y frwydr danllyd yn 1282 ac mae Gwynfor yn esbonio tarddiad enw twll 15 ac yn egluro ambell stori sy'n cael eu hadrodd wrth y Saeson yn ystod cystadlaethau.

Reverend Andrew Tweed - Swyddfeydd Post Teithiol

Reverend Andrew Tweed - Travelling Post Offices

Wedi ymddeol fel athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Llandrindod, mae'r Parchedig Andrew Tweed yn gwasanaethu fel offeiriad yn yr Eglwys bellach. Mae'n hoffi dawnsio gwerin a theithio, yn enwedig ar drenau. Mae'n berchen ar gasgliad mawr o lythyron ac amlenni sydd wedi teithio ar y Swyddfeydd Post Teithiol. Shân sy'n dysgu mwy am bwysigrwydd y marciau post gwahanol sy'n ymddangos ar y stampiau amrywiol. Mae gan Andrew gasgliad go arbennig o lestri bach ag arfbais ardal Llandrindod arnyn nhw hefyd ac mae Shân yn cael cyfle i glywed hanes prynu'r rhain yn ystod ei hymweliad.

Mai Ellis - Bracken's Trust

Mai Ellis - Bracken's Trust

Iolo sy'n ymweld â Chanolfan Ddydd Bracken's Trust gan ddysgu mwy am waith y gwirfoddolwyr yno. Mae Mai wedi ymddeol bellach ac yn mwynhau canu gyda Cantorion. Daw o Sir Feirionnydd yn wreiddiol ac fe symudodd i Landrindod yn 1963. Mae Mai wedi ei hyfforddi fel nyrs a gweithio fel nyrs orthopedig yng Nghroesoswallt. Mai hefyd yw Llywydd y Gymdeithas Gymraeg yn yr ardal ac mae'n un o'r gwirfoddolwyr sy'n cynorthwyo nifer fawr o bobl yn Bracken's Trust.

Jess Hall - Cyfansoddwraig a Pherfformwraig

Jess Hall - Composer and Performer

Mae Jess wrth ei bodd yn cyfansoddi mewn arddull newydd sy'n cyfuno arddull werin draddodiadol a jazz. Mae Shân yn galw heibio i gael sgwrs gyda Jess am ddylanwad yr ardal a'i phobl ar ei cherddoriaeth. Mae Jess yn gweithio ar gyfansoddi alaw i gyd-fynd â'r geiriau traddodiadol 'Pan O'wn y Gwanwyn' ar hyn o bryd a chaiff Shân gyfle i wrando ar Jess yn ymarfer.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales