Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro

Pontypridd

Mae tref Pontypridd wedi ei lleoli rhyw 12 milltir i'r gogledd o ddinas Caerdydd. Dyma'r gymuned ail uchaf ei phoblogaeth yng Nghymru, gyda'n agos at 33,500 o bobl yn byw yma. Ym Mhontypridd, wrth gerdded glannau afon Rhondda yn 1856, y cyfansoddodd James James dôn Hen Wlad Fy Nhadau yr ysgrifennodd ei dad, Evan James, y penillion ar eu cyfer. Mae cofeb i goffáu'r tad a'r mab enwog ym Mharc Ynysangharad yng nghanol y dref.

Clwb Rygbi Pontypridd

Clwb Rygbi Pontypridd

Bydd Shân yn galw draw i gae chwarae enwog Heol Sardis i geisio cadw trefn ar y chwaraewyr wrth iddynt hyfforddi ar gyfer eu gêm nesaf. Bydd yn sgwrsio gyda Guto Davies, sydd yn Swyddog y Wasg i'r clwb ,ac un o chwaraewyr disgleiriaf y clwb - Rhys Downes - sydd allan o'r gêm am ychydig, wedi ei anafu.

Dean Powell: Hanesydd

Dean Powell: Hanesydd

Bydd Iolo'n cwrdd â Dean Powell, hanesydd lleol sydd yn arbenigo yn hanes y meddyg lleol, Dr William Price. Mae Dean wedi ysgrifennu llyfr am hanes y dyn rhyfeddol hwnnw a dreuliodd lawer o'i fywyd yn ardal Pontypridd.

Alun Reynolds: Cerddor

Alun Reynolds: Cerddor

Bydd Shân yn galw mewn gyda'r cerddor lleol Alun Reynolds, tra bod e wrthi'n recordio traciau newydd ar gyfer ei albwm nesaf. Mae Alun yn canu yn y band 'Hey! Tonight' ac mae e wrthi'n recordio ei albwm ei hun yn Gymraeg ar hyn o bryd, yn ogystal â chyfansoddi, ysgrifennu dramâu a gweithio yn yr ysgol leol!

Magi Dodd: Cyflwynydd C2

Magi Dodd: Cyflwynydd C2

Bydd Iolo'n cael sgwrs gyda Magi Dodd, cyflwynydd C2 ar Radio Cymru, sydd yn enedigol o Bontypridd, ym Mharc Ynysangharad, parc enwog y dref. Byddant yn sgwrsio am waith Magi fel DJ, ei magwraeth ym Mhontypridd a'r cysylltiad cerddorol â Pharc Ynysangharad a'r ardal ei hun.

Matt Perrott: Cerdded Ceuentydd

Matt Perrott: Cerdded Ceuentydd

Bydd Iolo yn bachu ar y cyfle i ymweld â rhan ychydig mwy gwledig o ardal Pontypridd pan fydd yn cwrdd â Matt Perrott ar fferm Cwrt y Celyn. Mae Matt yn gweithio fel hyfforddwr gweithgareddau i gwmni 'Taff Valley Quad Bike and Activity Centre'. Mae Matt yn arbenigwr ar gerdded ceuentydd, a bydd Iolo'n rhoi tro arni.

Grwp 'Take Part' yn y Miwni gydag Angela Gould

Grwp 'Take Part' yn y Miwni gydag Angela Gould

Bydd Shân yn galw i gwrdd ag Angela Gould, sydd yn gweithio yng Nghanolfan Gelf y Miwni, i ddysgu am yr hyn sydd yn mynd ymlaen yno. Caiff Shân ei rhyfeddu gan sgiliau'r grŵp dawns sydd wrthi'n ymarfer, 'Take Part'. Tybed a fydd symudiadau Shân yn ddigon da i ymuno â'r grŵp?!

Gavin Ashcroft: Bro Tâf

Gavin Ashcroft: Bro Tâf

Bydd Iolo yn cwrdd â Gavin Ashcroft wrth iddo hyfforddi criw Bro Tâf i ddawnsio clocsio. Mae Bro Tâf, o dan arweiniad Gavin, wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn nifer o gystadleuthau, ond tybed a fydd Gavin yn medru gweithio ei hud ar Iolo?!

Gavin David ac Andrew Good: Gwasanaeth Tân Pontypridd

Gavin David ac Andrew Good: Gwasanaeth Tân Pontypridd

Bydd Shân wrth ei bodd wrth iddi ymweld â rhai o ddynion tân ardal Pontypridd! Caiff sgwrs gyda Gavin am fywyd dyn tân yn ei waith o ddydd i ddydd ac o dan arweiniad Andrew, caiff Shân helpu'r tim wrth iddynt fynd ati i ymarfer eu sgiliau achub wrth dorri person allan o gar.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales