Cofio
Caryl Parry Jones
Cyfle i ailfyw rhai o glasuron teledu'r gorffennol yng nghwmni'r amryddawn Caryl Parry Jones wrth iddi sgwrsio â Heledd Cynwal.
Mae'r profiad o ffilmio'r comedi "Ibiza, Ibiza" yn 1986 yn parhau yn fyw iawn yng nghof Caryl wrth i rai o'i chymeriadau mwyaf cofiadwy ddod nôl at ei gilydd am wyliau bythgofiadwy.
Mae clipiau eraill yn dangos cymaint mae steil ffasiwn Caryl wedi newid dros y blynyddoedd - o'r grŵp "Sidan" yn y 70au i gyflwyno "Seren Wib" a pherfformio gyda "Caryl a'r Band" yn yr 80au.
Wrth wylio genedigaeth ebol yn y gyfres boblogaidd "Mil o Alwadau", mae Caryl yn datgelu ei hoffter annisgwyl o weld llawdriniaethau meddygol.