Neidio at y cynnwys

S4C

Nos Fercher 15 Ebrill
Ailddarllediad: Nos Lun 20 Ebrill 21:30

HARLECH

GORSEINON

GETHIN JONES

CYFLWYNYDD

Dyma fy nghynnig cyntaf ar gyflwyno cwis teledu, ond dwi'n hoffi pob peth sydd ag elfen gystadleuol, gan fy mod yn berson cystadleuol. Dwi hefyd yn gefnogwr rygbi brwd, ac roedd cyfres Cwis Meddiant yn cyd-fynd yn dwt â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009.

Mae'n gyfres mor gyffrous: mae'n edrych yn wych, mae llawer o densiwn ac mae'r gwobrau'n ffantastig. Mae'n union fel chwarae gêm o rygbi, ond gan fod y cwestiynau'n seiliedig ar wybodaeth gyffredinol, does dim rhaid i chi fod yn gefnogwr rygbi i'w mwynhau.

I chwarae'r gêm, rhaid cael y Flash Player Plugin diweddaraf.
Clicia yma i'w lawrlwytho cyn dychwelyd i'r dudalen hon.

Cwis meddiant

Er bod y cwis yn seiliedig ar reolau rygbi - mae'r tîmau'n ateb cwestiynau i sgorio ceisiau, trosiadau a golau adlam (gweler y fideo 'Sut i chwarae') - mae'r cwestiynau'n gofyn am wybodaeth gyffredinol eang yn hytrach na gwybodaeth am chwaraeon yn unig.

Mae'r timau sy'n cymryd rhan yn cynrychioli clybiau rygbi o bob cwr o Gymru, ac mae'r gwobrau sydd i'w hennill - peli rygbi, offer hyfforddi, cit ac yn y blaen - o fudd i'r clwb cyfan yn hytrach nag yn wobrau i'r cystadleuwyr unigol.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi helpu tuag at adeiladu'r gronfa wobrau, gan ddarparu'r brif wobr i enillwyr y gyfres - diwrnod mawr yn y clwb buddugol, lle bydd sêr Undeb Rygbi Cymru ac arbenigwyr wrth law i gynnig cyngor ac arbenigedd i'r tîm a fydd yn siwr o wneud gwahaniaeth mawr i'r clwb yn y dyfodol.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales