Ffilm mewn dwy ran.
Wedi ei hysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu gan Delyth Jones.
Delyth Jones – bywyd a gwaith
Delyth ydy awdur, cynhyrchydd a chyfarwyddwr ei ffilm, Cwcw, sydd ar S4C ar 7 ac 14 Mawrth 2010. Cafodd Delyth ei geni yng Nghwmtwrch Isaf a'i magu yn Y Pwll, Llanelli. Aeth i Ysgol Ramadeg y Merched yn Llanelli, ac yna Coleg Prifysgol Cymru, Bangor. Wedi dros ddegawd o fyw yng Nghaerdydd, mae Delyth wedi ymgartrefu yng Ngwaelod y Garth ers troad y ganrif. Mae mwy nag un lefel i Delyth, fel sydd yna i Cwcw, felly dyma weld sut mae hi'n rhannu ei bywyd a'i gwaith.
Gwaith
-
Pryd gychwynnaist ti ysgrifennu?
Wastad wedi sgrifennu ond yn broffesiynol ar gyfer y sgrin, ugain mlynedd yn ôl.
Oes 'na unigolyn sydd wedi dy ysbrydoli ar hyd y ffordd?
Angharad Jones.
Pa fathau eraill o ysgrifennu wyt ti wedi gwneud?
Theatr.
Ble wyt ti'n gweithio orau a phryd? Wyt ti'n ddisgybledig?
Yn nhŷ fy ffrind Beth yn Dinas Cross, Sir Benfro. Bore a gyda'r nos. Ddim yn ddisgybledig - obsessive.
Pwy sydd wedi dylanwadu fwyaf arnat fel awdur?
Tennessee Williams, y Brontës, Jane Austin, Kafka, Thomas Hardy, Louisa May Alcott.
Pa ffilm sydd yn glasur i ti?
Sound of Music, Short Cuts, Toy Story, Kontrol.
Gwaith pa gyfarwyddwr wyt ti'n ei edmygu fwyaf?
Almodóvar.
Beth oedd y peth anoddaf am ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu Cwcw?
Y broses ysgrifennu heb unrhyw amheuaeth.
Pa gymeriad yn Cwcw hoffet ti fod?
Y 'bag lady' sy'n eistedd wrth y giât.
Pa olygfa oedd yr anoddaf i'w saethu a pham?
Golygfa sebon y crash achos ro'n i'n saethu dwy olygfa wahanol ond o onglau gwahanol gyda dau ddiweddglo gwahanol i'r un olygfa yn union ar yr un pryd. Gulp!
Bywyd
Theatr neu sinema?
Sinema
Tanllwyth o dân neu sustem awyru?
Tanllwyth o dân
Lamborghini neu Morris Minor?
Morris Minor
Sodlau uchel neu esgidiau mynydda?
Esgidiau mynydda
Cyri poeth neu fwyd môr?
Cyri (ond ddim rhy boeth)
Rygbi neu bêl-droed?
Rygbi
Eurovision neu Cân i Gymru?
Cân i Gymru
Gruff Rhys neu Meic Stevens?
Meic Stevens
Môr neu fynydd?
Môr
Virginia Woolf neu Sylvia Plath?
Virginia Woolf
