Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Huw Llywelyn Davies wrth ei fodd yn y Brifwyl
Wrth i Eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru droi eu golygon tua'r Bala am wythnos o gystadlu a chymdeithasu, mae'r cyflwynydd adnabyddus Huw Llywelyn Davies yn cofio'r atgofion pleserus sydd ganddo o'r ddwy Eisteddfod flaenorol a fu yno.
Atgofion melys
Mae'n cofio gwersylla am y tro cyntaf gyda chriw o ugain o fechgyn ym 1967, ac mae'r canu a'r dathlu a fu ym mhrif stryd y Bala ar ddiwedd yr Eisteddfod ddeuddeg mlynedd yn ôl ym 1997 yn dal i aros yn y cof. Eleni, wrth iddo nesáu at y ddegfed waith ar hugain iddo ddarlledu o'r maes, mae'n edrych ymlaen yn fawr at yr Ŵyl unwaith eto.
"O ran gwaith, mae'r wythnos hon mor wahanol i bob wythnos arall oherwydd mae'n ymdroi mewn maes cwbl wahanol," meddai Huw. "Ac mae cael trafod y prif gystadlaethau gyda rhai o brif arweinwyr y gwahanol feysydd yng Nghymru yn uchafbwynt blynyddol."
Tîm Cyflwyno S4C
Yn ymuno â Huw Llywelyn Davies yn y tîm cyflwyno yn ystod y dydd bydd Alwyn Humphreys, Sara Gibson, Shân Cothi, Lisa Gwilym a Trystan Ellis-Morris. Yn ogystal â hyn, fe fydd Morgan Jones a Mari Lovgreen yn cyflwyno Brecwast 'Steddfod a gweithgareddau'r Babell Lên, a gyda'r nos fe fydd Elin Manahan Thomas yn ymuno â Rhun ap Iorwerth ar gyfer rhaglen uchafbwyntiau'r dydd.
"Mae'r Eisteddfod yn gyfle i ddangos balchder yn ein doniau fel cenedl, ym mhob ffordd," meddai Huw. "Bob blwyddyn fe fydda i'n edmygu'r holl amrywiaeth o dalentau, y canu, actio, dawnsio a llefaru, y gwaith llenyddol, yr arlunio, gwaith celf, yr holl ddoniau sy'n cael eu dathlu yn y Brifwyl."
Elin a Rhun yn yr Eisteddfod
Bydd partneriaeth gyflwyno newydd yn cael ei ffurfio ar gyfer darllediadau S4C o Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau eleni.
Yn ymuno â Rhun ap Iorwerth ar y rhaglenni uchafbwyntiau gyda'r nos bydd y gantores a'r gyflwynwraig o Orseinon, Elin Manahan Thomas.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r ddau gydweithio, a dyma hefyd fydd profiad cyntaf Elin o gyflwyno o faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dathlu ein diwylliant
Meddai Elin, "Mae'n fraint cael cyflwyno o'r Genedlaethol. Rwy wedi cael mynegi barn ar rai cystadlaethau o'r blaen ac wedi cystadlu fy hun gydag Ysgol Gyfun Gŵyr a Pharti Llwchwr, felly fe fydd yn brofiad hynod cael bod ar ochr arall y camera."
"Mi fydd yn bleser cael cwmni Elin," meddai Rhun. "Ac mi allaf ei sicrhau hi y byddwn ni'n brysur o fore gwyn tan nos. Mi fyddwn ni'n dilyn y cystadlu, a'r digwyddiadau ar y maes, ac yn dal i fyny â hwn a llall.
"I mi, mae'r Eisteddfod yn ŵyl arbennig, gyda'r Cymry i gyd yn dod at ei gilydd i ddathlu gwahanol agweddau ar ein diwylliant. Mae'n gyfle i weld pawb mewn un lle!"
Yr angenrheidiau
Gydag oriau hir o waith o'u blaenau, beth fydd yn mynd i mewn i'r cês wrth iddynt bacio am eu hymweliad â'r Ŵyl?
"Beiro a chopi o raglen y dydd," meddai Rhun.
"Crocs, welingtons, mhac, brwsh gwallt a hylif haul - wel, mae'n rhaid bod yn optimistaidd!" chwardda Elin.
Yn ogystal â'r rhaglen uchafbwyntiau gyda'r nos bydd S4C yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr o'r Eisteddfod, gyda darlledu byw yn ystod y dydd ar S4C, S4C digidol ac S4C2.