Cofio
Sian Lloyd
Sian Lloyd, y cyflwynydd tywydd o Gastell Nedd, sy'n sgwrsio gyda Heledd Cynwal am yr heulwen a'r stormydd yn ei bywyd.
Mae Sian yn sôn am ei hoffter o goginio, bwyd organig a rasio ceir ond yn datgelu bod y profiad o gymryd rhan yn "I'm a Celebrity..." yn ddiflas dros ben. Sian oedd ennillydd ieuangaf cadair Eisteddfod yn Urdd yn 1975 a mae cyfweliad recordwyd ar y bryd yn codi atgofion o'i hamser yn y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.
Digwyddiad pwysig arall i Sian oedd refferendwm datganoli 1997 a mae Sian yn cofio noson llawn tensiwn tra'r disgwyl canlyniad y bleidlais.