Yn ystod cyfres Cwm Glo Cwm Gwyrdd, mae Iolo'n chwilio am brosiect all adael argraff bositif ar amgylchedd y Cymoedd am flynyddoedd i ddod.
Cafodd Iolo ei eni yn Llanfair-ym-Muallt, Powys yn 1962.
Mae Iolo'n poeni'n fawr am ei ôl troed carbon am ei fod yn teithio gymaint gyda'i waith. Mae'n gyrru tua 30,000 milltir y flwyddyn, ac yn hedfan cryn dipyn.
Mae e hefyd yn hedfan yn ei amser sbâr – paragleidio. Mae ei fab hynaf yn mynd gydag e.
Hoff bryd Iolo ydy cyrri a chwrw – dydy e ddim yn hoffi gwin na bwytai ffansi.
Mae Iolo a'r teulu'n ailgylchu popeth allan nhw. Dydyn nhw ddim yn taflu llawer o sbwriel. Maen nhw'n ailddefnyddio llwyth o bethau, yn enwedig dillad y bechgyn.
Cyn dechrau ar y radio a'r teledu, roedd Iolo'n gweithio i'r RSPB yn gwarchod adar a'u cynefin.
Ei hoff weithgareddau hamdden ydy cerdded ym Mynyddoedd y Berwyn, a chwarae ambell gêm o rygbi a phêl-droed.