Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Eisteddfod Genedlaethol

Jason Mohammad yn cyflwyno yn Gymraeg o'r Eisteddfod

Bydd y darlledwr poblogaidd Jason Mohammad yn cyflwyno yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed o'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd Jason, sy'n wyneb a llais cyfarwydd ar raglenni teledu a radio Saesneg y BBC, yn cyflwyno eitemau ar y rhaglenni uchafbwyntiau gyda'r nos o'r Brifwyl a gynhyrchir gan BBC Cymru ar S4C.

Mae'n teimlo'n gyffrous wrth feddwl am yr wythnos brysur o'i flaen, sy'n dechrau ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf.

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr," meddai Jason, a fagwyd yng Nghaerdydd, ac sydd hefyd wedi ymgartrefu yn y ddinas gyda'i wraig Nicola, a'u plant. Fe ddysgodd Jason Gymraeg yn yr ysgol uwchradd.

"Dwi wedi ymweld â'r Eisteddfod droeon wrth gwrs ac wedi cyflwyno o'r maes i'r rhaglen Wales Today, ac ar gyfer Radio Wales hefyd, ond dyma'r tro cyntaf i mi gyflwyno yn y Gymraeg. Dwi'n edrych ymlaen at yr holl beth, cwrdd â phobl, a'r awyrgylch. Dwi'n gwybod y bydda i'n brysur ond dwi'n siŵr bydd gen i nifer o eitemau diddorol i'w cyflwyno yn y rhaglen uchafbwyntiau gyda'r nos ar S4C."

Rhun ap Iorwerth fydd yn cyflwyno'r rhaglenni uchafbwyntiau a bydd Huw Llywelyn Davies a Sara Gibson, Morgan Jones a Mari Lovgreen yn ein llywio drwy weithgareddau'r dydd, ac yn crwydro'r maes.

Mae Jason yn falch o weld yr Eisteddfod yn ymweld ag ardal Glyn Ebwy.

"Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn fod yr Eisteddfod yn ymweld ag ardal sydd ddim yn naturiol Gymraeg ei hiaith. Dwi'n gwybod fod pobl yr ardal wedi bod yn gweithio'n galed iawn wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod. A bydd yr Eisteddfod yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales