Rhosllannerchrugog
Yr wythnos hon, mae Shân a Iolo wedi dod i ogledd-ddwyrain Cymru, i bentref oedd yn galw ei hun yn bentref mwyaf Cymru ar un adeg, ac sydd â thafodiaith unigryw hefyd. Mae'r ddau wedi teithio i Rosllannerchrugog, pentref ar gyrion Wrecsam.
Mae pentref Rhosllannerchrugog, neu Rhos fel mae'n cael ei adnabod gan y bobl leol, rhyw bedair milltir i'r de-orllewin o dref Wrecsam, ac mae'n gartref i bron i 10,000 o bobl. Er mai ar gefn y Chwyldro Diwydiannol y tyfodd Rhos, darganfuwyd glo yn yr ardal mor gynnar â dechrau'r ddeunawfed ganrif ac roedd pyllau ar waith yn negawd gyntaf y ganrif honno. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, credir bod tua 50 o byllau glo o gwmpas Rhos, gan gynnwys glofa enwog Hafod.
Gyda'i gorau, ei fandiau a'i ugain a mwy o gapeli, datblygodd Rhos fywyd cymdeithasol a diwylliannol oedd yn debyg i fywyd y cymunedau glofaol yn y de. Ond mae'r pentref wedi newid yn arw erbyn hyn gyda'r glo, y tramffyrdd, y rheilffordd a'r gweithfeydd a oedd yn gymaint rhan o'i fwrlwm cynt, wedi diflannu.
Marc Caldecott - Dawnsiwr
Mae gan Marc ddiddordeb mawr mewn dawnsio disgo ers oedd e yn yr ysgol gynradd. Mae e wedi bod yn cystadlu mewn Eisteddfodau ar hyd a lled Cymru'n flynyddol ac wedi profi cryn dipyn o lwyddiant dros y blynyddoedd. Enillodd Marc y drydedd wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010. Erbyn hyn mae'n dawnsio ac yn cystadlu'n unigol ac fel aelod o grŵp dawnsio disgo lleol. Mae Marc hefyd ar bwyllgor Dawns Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 201, ac mae'n hyfforddi ieuenctid yr ardal ar hyn o bryd yng Nghapel Bethel. Iolo sy'n ymuno â Marc mewn ymarfer, ond pwy sy'n dangos y symudiadau gorau?
Dylan Glyn Williams - Erials Teledu
Dylan sydd bellach yn rhedeg cwmni erialau teledu ei ewythr, Gareth Pritchard. Mae'n mwynhau teithio o amgylch Rhos a'r fro a chwrdd â chymeriadau difyr yr ardal wrth ei waith. Mae Shân yn dod ar draws Dylan yn brysur ar ben to Mrs Anne Phillips, cyfeilydd un o'r corau lleol ac yn cael clywed ambell stori ddoniol am swydd unigryw Dylan.
Ann Ireland - Tafodiaith
Athrawes yn Ysgol I. D. Hooson yw Ann, sy'n gweithio'n benodol gyda disgyblion ag anghenion arbennig. Mae gan ardal Rhos dafodiaith unigryw, ac mae Ann yn siarad y dafodiaith honno'n naturiol bob dydd. Iolo sy'n trio dysgu ychydig o eirfa ardal Rhos yng nghwmni Ann ym Mharc y Ponciau.
Ysgol I. D. Hooson - Y Tŷ Celtaidd a'r ardal bywyd gwyllt
Shân sy'n cael sgwrs gyda Phennaeth Ysgol I. D. Hooson, Dafydd Rhys, am y Tŷ Celtaidd a'r ardal bywyd gwyllt arbennig sydd wedi cael eu creu ar dir yr ysgol. Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 2007, ac roedd y Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn hynod o frwdfrydig i gael cysgod ar gyfer y disgyblion ac i ddenu bywyd gwyllt i dir yr ysgol. Gweithiodd y plant gyda chwmni Groundwork i rannu ac i ddatblygu eu syniadau cyn gweithio gyda chwmni Bywyd Gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru i wireddu'r syniadau hyn. Bu'r rhieni a'r disgyblion wrthi'n gweithio'n galed yn eu hamser hamdden i blannu ffensys helyg ar hyd ymyl y cae er mwyn dechrau denu bywyd gwyllt. Erbyn hyn mae pwll dŵr yng nghornel bela'r cae hefyd ac mae dros 250 o goed wedi cael eu plannu. Mae'r Tŷ Celtaidd wedi cael ei adeiladu hefyd ac yn cael ei ddefnyddio fel dosbarth awyr agored, cysgod i'r disgyblion a man lle gellir dysgu mwy am y bywyd gwyllt.
Rhys Hitchmough - Y Stiwt
Un o sefydliadau mwyaf adnabyddus Rhos ydy Sefydliad y Glowyr neu'r Stiwt i'r trigolion lleol. Agorwyd yr adeilad yma yn 1926, fel symbol o bwysigrwydd y gwaith glo ar un adeg. Iolo sy'n dysgu mwy yng nghwmni Rhys Hitchmough. Mae Rhys yn un o'r criw technegol sy'n gweithio'n ddiwyd yn Theatr Y Stiwt ac mae ganddo nifer o ddyletswyddau amrywiol, o gynorthwyo gyda rheoli'r golau a'r sain i weithio tu ôl i'r bar yn ystod cynhyrchiad.
Stella Roberts - Celf a Chrefft a Gwnïo
Mae Stella'n cynnal sesiwn gelf a chrefft a gwnïo yn ei chartref bob mis gyda chriw o'r gwragedd lleol er mwyn codi arian at elusennau amrywiol sy'n cael eu dewis gan Gapel Bethel, un o'r capeli lleol. Mae Capel Bethel bellach yn adeilad pwysig iawn yn ardal Rhos gyda'r gweinidog, Elfyn Richards, yn sicrhau bod amrywiaeth o weithgareddau'n cael eu cynnal yno trwy gydol yr wythnos. Mae'r rhain yn cynnwys ymarferion dawnsio, ymarferion panto, boreau coffi a chymdeithasu. Mae'r gwragedd wedi bod yn creu cardiau Nadolig a bagiau lafant i'w gwerthu i godi arian at elusennau amrywiol. Mae Stella'n weithgar iawn yn ei chymuned ac yn un o adar Rhos. Shân sy'n ymuno â Stella a'r gwragedd lleol i ymuno yn yr hwyl a thynnu'r raffl.
Dei Lloyd - Colomennod
Mae Dei Lloyd wedi ymddiddori mewn colomennod ers oedd yn fachgen bach. Mae ganddo gytiau yn yr ardd gefn yn gartrefi i'r adar ac mae wrth ei fodd yn gofalu amdanynt. Mae Dei wedi bod yn rasio'r colomennod ymhell ac agos ac mae'n adnabod pob un wrth ei batrwm unigryw. Mae Dei wrth ei fodd yn bwydo a glanhau'r colomennod yn ddyddiol. Iolo sy'n rhoi help llaw i Dei i ryddhau'r colomennod.
Daniel Lloyd - Perfformiwr
Cerddor ac actor o Rhos yw Daniel Lloyd a Shân sy'n cael ei chyfareddu ganddo ar Fynydd Rhos wrth iddo ganu'r gitâr. Mae ardal Rhos wedi ysbrydoli Daniel mewn nifer o ffyrdd ac mae wedi cyfansoddi cân arbennig o'r enw Gadael Rhos sydd ar ei albwm Tro ar Fyd. Mae Shân yn dysgu mwy am bobl ac ardal Rhos gan Daniel.

