Enw:
Nia Rossiter
Oedran:
17
O le:
Hirwaun
Teulu:
Amanda (Mam), Leigh (Dad)
Ysgol:
Rhydywaun
Beth wyt ti'n astudio?
Ffiseg, Mathemateg, Saesneg a Daearyddiaeth
Diddordebau?
Rwy'n hoff o weithgareddau yn yr awyr agored, gan gynnwys cerdded yn y Cymoedd a syrffio lawr yn Gwyr pan fo'r amser yn gyfleus. Dwi heb fod ers sbel ond rwy'n bwriadu gwneud fwy yn ystod yr haf.
Ffaith ddiddorol/ddoniol amdanat ti?
Pan oeddwn i'n iau, wnes i wisgo lan fel Cowgirl i fod ar y teledu mewn rhaglen gyda'r cyflwynydd Glyn Houston. Ond does neb yn gwybod hynny - cadwch e'n gyfrinach i fi!!
Pwy yw dy arwyr?
Shane Williams. Mae Shane wedi cael llwyddiant enfawr dros Gymru - yn enwedig wrth ennill y Gamp Lawn eleni, er ei fod yn eithaf byr, fel fi. Mae fy ffrindiau bob amser yn gwneud hwyl dros fy nhaldra ond mae Shane wedi caniatáu i fi allu dweud wrthyn nhw bod dim ots am daldra achos rydych chi'n gallu llwyddo yn unrhyw beth.
Beth yw dy hoff raglenni ar S4C?
Rwy'n hoffi hwylio Uned 5 ac rwy'n ffan fawr o wrando ar gerddoriaeth ar sianeli cerddoriaeth. Ond wedi dweud hynny, dydw i ddim yn gwylio llawer o deledu.
Pam benderfynais di enwebu dy deulu i fod yn fwy gwyrdd ar gyfer y rhaglen?
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn Daearyddiaeth ac un pwnc buon ni'n astudio yn yr ysgol oedd yr amgylchedd. Roeddwn i wedi ceisio troi fy rhieni yn wyrdd o'r blaen ac rwy'n gefnogwr cryf o wind turbines a materion ynni felly roedd y gyfres yn gyfle euraidd imi allu gwneud hyn. Hefyd, mae dad, sy'n adeiladwr, wastad wedi sôn am greu eco house - felly rwy nawr wedi herio fe i wneud hyn.
Beth oeddet ti'n disgwyl pan wnaethoch chi ddechrau'r gyfres?
Roeddwn i'n disgwyl i'r broses o droi'n wyrdd fod yn anodd iawn ond rwy wedi dysgu mai newid y pethau bach yn raddol yw'r ffordd ymlaen.
Beth yw'r peth anoddaf am fynd yn wyrdd?
Mae'n rhaid mai'r wythnos gyntaf oedd y gwaethaf pan wnaethon ni'r sialens trydan. Roedd yn rhaid inni fynd am wythnos heb unrhyw drydan o gwbl - dim golau, dim teledu, dim byd technegol. Ond i fod yn onest, nes i fwynhau'r profiad yn fawr oherwydd roeddwn i'n gallu chwarae yn yr awyr agored a threulio amser tu allan. Roeddwn i'n gallu gwrando ar gerddoriaeth drwy ddefnyddio wind-up radio.
Beth yw'r peth gorau am fynd yn wyrdd?
Y peth gorau yw cael amser i wario fel teulu yn hytrach na bwyta bwyd o flaen y teledu a pheidio trafod dim. Nawr, rydym yn eistedd gyda'n gilydd i fwyta ac yn trafod pethau fel teulu.
Beth wyt ti wedi dysgu ers iti ddechrau ffilmio'r gyfres?
Rwy wedi dysgu bod fy rhieni yn fwy bodlon troi'n wyrdd - mae'r tri ohonom ni'n eithaf penderfynol o newid ein ffordd o fyw. Rwy wedi hefyd sylweddoli pa mor hawdd yw hi i newid.
Pa aelod o dy deulu sydd wedi cael yr anhawster fwyaf wrth geisio mynd yn wyrdd?
Mam yn bendant!! Mae mam yn un sy'n caru teledu ac yn gwylio trwy'r amser. Mae hi'n hoff hefyd o gawodydd hir neu fath gyda lot o ddŵr. Yn hytrach na golchi llestri, mae hi hefyd yn defnyddio'r peiriant golchi llestri.
Pa sialens oedd yr un orau?
Tasg y peiriant golchi oedd yr orau gen i. Yn y dasg yma roeddwn ni gyd yn gorfod defnyddio beic i greu egni i roi pŵer i'r peiriant golchi. Roeddwn i'n gwylio dad yn cael llawer o drafferth yn gwneud hwn tra bo fi'n eistedd a gwylio.
Pa sialens oedd anoddaf?
Creu logiau oedd yr anoddaf. Roedd hwn yn cymryd lot fawr o amser i ni wneud. Yn y dasg roedd yn rhaid i ni greu logiau allan o bapur newydd er mwyn eu llosgi i wneud tân.
Pa gyngor fydde ti'n rhoi i deulu a oedd eisiau dilyn eich esiampl chi?
Rwy'n credu dylai pawb ceisio troi'n wyrdd - mae'n rhwydd!! Ond cymerwch bwyll wrth droi oherwydd mae'n haws i newid pethau'n araf deg, cam wrth gam. Peidiwch â gwneud y pethau mawr yn syth oherwydd mae'n anodd.
Os rhywbeth fyddech chi'n newid am eich amser ar y gyfres?
Na, dim o gwbl. Bydden i'n gwneud eto os fydde'r cyfle gen i – dwi ddim eisiau i'r gyfres orffen.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales