Digwyddiadau '10
Mae tîm S4C ar grwydr ar hyd a lled Cymru unwaith eto, gan ddarlledu o Gaerffili a Chaernarfon yn ystod yr un wythnos, o ddwy ŵyl wahanol iawn i'w gilydd - Gŵyl Caws Mawr a Gŵyl Arall.
Mae Caerffili, wrth gwrs, yn enwog am ei chaws a'i chastell. Yng Ngŵyl Caws Mawr, mae'r ddau'n dod at ei gilydd. Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal o fewn waliau'r castell, ac mae'n wledd o weithgaredda. Mae yna berfformwyr stryd, actio hanesyddol, cerddoriaeth, dawns, ffair draddodiadol, dawnsio gwerin, hebogyddiaeth, bwyta tân, trwbadŵr a llawer mwy. Ar ben hynny, mae un o bebyll bwyd a diod mwyaf unrhyw ŵyl yng Nghymru yn gwerthu cynnyrch o bob math, gan gynnwys caws, wrth gwrs. Cawn flas ar arddangosfa bwyd gan Dudley Newbery o gynnyrch yr ardal.
Yng Nghaernarfon, mae naws wahanol ar y dathlu wrth i ymwelwyr fwynhau celf a chrefft, cerddoriaeth, llenyddiaeth, ffilm a chomedi yn yr Ŵyl Arall.
Mewn lleoliadau ar draws y dref bydd Caernarfon yn cael ei thrawsnewid gyda pherfformiadau gan gerddorion Cymraeg blaenllaw fel Race Horses, Yr Ods, Gai Toms, Meic Stevens a Geraint Lovgreen. Un o'r uchafbwyntiau eraill bydd gweld y DJ Nia Medi yn holi Howard Marks a Rhys Ifans am y ffilm ddiweddar am fywyd Marks.
Mari Grug a Morgan Jones fydd yn cyflwyno'r ddwy raglen ac mae'r ddau yn mwynhau bob eiliad o deithio o amgylch Cymru dros yr haf.
Meddai Mari, "Dyma ddigwyddiadau sydd â lot o waith trefnu yn mynd i mewn iddyn nhw ac mae S4C yn rhoi llwyfan arbennig iddyn nhw. Bydda i'n cyflwyno o Gaerffili a bydd Morgan yng Nghaernarfon. Dwi'n edrych ymlaen at fod yng nghanol y cyffro, ac i ddod â'r cyffro i'r gwylwyr gartref."

