Mae S4C yn eich gwahodd i fwynhau gwledd o ganu ac adloniant pur yng nghwmni cantorion a cherddorion o Gymru a thu hwnt mewn rhaglen uchafbwyntiau Gŵyl Gobaith 2010.
Mae'r rhaglen yn rhan o gyfres Digwyddiadau '10, a Mari Grug a Morgan Jones fydd yn cyflwyno holl gyffro a mwynhad y penwythnos i'r gwylwyr gartref.
Y tenor Rhys Meirion, sy'n wreiddiol o Dremadog ond sydd wedi ymgartrefu yn Rhuthun, oedd un o'r rhai wrth wraidd y syniad o gynnal gŵyl flynyddol yn yr ardal. Rhys yw Cyfarwyddwr Creadigol a Chadeirydd Pwyllgor yr Ŵyl ac mae e'n rhan allweddol o'r gwaith trefnu.
Dros dridiau ym mis Mehefin, daeth llu o sêr at ei gilydd i berfformio yn yr Ŵyl, sy'n codi arian dros elusen hosbis Tŷ Gobaith.
Ymhlith yr artistiaid mae Côr Ysgol Glanaethwy, Shân Cothi, Llŷr Williams, Côr Godre'r Aran, Côr y Fron, David Kempster, band John Quirk, London Community Gospel Choir ac wrth gwrs, Rhys Meirion ei hun.
"Dwi wedi bod yn denor proffesiynol am dros 10 mlynedd, ac wedi cael cyfle i brofi diwylliant ledled y byd. Roeddwn i'n teimlo fod angen gŵyl ddiwylliannol ar raddfa fawr yng ngogledd ddwyrain Cymru," meddai Rhys.
Ychwanega Rhys fod y gefnogaeth leol i'r ŵyl yn wych ac mae'n talu teyrnged i'r tîm o wirfoddolwyr sy'n chwarae rhan hanfodol yng ngwaith yr Ŵyl.
"Rydyn ni wedi cael ein synnu gan y nifer o bobl sy'n dod i gynnig helpu yn yr Ŵyl - y gwirfoddolwyr sy'n stiwardio a rheoli'r maes parcio ac ati. Mae pawb wedi bod wrthi fel lladd nadroedd ac mae'n wych cael bod yn rhan o'r cyfan."

