Neidio at y cynnwys

S4C

Luke Smart

Enw:

Luke Smart

Oedran:

15

O le:

Bedlinog

Teulu:

Karen (Mam), Rob (Dad), Lauren (chwaer)

Ysgol:

Rhydywaun

Beth wyt ti'n astudio?

Rwy'n mynd i fod yn gwneud arholiadau TGAU blwyddyn nesaf. Fy hoff bynciau yn yr ysgol yw Drama a Busnes.

Diddordebau?

Rwy'n hoffi chwarae tenis gyda fy ffrindiau ac rwy'n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, unrhywbeth sydd gyda rhythm neu beat ac rwy'n mwynhau dawnsio iddo.

Ffaith ddiddorol/ddoniol amdanat ti?

Peidiwch byth trio cyffwrdd â fy ngwallt. Rwy'n hoffi fy ngwallt i gael spikes ynddo mewn ffordd arbennig.

Pwy yw dy arwyr?

George Sampson, enillydd Britain's Got Talent 2008.

Beth yw dy hoff raglenni ar S4C?

Rwy'n hoffi gwylio Rownd a Rownd – er bo fi erioed wedi cael rownd bapur. Mae'r cymeriadau i gyd yn wych ac mae'r straeon yn cadw chi i wylio bob wythnos.

Pam benderfynais di enwebu dy deulu i fod yn fwy gwyrdd ar gyfer y rhaglen?

Fel teulu rydyn ni wedi bod yn eithaf gwyrdd yn y gorffennol drwy ailgylchu a gwneud pethau bach ac roeddwn i'n credu byddai'r profiad yn un da i ni fel teulu.

Beth oeddet ti'n disgwyl pan wnaethoch chi ddechrau'r gyfres?

Rhywbeth oedd ddim yn mynd i fod yn anodd iawn i fod yn onest - mae'r broses wedi bod yn llawer fwy anodd na beth oeddwn i'n disgwyl ac mae ceisio troi pobl yn fwy gwyrdd yn anodd dros ben.

Beth yw'r peth anoddaf am fynd yn wyrdd?

Un o'r sialensiau anoddaf i fi oedd pan aethon ni i archfarchnad mawr ac roedd yn rhaid i ni geisio troi pobl yn wyrdd drwy gynnig bagiau hirdymor yn lle bagiau plastig arferol yr archfarchnad. Roedd yna lot o bobl eithaf haerllug yn dweud wrthym ni i adael nhw i fod - doedd hwn ddim yn brofiad neis iawn.

Beth yw'r peth gorau am fynd yn wyrdd?

Mae'n gwneud i ni sylweddoli faint o sbwriel a thrydan etc mae pobl yn gwastraffu pob dydd.

Beth wyt ti wedi dysgu ers iti ddechrau ffilmio'r gyfres?

Rwy wedi dysgu llawer fwy am natur ac yn bennaf am anifeiliaid gwyllt. Rwy hefyd wedi mwynhau bod allan yn yr awyr agored gyda'r anifeiliaid yma ac wedi mwynhau'r ardal werdd sydd o'n gwmpas yn y cymoedd.

Pa aelod o dy deulu sydd wedi cael yr anhawster fwyaf wrth geisio mynd yn wyrdd?

Mam sydd wedi ffeindio hi'n anodd iawn ac mae hi wedi gweld bod troi'n wyrdd yn waith caled dros ben. Ond mae hi wrth ei bodd yn garddio ac mae hi wedi bod yn tyfu planhigion yn yr ardd ac wedi creu gardd neis iawn.

Beth oedd eich hoff sialens?

Y rali oedd y gorau gen i - lle roeddwn ni'n cymharu gwahanol fesuriadau rydym yn defnyddio (e.e. trydan, golau etc). Roedd yn ddiddorol iawn i weld beth oedd y gwahaniaethau.

Pa sialens oedd anoddaf?

Coginio, definitely. Dwi byth yn coginio gartref, mam sydd wastad yn gwneud hwn i fi felly doedd dim cliw gen i le i ddechrau. Ond ers gwneud y sialens rwy'n fwy hyderus yn paratoi bwyd ar gyfer y teulu - Spaghetti Bolognese yw'r ffefryn.

Pa gyngor fydde ti'n rhoi i deulu a oedd eisiau dilyn eich esiampl chi?

Dyle chi ailgylchu pethau yn y llefydd iawn

Sut mae'r broses wedi effeithio arnoch chi fel teulu?

Mae yna lawer o bethau wedi newid yn ein cartref ni. Ry'n ni'n gwastraffu llai o fwyd, ac felly yn gwastraffu llai o packaging. Yn ein gardd, mae 'da ni vegetable patch nawr achos mae Mam yn hoff o arddio ac rydym hefyd yn defnyddio llai o drydan.

Os rhywbeth fyddech chi'n newid am eich amser ar y gyfres?

Gaethon ni gyd llawer o hwyl yn ystod y broses yma.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales