Y gyfres
Pwy yw'r teulu gwyrddaf yn y Cwm? Mewn cyfres newydd ar gyfer yr hydref, bydd pedwar disgybl ysgol yn arwain eu teuluoedd i gystadlu am y fraint o ennill y teitl. Mae Nia Rossiter a Luke Smart yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, Hirwaun, Cwm Cynon. Mae Dafydd Francis a Gemma Starkey yn astudio yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, Cwm Rhondda.
Os ydyn nhw am fod yn bencampwyr y gyfres, bydd yn rhaid iddyn nhw leihau ôl troed carbon y teulu trwy newid eu ffordd o fyw. Ac nid dim ond gartref mae'n rhaid iddyn nhw beintio'r byd yn wyrdd. Bob wythnos, bydd gofyn iddyn nhw gario'r gair Gwyrdd trwy'r Cymoedd.
Beth sy'n digwydd?
- Nod y gyfres ydy dilyn hynt a helynt cystadleuaeth rhwng 4 teulu i weld a allan nhw newid eu bywydau i fod yn wyrddach.
- Bob wythnos, bydd un elfen o fywydau'r teuluoedd yn cael ei asesu i ddarganfod eu troseddau yn erbyn yr amgylchedd.
- Bydd her wahanol i bob teulu bob wythnos yn dibynnu ar beth mae'r teuluoedd yn ei wneud sy'n dda neu'n ddrwg i'r amgylchedd.
- Bob wythnos, bydd pob teulu'n derbyn pecyn eco llawn sialensiau, cyngor a theclynnau i'w helpu. Mae gwobr wythnosol i'r teulu budddugol.
- Iolo Williams yw ditectif Gwyrdd y gyfres, yn cadw llygad barcud ar y teuluoedd a rhoi hwb neu gosb i'r rhai sydd ar ei hôl hi – ac i ddarganfod y rhai sy'n ceisio twyllo ambell waith!
- Bydd gan Iolo hefyd brosiect Gwyrdd unigryw trwy'r gyfres – creu coedwig gymunedol i'r Cymoedd wedi ei phlannu gan blant a phobl ifanc yr ardal.
- Ar ddiwedd y gyfres cawn weld pa deulu fydd y pencampwyr eco...
Rhaglen 1
- Bydd y teuluoedd Francis, Rossiter, Smart a Starkey yn dechrau eu sialens gyntaf.
- Mwy am raglen 1