Porthmadog a'r Fro
Mae Iolo Williams a Shân Cothi wedi teithio i dref harbwr yng Ngwynedd sydd wrth aber Afon Glaslyn - Porthmadog neu 'Port' fel y'i gelwir gan y trigolion lleol.
Mae Porthmadog yn gartref i tua 4,000 o bobl heddiw, ond fe ddatblygodd y dref yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel porthladd yn allforio llechi i Loegr. Ers dirywiad y diwydiant llechi mae wedi datblygu'n ganolfan siopa bwysig ar gyfer yr ardal gylchynol ac mae'n lleoliad poblogaidd gyda thwristiaid.
Mae'n dref fyrlymus, yn llawn siopau a llefydd bwyta. Mae'r Gymraeg yn cael ei siarad yn gyffredin yma - ac mae'n rhan hanfodol o'i hunaniaeth.
Tony Williams - Trên Stêm Rheilffordd Ffestiniog
Tony Williams yw Rheolwr Peiriannau Rheilffordd Ffestiniog ac ef sy'n gyfrifol am holl beiriannau'r cwmni, yn y gweithdy ac ar y traciau. Yn dilyn ei ymddeoliad o'r heddlu, mae'n gweithio gyda Rheilffordd Ffestiniog, ond bu hefyd yn gwirfoddoli gyda'r cwmni cyn hynny. Rheilffordd Ffestiniog yw'r cwmni rheilffordd annibynnol hynaf yn y byd ac adeiladwyd y rheilffordd yn wreiddiol i gludo llechi o chwareli Blaenau Ffestiniog. Fel datblygodd y diwydiant, datblygodd y rheilffordd a thref harbwr Porthmadog hefyd. Allforiwyd llechi Blaenau i borthladdoedd ar draws y byd, gan amlaf mewn llongau a adeiladwyd ym Mhorthmadog. Iolo sy'n dysgu mwy am y peiriannau ac yn teithio i orsaf Porthmadog ar hyd y Cob.
Rob Piercy - arlunydd
Wedi ei sefydlu yn 1986, oriel sy'n cael ei rhedeg gan arlunydd yw Oriel Rob Piercy, a saif yng nghanol tref Porthmadog. Lleolir y bedair ystafell arddangos o amgylch cwrt tawel. Addaswyd yr oriel o hen warws y Bwrdd Dŵr yn 1986. Mae'r oriel yn arddangos casgliad helaeth o ddyfrliwiau Rob Piercy yn ogystal â detholiad o brintiau cyfyngedig, argraffiadau agored a chardiau cyfarchion o'r ardal. Mae yma gasgliad unigryw o waith crefft a gemwaith hefyd. Mae Rob Piercy, sy'n aelod o Academi Frenhinol Cambria a Chymdeithas Dyfrlliw Cymru, wedi bod yn peintio tirluniau yn broffesiynol ers yr wythdegau cynnar. Fe'i hyfforddwyd fel athro arlunio a bu'n dysgu tan 1989 pan adawodd i ganolbwyntio'n gyfan gwbl ar ei beintio. Yn aelod o Glwb Alpaidd Prydain, mae Rob hefyd yn fynyddwr profiadol sydd wedi dringo a cherdded mynyddoedd ledled Ewrop. Yn naturiol, ei hoff destun peintio yw'r mynyddoedd. Mae'n cael ei gydnabod bellach fel un o brif arlunwyr mynydd Prydain, a gwelir ei waith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus trwy'r byd. Mae wedi arddangos ei waith mewn nifer o brif gystadlaethau Prydain, yn bennaf Cystadleuaeth Dyfrlliw Singer and Friedlander / Sunday Times, lle derbyniwyd ei waith i'w arddangos bob blwyddyn ers 1997. Yn 2002 cafodd y fraint o fod yn Arlunydd Cymreig y Flwyddyn ac yn 2000 fe'i dewiswyd i fod ar restr fer Gwobr Gelf Garrick Milne. Shân sy'n cael mynediad egscliwsif i stiwdio Rob Piercy i ddysgu mwy am ei hanes a'i grefft.
Llywela Davies - Caffi Portmeirion
Llywela Davies yw Rheolydd Cyffredinol Siopau Portmeirion Cyf. a Iolo sy'n cael hanes y fenter newydd a hanes Llywela fel merch leol o'r ardal. Agorodd Caffi Portmeirion ar Stryd Fawr, Porthmadog ym mis Gorffennaf 2010. Dyma gysyniad newydd mewn siopau coffi, sef cyfuniad o siop goginio a siop goffi, a honno'n siop goffi gyfoes a ffres. Mae'r lansiad hwn yn dilyn lansiad siop goffi fach, Caffi'r Sgwâr, a agorwyd ym mhentref Portmeirion yn 2009 ac sy'n hynod boblogaidd. Mae Caffi Portmeirion yn cynnig bwyd ffres o'r ardal leol ac wedi ei bobi ar y safle. Ac wrth gwrs mae'r gwasanaeth, y bwydlenni a phob arwydd yn ddwyieithog.
Arthur Edwards - ffyn cerdded
Wedi ymddeol, ailgydiodd Arthur yn ei ddiddordeb mewn gwaith pren, gan ganolbwyntio ar greu ffyn cerdded. Mae wedi adeiladu sied gydag offer bwrpasol yn ngwaelod ei ardd, gan ei fod yn defnyddio'i law chwith i weithio. Mae ganddo gwsmeriaid amrywiol, ac mae'n brysur yn creu ffyn yn ddyddiol. Mae camau penodol sy'n rhaid eu dilyn i greu unrhyw ffon, ac mae Arthur wedi creu ei declyn ei hun er mwyn sythu'r pren. Mae Arthur yn prynu'r deunydd ar y we fel arfer ac mae'n medru creu amrywiaeth o ffyn gan ddefnyddio pren gwahanol. Mae gan Arthur gasgliad o ffyn gan gynnwys ffyn cerdded traddodiadol, ffyn â chorn bual, ffyn â phen mewn siâp esgid a siâp pysgodyn i enwi ond rhai. Shân sy'n cael mwy o wybodaeth am ddiddordeb a chrefft Arthur.
Dafydd Lake - Lakedigital
Wedi cwblhau blwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Cerddoriaeth, daeth Dafydd, bachgen ifanc o ardal Porthmadog, yn ôl i ddechrau ei fusnes ei hun yn argraffu anrhegion o bob math ar gyfer achlysuron amrywiol. Maen nhw'n cynnwys bocys ar gyfer poteli gwin, anrhegion ar gyfer babanod a phlant, mygiau, cardiau a dillad. Mae busnes Dafydd wedi ei leoli uwchben Siop Eifionydd, siop Gymraeg Porthmadog, sy'n cael ei rhedeg gan ei fodryb Linda. Ian, ei ewythr, sy'n rhedeg busnes Pianos Cymru gerllaw. Shân sy'n sgwrsio gyda Dafydd am ei fenter newydd yn ei ardal leol ac yn cynnig help llaw iddo i greu mwg arbennig i BRO.
Maldwyn Lewis - hanes
Daw Maldwyn o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol ond mae wedi byw ym Mhorthmadog ers 40 mlynedd. Mae gan Maldwyn lawer o atgofion plentyndod braf am yr ardal gan ei fod yn dod i lan y môr ym Mhorthmadog yn y cyfnodn hwnnw. Mae Maldwyn yn gyn gynghorydd sir a chynghorydd tref ac yn un o sefydlwyr Ymddiriedolaeth Rebecca, a fu'n rhedeg y Cob am flynyddoedd. Mae Maldwyn hefyd ar Banel Golygyddol y papur bro lleol sef 'Yr Wylan'. Iolo sy'n dysgu am hanes yr ardal yn ei gwmni wrth iddynt fynd am y dro o gwmpas y dref cyn gorffen yn yr harbwr.
Lizzie Mowatt - Tailored Teddies
Lizzie yw perchennog y cwmni Tailored Teddies sy'n creu tedis amrywiol ar gyfer cwsmeriaid ar hyd a lled y wlad. Mae'r tedis yma'n cael eu gwerthu yn y Galeri yng Nghriccieth hefyd ac mae Lizzie'n creu tedis penodol ar gyfer achlysuron arbennig yn ôl y galw gan ddefnyddio tua 300 darn o "mohair". Mae angen 15-20 awr i greu un tedi. Mae gan Lizzie gwmni argraffu masnachol yn Ystad Ddiwydiannol Porthmadog hefyd a gall ei chwsmeriaid lungopŃ—o a chreu cardiau busnes personol yng nghefn y siop deganau ar y Stryd Fawr. Mae gan Lizzie ystafell uwchben y siop lle mae'n creu'r tedis a Shân sy'n cael cwrdd â'r tedis i gyd ac eisiau mynd ag un ffrind newydd arbennig iawn adref gyda hi!
Beth Williams - Bragdy Mŵs Piws
Cyfarwyddwr Gwerthiant yw swydd Beth Williams ym Mragdy Mŵs Piws a chaiff Iolo wybod mwy am hanes y cwmni a'r camau angenrheidiol yn y broses sy'n creu'r cwrw unigryw hwn. Caiff Iolo ddysgu am yr enwau lleol sydd ar y cwrw amrywiol cyn cael blas, wrth gwrs.

