Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Sioe Nefyn: Digwyddiadau '10

Un o sioeau amaeth mwyaf bywiog Cymru

Sioe Nefyn yw un o sioeau cyntaf y flwyddyn yng nghalendr amaethyddol Cymru a hithau'n cael ei chynnal ddydd Llun Calan Mai. Bydd holl uchafbwyntiau'r sioe o gaeau fferm Botacho Wyn i'w gweld ar S4C.

Mari Grug a Daloni Metcalfe fydd yn cyflwyno'r rhaglen gan grwydro'r maes, yn cyfarfod rhai o'r trefnwyr, cystadleuwyr ac ymwelwyr.

Mae Daloni Metcalfe yn wyneb cyfarwydd ar S4C fel cyflwynydd y gyfres Ffermio a Fferm Ffactor. Ond mae hi hefyd yn ffermio gyda'i gŵr Wil a'u pedwar o blant yn Nhudweiliog, Penrhyn Llŷn, tua 5 milltir o Nefyn. Er nad ydyn nhw'n cystadlu gyda'u hanifeiliaid, mae Sioe Nefyn yn rhan bwysig o flwyddyn y teulu.

"Mae Sioe Nefyn yn ddigwyddiad o bwys yn yr ardal leol gyda phobl Pen Llŷn i gyd yn dod ynghyd. Mae hi'n sioe fach braf a chartrefol," meddai Daloni.

Ynghyd â'r cystadlu stoc a cheffylau, bydd pabell ddofednod wych a chystadlaethau coginio a gwaith llaw. Bydd Daloni hefyd yn ymuno yn hwyl Cymdeithas Ganoloesol Harlech wrth iddynt ail greu golygfeydd o'r gorffennol.

Yn ystod y rhaglen bydd Mari a Daloni hefyd yn cwrdd â rhai o'r cystadleuwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer y sioe. Ymhlith y rhain mae Iwan Williams o Gwm Pennant sy'n cystadlu gyda'i stalwyn Cob Cymreig, Monty, am y tro cyntaf.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales