Cofio
- Cyfres newydd nos Lun 19 Hydref 21:00 - Bryn Fôn
Cymeriad, clonc a chlipiau
Yn Cofio, bydd y gwesteion yn hel atgofion o bob cwr o Gymru, gan gynnwys clipiau o Gaerdydd, Gwaun Cae Gurwen, Y Rhyl, Bangor a Llangefni.
Y cyflwynydd poblogaidd, Heledd Cynwal fydd yn holi'r enwogion, a fydd yn rhannu rhai o'u hatgofion wrth wylio clipiau o raglenni teledu o'r dyddiau a fu.
Enwogion Cymru
Bydd cyfle i ddod i adnabod rhai o ffigyrau amlycaf Cymru yn well, drwy sgwrs a ffilm, yn y gyfres newydd hon gan gychwyn gydag un o arwyr mwyaf y byd rygbi, Gareth Edwards.
Yn ogystal â Gareth Edwards, fe fydd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, y cantorion, Caryl Parry Jones a Heather Jones, y bardd a'r ffermwr, Dic Jones, y cyflwynydd tywydd, Siân Lloyd, a'r actorion, John Ogwen a Siw Hughes, ymhlith gwesteion Cofio.
Hel atgofion
Mae yna ambell i foment dyner iawn, fel pan fo John Ogwen dan dipyn o deimlad wrth wylio ffilm o bwys personol.
Mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn cael tipyn o sioc wrth weld cyfweliad gyda'i frawd, Prys, hanner can mlynedd yn ôl. "Wnes i ddim ei nabod e," meddai Rhodri Morgan.
Mae Siân Lloyd yn cael cyfle i weld ffilm ohoni'n ennill coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym 1975. Mae'n gweld, am y tro cyntaf erioed, cyfweliad â hi gan Vaughan Hughes ar ôl ei buddugoliaeth.
Ymunwch â S4C yr haf hwn i ymweld ag ardaloedd ledled y wlad gyda rhaglenni sy'n dathlu ein cymunedau, cymeriadau, diwylliant a thirlun.