Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Llangollen 09

Llangollen 09

Blas go iawn o'r Ŵyl ryngwladol

Mae'r criw y tu ôl i raglenni S4C o Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni yn edrych ymlaen at gyfleu awyrgylch unigryw'r Ŵyl arbennig hon i'r gwylwyr gartref.

"Mae gweld y cymdeithasu rhwng cystadleuwyr o'r gwahanol wledydd ar faes yr Eisteddfod, ac yn y dref, cyn bwysiced â'u gweld nhw'n cystadlu ar y llwyfan," meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo, y cwmni cynhyrchu sy'n gyfrifol am y darllediadau.

"Mae'n rhyfeddol gweld y gwledydd yn dod at ei gilydd, a dyna oedd y nod y tu cefn i sefydlu'r Eisteddfod yn ôl ym 1947, wrth gwrs, sef dymchwel ffiniau, a dod â phobl o sawl gwlad at ei gilydd i gymdeithasu a pherfformio, " ychwanega.

Arlwy S4C

Alwyn Humphreys, Nia Roberts a Rhodri Owen fydd y tîm cyflwyno profiadol eleni. Bydd Alwyn yn cyflwyno arlwy'r prynhawn tra bydd Nia yn cyflwyno'r rhaglen uchafbwyntiau gyda'r nos.

Crwydro'r maes a'r dref y bydd Rhodri, yn sgwrsio â hwn a'r llall, ac yn mwynhau perfformiadau mwy anffurfiol na'r hyn a geir ar y llwyfan.

Yn ogystal â'r cystadlu brwd dyddiol, bydd S4C yn darlledu uchafbwynt Eisteddfod Llangollen - cystadleuaeth Côr y Byd.

Bydd Alwyn Humphreys yn cyflwyno cyngerdd gala arbennig o Bafiliwn Llangollen yng nghwmni Faryl Smith, Mark Evans, Côr Godre'r Aran, Côr Meibion y Fron, Cantorion Colin Jones a'r bariton ifanc Alexei Kalveks.

Pedwar ban byd

Ymysg y cystadleuwyr o dramor fydd yn siŵr o greu cyffro bydd côr o ddynion ifanc o'r Unol Daleithiau, The Westminster Chorus, sy'n bencampwyr byd ar ganu Barbershop; a Chantorion Prifysgol Santo Tomas o Manila, sydd wedi dod i'r brig yng nghystadleuaeth Côr y Byd yr Eisteddfod yn y gorffennol.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales