Neidio at y cynnwys

S4C

Cwm Sâl Cwm Iach

Thomas

Yanna

Owen

Rhaglen 3

Cadw'n heini gyda Dwayne ac Andrew

Rhaglen tri

Yn y bennod ddiweddaraf o Cwm Sâl Cwm Iach, sy'n dilyn tri theulu o Gymoedd y De wrth iddynt ymdrechu i wella eu ffordd o fyw, cadw'n heini a ffitrwydd sydd dan sylw'r teuluoedd a'r cyflwynydd, Iolo Williams.

Sesiwn hyfforddi proffesiynnol

Bydd chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru, Dwayne Peel ac Andrew Bishop yn cynnal sesiwn hyfforddi gyda Lloyd Thomas gan fod y peiriannydd trydan dan hyfforddiant yn gyndyn i roi 100% i'r tasgau cadw'n heini yn y rhaglen.

Er bod Lloyd yn chwaraewr rygbi addawol i garfan dan 18 Y Gweilch, yn ôl ei chwaer, Carys, mae'n rhy hoff o fwydydd melys ac o orweddian o flaen y teledu.

"Roedd cael y cyfle i ymarfer gyda Dwayne ac Andrew yn wych," meddai Lloyd. "Er bo' fi ond wedi gwneud sesiwn ymarfer byr gyda'r ddau, roedd yn galed iawn a fues i'n cysgu am oriau ar ôl i fi gyrraedd gartref."

Pen-y-Fan

Ymhlith sialensiau eraill, mae'r teuluoedd yn rhoi tro ar esgyn Pen-y-Fan yn y Bannau Brycheiniog, copa uchaf de Cymru.

Wrth i'r teuluoedd ymgynnull wrth droed y mynydd, mae ambell un yn betrusgar. A fydd pob aelod yn medru concro'r mynydd neu a yw Iolo wedi rhoi'r cart o flaen y ceffyl a gwthio'r teuluoedd yn rhy bell yn rhy gynnar?

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales