Rhuthun a'r Fro
Yr wythnos hon ar Bro, mae Iolo a Shân yn ymweld â thref hynafol Rhuthun yn Sir Ddinbych. Mae hanes y dref yn dyddio'n ôl dros 700 mlynedd, ac mae ambell i frenin a brenhines wedi troedio'r strydoedd.
Mae Rhuthun yn dref fechan, gyfeillgar gyda phoblogaeth o tua 5,000, ac mae'n gorwedd ym mhrydferthwch Dyffryn Clwyd, yng nghysgod bryniau Clwyd a Hiraethog. Gyda hanes y dref yn dyddio'n ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg, mae datblygiadau pensaernïol cyfoethog yn frith o amgylch y strydoedd, ac mae'n ardal o gadwraeth amlwg.
Gavin Harris: Maer y dref a chyd-berchennog Gwesty Manorhaus
Wedi ei fagu ym Mangor mae Gavin Harris wedi treulio'r pymtheg mlynedd diwethaf yn gweithio fel pensaer yng Nghaerdydd, Llundain a Los Angeles. Yn 2002, penderfynodd roi'r gorau i'r gwaith dylunio a symud i Ruthun i redeg gwesty moethus Manorhaus gyda'i bartner, Christopher Frost.
Agorwyd y gwesty 8 mlynedd yn ôl, ac mae gwaith celf yn rhan bwysig o addurn y lle, gyda phob ystafell wely wedi ei seilio ar ddarn benodol o waith. Bydd Shân yn ymweld â'r gwesty i ddysgu mwy am fywyd Maer Tref Rhuthun - a blasu ambell goctêl.
Robat Arwyn: Cerddor
Bydd Iolo ar daith hanesyddol o dref Rhuthun gyda'r cerddor lleol Robat Arwyn gan ymweld â Sgwâr San Pedr a chael golwg o gwmpas Carchar Rhuthun lle mae swyddfa Robat Arwyn wedi ei leoli. Yma cawn glywed am hanes Coch Bach y Bala a wnaeth lwyddo i ddianc o'r carchar.
Er mai o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, mae Robat Arwyn yn enedigol, mae wedi hen ymgartrefu yn Rhuthun, ac yntau erbyn hyn yn arweinydd ar Gôr Rhuthun.
Huw Price a Wynne Davies: Clwb Pêl-droed Rhuthun
Yn ganolbwynt i dref Rhuthun mae nifer o glybiau gwahanol, ond bydd Shân yn ymweld â bechgyn y clwb pêl-droed lleol am sgwrs. Bydd yn sgwrsio gyda Wynne Davies, sydd wedi chwarae i'r clwb yn y gorffennol ond sydd erbyn yn hyfforddi'r tîm ieuenctid. A bydd Shân hefyd yn sgwrsio gydag un o sêr y tîm cyntaf, Huw Price. Mae Huw wedi bod yn chwarae i'r clwb ers blynyddoedd bellach, ac yntau wedi bod yn chwarae yn y tîm ieuenctid, ac wedi cyfnod i ffwrdd yn chwarae i dîm y Bala, mae wedi dychwelyd i'w wreiddiau.
Mike 'Scrap' Jones: Casglu pob math o bethau yn y garej!
Cymeriad lleol sy'n cael ei adnabod fel Mike 'Scrap' am ei fod wrth ei fodd yn casglu hen bethau o bob math. Bydd Iolo yn ddigon ffodus i gael golwg yn y garej, lle bydd yn darganfod pob math o drysorau, gan gynnwys beic peni-ffardding.
Cafodd Mike afael ar y beic yn lleol, rhyw wyth mlynedd yn ôl, wedi iddo gael ei brynu i daid dyn lleol o'r enw Herbey Watson yn 1912, a oedd yn gweithio fel postmon yn ardal Cerrig. Fel y darganfyddodd Iolo, roedd yn dipyn o sialens i fynd ar gefn yr hen feic peni-ffardding.
Tanya Alcock: Patchwork Pâté
Un busnes llwyddiannus yng nghanol y dref ydy 'Patchwork Pâté'. Sefydlwyd y busnes yn wreiddiol yng nghartref y perchennog, Margaret Carter, yn ardal Llangollen, ond wrth i'r pâté dyfu'n fwy fwy poblogaidd, symudodd y busnes i Ruthun yn 1987.
Bydd Iolo yn mynd ar daith o gwmpas y ffatri gydag un o'r gweithwyr, Tanya Alcock, lle caiff y cyfle i weld y gyfrinach y tu ôl i rysáit y pâté poblogaidd hwn.
Simeon Jones: Osteopath ac arbenigwr mewn rhwymo llyfrau
Yng ngwaelod y dref mae Cinic Well Street - sef clinig osteopathig Simeon Jones a'i wraig, Georgina. Maent yn trin pobl o bell ac agos a bydd Shân yn cael y cyfle i sgwrsio gyda Simeon am ei waith fel osteopath a phrofi'r cadeiriau oren arbennig sydd ganddo yn ei glinig.
Mae gan Simeon ddiddordeb diddorol arall, sef rhwymo llyfrau. Mae'n aelod o sefydliad Designer Bookbinders ac yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau rhyngwladol. Bydd Shân yn dysgu mwy am y sgil prin yma.
Elen Lloyd: rhedeg dosbarthiadau ffitrwydd
Merch leol ifanc sydd wedi dechrau busnes fel Personal Trainer ydy Elen, ac mae'n cynnal dosbarthiadau yn y pentref cyfagos, Llanfair Dyffryn Clwyd. Bydd Iolo yn ymuno mewn dosbarth, ac yn cael ei brofi i'r eithaf.
Mae Elen hefyd yn weithgar iawn gydag elusen Cam wrth Gam, elusen a sefydlwyd er mwyn ceisio lliniaru tlodi a dioddefaint mewn cymunedau llai ffodus yn Affrica, Asia a Dwyrain Ewrop. Bydd criw o bobl ifanc lleol yn teithio i'r pentrefi yma i geisio helpu'r trigolion i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus trwy helpu adeiladu ysgolion a ffynhonnau yn y pentrefi.
Ken Jones: Cwmni Jones Bros
Cwmni sydd â'i wreiddiau yn ddwfn yn yr ardal hon ydy cwmni teuluol Jones Bros. Sefydlwyd y cwmni 'nôl yn 1950, ac erbyn heddiw mae nhw'n un o'r cwmnïau peirianwyr sifil mwyaf Prydain.
Ac yn Rhuthun mae Ken Jones, sydd wedi bod yn gweithio i'r cwmni ers dros ddeugain mlynedd, yn hyfforddi pobl o bob cwr o'r wlad i yrru peiriannau mawrion. Bydd Shân yn darganfod sut siâp fydda arni y tu ôl i olwyn dumper truck.

