Neidio at y cynnwys

S4C

Newyddion

Mil o goed yn Y Maerdy

Bydd y pedwar person ifanc o Gwm Rhondda a Chwm Cynon yn helpu plannu hyd at 1000 o goed ar hen safle gwaith glo yn Y Maerdy fel rhan o gyfres Cwm Glo Cwm Gwyrdd.

Llun plannu coed

Bydd Nia Rossiter, Dafydd Francis, Gemma Starkey a Luke Smart yn ymuno ag Iolo Williams i blannu'r coed. Bydd disgyblion Ysgol Gyfun y Cymer, Ysgol Gyfun Rhydywaun, Ysgol Gymunedol Ferndale ac ysgolion cynradd Y Maerdy hefyd yn cymryd rhan yn y plannu ar 14 ac 15 Hydref.

Meddai Iolo Williams: "Dwi wedi cael fy rhyfeddu gan y ffordd mae'r pedwar person ifanc sy'n cymryd rhan yn y gyfres wedi cofleidio'r cyfle i fyw'n wyrdd. Drwy gydol y gyfres, rydym wedi eu gweld nhw'n datblygu ac yn codi eu gêm – yn nhermau brwdfrydedd ac ymrwymiad.

"Mae'n wych hefyd ein bod ni wedi gallu bwrw ymlaen gyda'r plannu coed, a fydd yn helpu'r amgylchedd yn y tymor hir, yn ogystal â gwneud gwahaniaeth go iawn i'r gymuned yn Y Maerdy."

Dywedodd Ros Davies, Cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf: "Mae'n wych o beth bod plant a phobl ifanc yn cael y cyfle i helpu creu'r goedwig hyfryd newydd hon. Rwy'n gobeithio y byddant yn helpu gofalu am yr amgylchedd yn y dyfodol."

Darllen y datganiad

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales