Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Sadwrn Barlys: Digwyddiadau '10

Dechrau perffaith i haf o grwydro

Dydd Sadwrn Barlys fydd y cyntaf yng nghyfres Digwyddiadau '10 pan fydd S4C yn teithio led led Cymru gan ymweld â digwyddiadau mawr a bach.

Y cyflwynwyr poblogaidd Morgan Jones a Mari Grug fydd yn ymuno yn holl firi Sadwrn Barlys yn sgwrsio â'r trefnwyr, yr arddangoswyr a'r bobl sydd wedi dod i gystadlu a mwynhau'r diwrnod.

Mae'r digwyddiad yn ennyn atgofion personol i Mari, a fagwyd ym Mynachlog Ddu tua 12 milltir o Aberteifi.

"Mae cymaint o gymeriadau lliwgar yn ardal Aberteifi. Dwi'n edrych ymlaen at fod yng nghanol y cyffro, ac i rannu'r cyffro gyda'r gwylwyr adref," meddai Mari.

Bu Stryd Fawr Aberteifi yn fôr o bobl wrth i orymdaith o feirch a hen gerbydau a pheiriannau daranu drwy'r strydoedd. Yn draddodiadol fe gynhelir y dathliad i groesawu dyfodiad y gwanwyn a diwedd cyfnod hau'r hadau barlys.

Digwyddiadau '10

Bydd y gyfres Digwyddiadau '10 hefyd yn yn ymweld â Sioe Nefyn, Gŵyl Tyddyn a Gardd yn Llanelwedd, Gŵyl Gobaith yn Llaneurgain, Sir Fflint, Gŵyl Big Cheese, Caerffili, Gŵyl Mela yng Nghaerdydd a Sioe Môn.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales