Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Y Sioe 09

Y Sioe 09

Y Sioe 09: Gwawrio

Mae ymwelwyr â Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru yn gyfarwydd â gweld maes y sioe yn Llanelwedd yn fwrlwm o weithgarwch gyda'r dydd.

Ond sut le yw'r maes yn ystod oriau mân y bore? Yn rhaglen hon cawn fynd i'r Sioe cyn i'r rhan fwyaf o'r ymwelwyr, cystadleuwyr a stondinwyr ddihuno. Mae'n lle gwahanol iawn i'r hyn ry' ni'n arfer ag ef yn ystod wythnos y Sioe.

Hon yw'r gyntaf o bum rhaglen i'w dangos ar S4C yn ystod yr wythnosau nesaf fydd yn edrych ar wahanol agweddau o'r Sioe eleni. Yn y pedair rhaglen arall mae sylw yn cael ei roi i bencampwyr y sioe, gweithgareddau'r Clybiau Ffermwyr Ifanc, y stiwardiaid a'r cystadlaethau cneifio.

Brecwast i bawb

Does 'na ddim cysgu hwyr chwaith i Mair Hatcher o gwmni Cegin Gwennog a'i staff sy'n paratoi brecwast o hanner awr wedi chwech ymlaen yn Hafod a Hendre - Pafiliwn y Stockman's - ar gyfer rhai cannoedd o bobl.

"Mae'n golygu codi tua phump o'r gloch bob dydd," medd Mair, sydd wedi bod yn arlwyo ar faes y Sioe ers blynyddoedd ac yn y Stockman's ers deng mlynedd.

Yn ogystal â brecwast, bydd Mair, sy'n dod o Lanwennog, ger Llanybydder, a'i deugain staff yn paratoi cinio, swper a byr-brydiau yn Hafod a Hendre. "Rwy'n teimlo weithiau ein bod ni'n bwydo Cymru gyfan," meddai.

Codi'n fore i gael y gorau

Ymhlith y rhai sy'n codi'n fore i baratoi'r anifeiliaid mae Geraint Jenkins sydd, gyda'i dad, Dilwyn a'i frawd, Eifion, yn berchen ar fuches Caran o wartheg Duon Cymreig ar fferm Cerrig Caranau, Talybont ger Aberystwyth.

Ar fore cynta'r sioe, bu Geraint yn codi am hanner awr wedi pedwar i olchi a pharatoi'r fuwch a llo i gael eu harddangos. Enillodd hen dad-cu Geraint gyda heffer o fuches Caran yn y Sioe Frenhinol gyntaf erioed yn Aberystwyth yn 1904.

Gan mlynedd yn ddiweddarach, yn 2004, enillodd Geraint a'i deulu'r un gystadleuaeth - i heffrod dyflwydd - yn sioe'r canmlwyddiant yn Llanelwedd. Cawn gwrdd â Geraint ar doriad gwawr.

Bydd y rhaglen hefyd yn ymweld â gofalwr nos adran y defaid, ardal y ffwr a phlu ac adran y moch a'r gwartheg.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales