Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Sioe Sir Benfro: Digwyddiadau '10

Bydd dwy raglen awr o hyd yn cynnig yr holl newyddion o faes y Sioe gan ddangos yr uchafbwyntiau cyn neb arall. Bydd y ddwy raglen yn dangos amrywiaeth o weithgareddau'r Sioe gyda rhywbeth i blesio pawb, o'r cystadlu stoc a cheffylau, digwyddiadau'r ffermwyr ifanc a gweithgareddau cefn gwlad o bob math.

Byddwn hefyd yn dilyn y Llysgenhades eleni, Katie Davies o Little Haven, wrth iddi baratoi ar gyfer y sioe. Mae hi wedi bod yn brysur cyn y Sioe a chawn weld sut hwyl gaiff hi ar ei dyletswyddau yn ystod y Sioe ei hun. Mae Diwrnod y Menywod, ar y dydd Mercher, yn sioe ffasiwn o hetiau lliwgar a deniadol sy'n ddigon o sioe.

Mari Grug a Morgan Jones yw'r cyflwynwyr, gyda John Meredith yn gyflwynydd gwadd. Mae Mari, a fagwyd ym Mynachlog-ddu, yn edrych ymlaen yn fawr at gael dychwelyd i'w chynefin a bod ymhlith y bobl leol mewn digwyddiad sy'n gyfarwydd iawn iddi.

"Roedd darlledu o Sioe Sir Benfro llynedd yn lot fawr o sbort," meddai Mari, sy'n wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C.

"Mae digwyddiadau amaethyddol yn llwyddo i ddenu cymeriadau lliwgar at ei gilydd," meddai Mari. "Dwi'n mwynhau gweithio yn fy ardal leol, gan 'mod i'n teimlo'n fwy cartrefol yno. Mae'n help hefyd wrth drio cael pobl i siarad â fi ar y rhaglen!"

Yn ystod y rhaglenni hefyd, cawn sgwrs gydag enillydd cystadleuaeth Fferm Ffactor 2010, Teifi Jenkins o Gastell Newydd Emlyn, a fydd yn dewis ei hoff beiriannau fferm.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales