Tyddewi
Yr wythnos ar hon ar Bro bydd Iolo a Shân yn teithio i ddinas leia' Prydain, Tyddewi. Mae dinas Tyddewi wedi ei lleoli ar fan pellaf arfordir de orllewin Cymru. Mae ganddi boblogaeth o tua 1,800 o bobl. Mae wedi ei lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac wedi ei hamgylchynu gan olygfeydd godidiog. Un o brif atyniadau'r ardal hon ydy Egwlys Gadeiriol Tyddewi. Cafodd ei hadeiladu ar safle mynachlog Dewi Sant o'r chweched ganrif, ac mae wedi bod yn gyrchfan pererindodau ac addoliad ers sawl canrif, ac yn parhau I fod yn eglwys sydd yn gwasanaethu cymuned fyw.
John Davies: Canu clychau yn yr Eglwys Gadeiriol
Bydd Iolo 'n cwrdd â dyn sydd â chyfrifoldeb mawr iawn yn yr ardal, John Davies. Mae John yn rhan o'r cirw sydd yn gyfrifiol am ganu'r clychau yn nhŵr yr Eglwys Gadeiriol yn Nhyddewi. Cawn glywed am hanes canu'r clychau a phwysigrwydd yr Eglwys Gadeiriol i'r ddinas a sut y dechreuodd diddordeb John mewn canu clychau.
Nan George a Iona Davies: Siop y Bobol
Bydd Shân yn galw mewn i wneud ychydig o siopa yn un o siopau poblogaidd y ddinas, Siop y Bobol. Bydd Shân yn cwrdd â Nan George, rheolydd y siop, a Iona Davies, un o'i chyd-weithwyr. Agorwyd y siop yn 1999, yn arwain lan at yr Eisteddfod a oedd yn dod i'r ardal er mwyn codi arian yn y gymuned. Gyda llwyddiant y siop, penderfynwyd ei chadw ar agor yn fwy hir dymor, ac erbyn hyn, mae'r siop wedi codi llawer iawn o arian i'r gymuned. Mae'r holl arian a gaiff ei godi yn y siop yn cael ei fwydo yn ôl i'r gymuned. Tybed a fydd Shân yn llwyddo i ffeindo bargen neu ddwy?!
Dafydd Rees: Canolfan Merlota Tydde
Bydd Shân yn llwyddo i ddwyn perswâd ar Iolo i fentro ar gefn ceffyl gyda Dafydd Rees yng Nghanolfan Merlota Tyddewi. Byddant yn crwydro'r ardal ar gefn ceffyl gan ddysgu ychydig am hanes yr ardal a mwynhau golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.
Ieuan Jenkins: Taith o amgylch Ynys Dewi
Bydd Iolo'n ymuno â Ieuan Jenkins ar gwch am daith o amgylch Ynys Dewi. Mae Ieuan yn gweithio i gwmni sy'n trefnu teithiau i ymwelwyr o gwmpas yr Ynys. Bydd Iolo wrth ei fodd yn cael golwg ar y byd natur rhyfeddol sydd yn bodoli ar y tir a'r mor yn yr ardal hyfryd hon.
Arfon Morgan: Swyddfa Bost Tyddewi
Bydd gofyn i Iolo ddeffro'n gynnar iawn os ydyw am ddal Arfon Morgan wrth ei waith yn y Swyddfa Bost yn Nhyddewi! Felly bydd Iolo yno i gynnig help llaw i Arfon wrth iddo baratoi papurau dyddiol trigolion Tyddewi. Tybed a fydd gan y Postfeistr unrhyw hanesion cudd am bobl yr ardal hon?
Dan Williams: Hufen Iâ yn 'The Bench'
Bydd Iolo a Shân yn mwynhau blasu hufen iâ arbennig Tyddewi yng nghaffi 'The Bench' yng nghanol y ddinas. Byddant yn cwrdd â bachgen lleol, Dan Williams, i ddysgu ychydig am y grefft o wneud hufen iâ… ond blasu sydd ar dop rhestr y ddau!
Malcolm Grey: Llechi
Bydd Shân yn teithio i weithdy prysur iawn dyn lleol, Malcolm Grey. Mae Malcolm yn gymeriad sydd yn gwneud ei fywoliaeth ym myd y llechi o'i weithdy, Gweithdy Glasfryn. Mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn gwneud cerrig beddi, ond mae wrth ei fodd yn creu arwyddion o bob math hefyd. Tybed a fydd Shân yn gadael gydag anrheg yn ei llaw?
TYF: 'Coasteering'
Allai Iolo a Shân ddim â gadael Tyddewi heb gael tro ar 'coasteering', arfer a ddyfeisiwyd yn yr ardal hon. Mae'n gamp beryglus, felly er mwyn bod yn ddiogel, mae bob amser yn well i'w gwneud dan ofal pobl sydd wedi eu hyfforddi i sicrhau ei bod mor ddiogel â phosibl. Mae'n bryd i Shân a Iolo wisgo eu 'wetsuits' eto, wrth iddyn nhw ddringo'r creigiau a neidio i mewn ac allan o'r dŵr. Mae Canolfan Tŵr y Felin yn cynnig nifer o weithgareddau antur yn yr ardal, ac yn denu nifer o ymwelwyr yno bob blwyddyn. Tybed sut hwyl caiff y ddau?

