Ras yr Wyddfa 2009
Gwefr heb ei hail
Mewn rhaglen arbennig ar S4C, cawn ddilyn hynt a helynt y cystadleuwyr yn un o rasys mynydd pwysicaf Ewrop.
Ras 10 milltir o hyd yw hi, gyda'r rhedwyr yn dechrau ar eu taith heriol o Gae'r Ddol ar lannau Llyn Padarn ym mhentref Llanberis ac yna'n rhedeg i gopa'r Wyddfa ac yn ôl.
Cynhaliwyd y ras gyntaf un yn 1976 wedi i Ken Jones, brodor o Lanberis, gyflwyno'r syniad am ras o flaen pwyllgor Carnifal Llanberis. Dechreuodd 86 rhedwr y ras gyntaf un. Bydd 450 o redwyr yn dechrau'r ras eleni.
Tim cyflwyno
Tîm cyflwyno'r Ras yw Gareth Roberts, Morgan Jones, Nic Parry ac Iwan Edgar. Ar y copa ei hun y bydd Morgan.
Bydd y rhaglen nos Sul yn cyflwyno uchafbwyntiau'r Ras o'r dechrau i'r diwedd. Bydd hefyd yn rhoi'r cyfle inni ddarganfod mwy am rai o'r rhedwyr sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad eleni a'u gweld yn paratoi ar gyfer y diwrnod mawr.
Y rhedwyr
Mae'r rhain yn cynnwys perchennog becws o Flaenau Ffestiniog, Kurman Rashid; Colin Pugh, sy'n farbwr o Gaernarfon, Bethan Dobson Jones, aelod o glwb rhedeg Eryri Harriers sy'n rhedeg y ras am y tro cyntaf.
Hefyd yn rhedeg fydd Matthew Roberts sy'n byw yn Nhremadog, ac a gafodd ei daro'n wael yn ystod y Ras y llynedd oherwydd y gwres. Mae am fentro eto, gan obeithio am dywydd mwy ffafriol i'r rhedwyr y tro hwn.