Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Mari Grug - Ffair Nadolig Sain Ffagan

Ffair Nadolig Sain Ffagan: Digwyddiadau 09

Nadolig yn Sain Ffagan

Mae gan Gymru gyfoeth o draddodiadau hynafol i ddathlu'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Fel rhan o'i Nosweithiau Nadolig mae Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd, yn ail-greu rhai o'r traddodiadau hyn. Gall gwylwyr S4C ymuno yn y digwyddiadau mewn rhaglen arbennig Ffair Nadolig Sain Ffagan a gyflwynir gan Morgan Jones a Mari Grug.

Plygain a'r Mari Lwyd

Yr oedd canu carolau plygain rhwng tri a chwech o'r gloch ar fore dydd Nadolig yn arbennig o boblogaidd yn yr 17eg ganrif ac mae'r traddodiad yn parhau yn enwedig ym Maldwyn.

Yn y rhaglen, bydd Parti'r Efail, grŵp canu gwerin o Waelod-y-garth, yn canu'r plygain yn Eglwys Sant Teilo. Yn ogystal, bydd Siân James, y gantores o Lanerfyl, Sir Drefaldwyn, yn perfformio cân blygeiniol.

Mari Lwyd yw'r enw a roddir i'r pen neu ffigwr ceffyl yr arferai partïon canu ei gludo o ddrws i ddrws yn ystod tymor y Nadolig. Bydd Mari Grug yn edrych ar hanes y Fari Lwyd ac yn ymuno â grŵp sy'n ail-greu'r ddefod fel rhan o ddigwyddiadau'r Ffair Nadolig.

Hen draddodiad arall sy'n cael ei ddathlu yn yr ŵyl yw hel calennig - yr arfer o gyflwyno rhoddion ar ddydd Calan i grwpiau o blant oedd yn mynd o dŷ i dŷ gan ganu a dymuno iechyd a llwyddiant i'r teulu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Traddodiadau

Fe fydd Mari Grug yn helpu addurno tai gweithwyr haearn Rhyd-y-car, a bydd Morgan yn darganfod mwy am hanes Siôn Corn. Bydd y rhaglen yn ymweld â Chapel Penrhiw i ganu carolau gyda'r arweinydd cerdd, Alun Guy, a cheir eitemau cerddorol hefyd gan Caryl Parry Jones a'i grŵp harmoni clos, y 405s.

Bydd y cogydd, Dudley Newbery yn blasu bwydydd traddodiadol yn fferm Llwyn yr Eos ac yn ceisio cadw hen draddodiad arall yn fyw drwy wneud taffi triog.

"Ein bwriad yw creu rhaglen Nadoligaidd gan ganolbwyntio ar draddodiadau cynnar gan fod llawer ohonynt wedi diflannu yng nghanol y tinsel a'r anrhegion modern," meddai Morgan Jones.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales