Neidio at y cynnwys

S4C

Dafydd Francis

Enw:

Dafydd Francis

Oedran:

14

O le:

Porth

Teulu:

Julie (Mam), Evan (brawd)

Ysgol:

Y Cymer

Beth wyt ti'n astudio?

Ar hyn o bryd rwy'n blwyddyn 11. Fy hoff bynciau yn yr ysgol yw Cyfryngau a Drama.

Diddordebau?

Rwy'n hoff iawn o dynnu lluniau. Rwy'n hoffi pobl enwog ac yn mwynhau darllen cylchgronau am y bobl enwog yma i weld beth maen nhw'n gwneud i ffwrdd o'r camera neu o'r spotlight. Hefyd, rwy'n addicted i Big Brother - rwy'n bwriadu gwario'r haf i gyd yn gwylio beth sy'n mynd ymlaen yn y tŷ.

Ffaith ddiddorol/ddoniol amdanat ti?

Pan oeddwn i'n ifanc roeddwn i eisiau bod yn ‘Spy' Dwi hefyd yn hollol obsessed gyda gherkins.

Pwy yw dy arwyr?

Britney Spears

Beth yw dy hoff raglenni ar S4C?

Caerdydd - mae'r gyfres yma yn ffab ac rwy'n mwynhau gwylio dramâu cyfoes fel Caerdydd.

Beth oeddet ti'n disgwyl pan wnaethoch chi ddechrau'r gyfres?

Roeddwn i'n disgwyl newid fawr ynof i fy hunain ac roeddwn eisiau herio fy hunain i weld os fydden i'n gallu newid i fod yn wyrdd.

Beth yw'r peth anoddaf am fynd yn wyrdd?

Gorfod meddwl am droi pethau technegol i ffwrdd ac oddi ar standby, mae'n creu mwy o waith i fi!

Beth yw'r peth gorau am fynd yn wyrdd?

Roedd mam yn wyrdd i ddechrau - mae hi'n gredu fod yr holl bethau yma yn bwysig iawn a dylen ni gyd fod yn helpu'r amgylchedd. Cyn y gyfres roedd hi'n ailgylchu, troi'r trydan bant i'w harbed - y pethau pwysig, bach mae'n rhaid ini wneud.

Beth wyt ti wedi dysgu ers iti ddechrau ffilmio'r gyfres?

Rwy wedi dysgu fod mynd yn wyrdd yn bwysig iawn a dylai pawb fod yn dilyn esiampl.

Pwy allan o dy deulu sydd wedi cael yr anhawster fwyaf wrth geisio mynd yn wyrdd?

Fi - roedd angen newid llawer o bethau sy'n bwysig iawn ifi yn fy mywyd i bob dydd, fel teledu (sut ydw i fod gwylio Big Brother heb deledu?!), straighteners gwallt, cerddoriaeth. Rwy'n ddibynnol iawn o'r rhain i gyd pob dydd.

Pa sialens oedd gorau gennych chi i wneud?

Fashion show without a doubt. Rwy'n hoffi dillad ac yn dilyn ffasiwn hefyd felly roedd y sialens yma yn brofiad gwych ifi cyfuno fy niddordebau gyda troi'n wyrdd.

Pa sialens oedd anoddaf?

Y sialens goginio oedd yr anoddaf, roedd yn rhaid i ni goginio pryd o fwyd a oedd yn ddinistriol iawn i'r amgylchedd a hynny i'r cogydd enwog Dudley! Roedd y pwysau arnom i ni gynnwys cymaint o gynhywsion a phosib o wledydd pell – hyn i gyd gan gofio bod Dudley yn blasu'r bwyd!

Pa gyngor fydde ti'n rhoi i deulu a oedd eisiau dilyn eich esiampl chi?

Pob lwc!! (gan chwerthin) Mae hi'n broses anodd dros ben ac mae angen will-power mawr ar unrhyw un sydd eisiau droi'n wyrdd.

Sut mae'r broses wedi effeithio arnoch chi fel teulu?

Rwy bendant wedi gweld newid yn fy hunain am y gorau ers dechrau Cwm Glo Cwm Gwyrdd. Hefyd, rwy bob tro yn troi trydan i ffwrdd pan dydw i ddim yn eu defnyddio.

Os rhywbeth fyddech chi'n newid am eich amser ar y gyfres?

Hoffwn i pe tawn i wedi bod yn fwy gwyrdd yn ystod y rhaglen, mae yna bethau bach syml y gall pawb i'w wneud, ond ar ol hynny mae cant a mil o bethau eraill gall un ei wneud i fyw bywyd gwyrdd. Yn bendant mi fuaswn i'n cymryd rhan yn y gyfres eto.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales