Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Gareth Edwards

Cofio

Gareth Edwards

Yn rhaglen gyntaf y gyfres, arwr y maes rygbi Gareth Edwards sy'n rhannu ei atgofion gyda Heledd Cynwal wrth wylio clipiau o raglenni teledu o'r dyddiau a fu.

Mae Gareth yn cofio ei blentyndod yng Ngwaun Cae Gurwen lle bu'n ymarfer ei sgiliau rybgi ar ochr y stryd. Mae cyfweliadau gyda thrigolion y pentre 'nôl yn 1968 yn dangos balchder y pentrefwyr pan gafodd Gareth gapteiniaeth Cymru pan oedd ond yn ugain oed.

Cawn hefyd glywed am sut y sicrhaodd ei fam mai rygbi ac nid pêl-droed y byddai'i mab yn chwarae dros ei wlad. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys lluniau o daith y Llewod i Seland Newydd yn 1971 a chais byd enwog Gareth yn erbyn y Crysau Duon yn 1973.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales