Cyffro'r Brifwyl ar S4C
Maes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 fydd yn dwyn sylw S4C yr wythnos hon wrth ddarparu gwasanaeth darlledu cynhwysfawr o'r Ŵyl ddiwylliannol bwysig hon.
Bydd darllediadau byw yn ystod y dydd ar S4C ac S4C2, a rhaglenni uchafbwyntiau gyda'r nos ar S4C.
Huw Llywelyn Davies, Sara Gibson, Mari Lovgreen a Morgan Jones fydd yn cadw cwmni i'r gwylwyr yn ystod y dydd. Rhun ap Iorwerth fydd yn cyflwyno'r rhaglenni uchafbwyntiau gyda'r nos, a bydd Jason Mohammad yn cyfrannu eitemau hefyd.
"Bydd ein rhaglenni'n dathlu Cymreictod ardal yr Eisteddfod eleni," meddai Ynyr Williams, Uwch Gynhyrchydd BBC Cymru sy'n darparu rhaglenni S4C o'r Eisteddfod. "Mae'n ardal sydd wedi cyfrannu gymaint i'n diwylliant, o hen ganeuon gwerin i'r dysgwr cyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, Robat Powel."
Dywed Sara Gibson ei bod yn edrych ymlaen yn arw at yr Eisteddfod eleni, a hithau'n dychwelyd i'r gwaith ar ddiwedd ail gyfnod mamolaeth. "Mae wedi bod yn bleserus i dreulio amser gartref gyda fy nwy ferch, Mari a Gwen. Ond dwi'n edrych ymlaen at ddarlledu o Lyn Ebwy, mae cymaint o frwdfrydedd yn yr ardal.
"Mi o'n i'n ffilmio yno'r diwrnod o'r blaen ac mi roedd yn wych gweld baneri yn cyhwfan ym mhob man. Mae tŵr cloc yng nghanol tref Tredegar, ac roedd baneri yn ymestyn o'r tŵr allan i'r adeiladau cyfagos. Mae'n creu awyrgylch fel carnifal, a'r criw sy'n trefnu'n lleol wedi sicrhau fod pobl yr ardal yn gwybod am yr Eisteddfod. Mae cyffro mawr yno."
Bydd darlledu o faes yr Eisteddfod, sydd wedi ei lleoli ar safle'r hen waith dur yng Nglyn Ebwy, yn dod ag atgofion yn ôl i Sara. "Mi on i'n gohebu o'r safle ar gyfer y gwasanaeth Newyddion ar ddiwedd shifft olaf y gwaith dur. Mi fydd yn brofiad teimladwy bod yn ôl yno."

