Holi Iolo Williams
Iolo Williams
Bydd yr arbenigwr natur a'r cyflwynydd teledu Iolo Williams yn herio tri theulu o Gymoedd y De i newid eu ffordd o fyw mewn chwe mis. Yma, mae'n esbonio mwy…
- Beth yn gwmws sy'n digwydd ar Cwm Sâl Cwm Iach?
- Rwyf wedi herio tri theulu o Gymoedd y De i drawsnewid eu bywydau a dilyn bywyd ffit ac iach. Teulu'r Owens o Dreorci, y teulu Thomas o Lyn-nedd a theulu'r Vokins o Benygraig sy'n wynebu'r sialens yn Cwm Sâl Cwm Iach, cyfres newydd sy'n dilyn ôl-troed y gyfres Cwm Glo Cwm Gwyrdd. Bob wythnos, bydd y teuluoedd yn wynebu nifer o dasgau ac yn edrych ar agweddau arbenigol o gadw'n iach, gyda fi a thîm o arbenigwyr yn asesu pa gynnydd maen nhw'n ei wneud.
- Mae yna drawstoriad eang o bobl yn cymryd rhan yn y gyfres. Sut hwyl gawson nhw?
- Mae yna amrywiaeth diddorol iawn o bobl yn y gyfres - mae rhai'n cael hi'n anodd bwyta'n iach tra bod eraill ddim yn hoff o gadw'n ffit. Rydym yn dilyn pobl gyffredin sydd efallai'n cynrychioli cyfran helaeth o'r boblogaeth sy'n awyddus i fyw bywyd iach. Dwi'n gobeithio bydd y gyfres yn ysbrydoli pobl trwy ddangos pa mor hawdd yw hi mewn gwirionedd i newid eich ffordd o fyw.
- Ydych chi'n ystyried eich hun yn berson gwyrdd?
- Rwy'n mwynhau gwneud ymarfer corff ac rwy wrth fy modd yn cymryd rhan mewn chwaraeon gwahanol, gan gynnwys rygbi, pêl droed a cherdded. Rwy'n lwcus fy mod yn mwyhau gwneud ymarfer corff. Pe bawn i ddim, fydde'n rhaid imi edrych ar fy nheiet llawer gwell.
- Ydi'r gyfres yma wedi newid eich ffordd chi o fyw?
- Un peth dwi'n 'neud rŵan ydi yfed llawer mwy o ddŵr. Rwy'n cyfaddef doedden i ddim yn yfed digon cyn ffilmio'r gyfres, ond ar ôl derbyn cyngor yn dweud bod yfed mwy o ddŵr yn helpu chi ymhob ffordd - rydych chi'n fwy effro ac mae'n helpu chi gyda salwch. Felly ewch amdani a ddilyn fy esiampl i yfed mwy o ddŵr.
- Pa fath o gyngor fydde chi'n rhoi i rywun oedd yn bwriadu dilyn esiampl y teuluoedd yma?
- Dyw e ddim yn werth neidio mewn i'r dŵr dwfn yn syth a boddi wrth y lan. Gwnewch y pethau hynny'n sy'n ffitio rownd eich bywyd. Ond byddwch yn barod i aberthu rhai pethau. Newid meddylfryd ydi o - does dim angen newidiadau mawr, llawer o rai bach efallai.
- Mae gyda chi sialens eich hun yn ystod y gyfres. Beth yw natur y sialens?
- Dros y misoedd diwethaf, rwy wedi bod yn ymweld â chanolfannau plant yn ardal Rhondda Cynon Taf gyda'r elusen Plant y Cymoedd. Y bwriad yw adnewyddu adnoddau'r tŷ haf sydd gyda nhw ym Mryn Gwyn Bach yn y Gwŷr. Dwi isho gwella iechyd a ffitrwydd pobl ifanc yr ardal. Dwi isho ehangu eu gorwelion nhw a dwi isho iddyn nhw weld y posibiliadau sydd allan yna i bob un ohonyn nhw. Dwi isho ceisio gwneud newid mawr i fywydau rhai o'r plant yma.
- Cawsoch chi sialens debyg llynedd wrth helpu teuluoedd i droi'n wyrdd yn Cwm Glo Cwm Gwyrdd. Sut lwyddiant oedd y sialens yma?
- Yn bendant. Yr her oedd creu goedwig newydd ym mhentref Maerdy, yn y Cymoedd, gyda help rhai o blant lleol yr ardal. Blwyddyn yn ddiweddarach, mae'n debyg fod y plant yn mynd yno o hyd ac yn teimlo bo' nhw'n berchen ar y lle gan bo' nhw wedi bod yn rhan o'r plannu.