James - Hoff o actio a pherfformio, ac yn ddilynwr brwd o dîm pêl droed Manchester United.
Becky - Hoff o chwarae badminton a thenis.
Pam benderfynais di enwebu dy deulu i fod yn fwy iach ar gyfer y rhaglen?
James - Ar ôl clywed am y gyfres, ro'n i eisiau herio'r teulu i wneud rhywbeth gwahanol. Ond doedden i ddim yn disgwyl pa mor anodd roedd y sialensiau yn mynd i fod.
Pwy allan o dy deulu sydd wedi cael yr anhawster fwyaf wrth geisio mynd yn fwy iach?
Becky - James. Doedd e ddim yn bwyta'n iach o gwbl cyn y gyfres, ond mae wedi derbyn lot fawr o gyngor ar sut i wella ei ddiet.
Pa sialens oedd gorau gennych chi i wneud?
James - y sialens coginio. Yn ystod y sialens yma roedd yn rhaid inni guro'r amser byddai'n cymryd i archebu takeaway drwy goginio'r un peth, ond mewn ffordd fwy iachus, gan ddefnyddio llai o amser. Ro'n i wedi synnu pa mor rhwydd a chyflym oedd hi i goginio bwydydd takeaway oedd 100% yn fwy iach. Roedd ein prydiau ni hefyd yn flasus iawn!
Pa sialens oedd anoddaf?
Becky - cerdded i fyny Pen-y-fan. Doeddwn i ddim wedi disgwyl iddi fod mor anodd! Ond roedd y cyd-weithio rhwng y teuluoedd i gyd yn arbennig o dda a phawb wedi helpu ei gilydd trwy'r sialens. Roedd pawb yn benderfynol iawn - ond y mamau wnaeth gael hi'n anoddaf rwy'n credu.
Pa gyngor fydde ti'n rhoi i deulu a oedd eisiau dilyn eich esiampl chi?
Edrychwch ar beth rydych chi'n bwyta a pheidiwch â bwyta gormod! Y pethau mwyaf deniadol fel arfer yw'r pethau sydd waethaf ichi.
Sut mae'r broses wedi effeithio arnoch chi fel teulu?
Cyn y gyfres, doedd neb yn ein teulu yn cadw'n heini o gwbl ac ro'n ni gyd yn bwyta gormod ac yn rhoi gormod ar ein platiau. Erbyn hyn, rydym wedi torri lawr ar y bwyd ac yn yfed llawer mwy o ddŵr. Yn bersonol i fi, mae wedi helpu gwella fy nghroen ac mae wedi fy ngwneud i'n fwy egniol.
Beth yw'r cam nesaf ichi?
James - Rwy'n hyderus iawn byddwn ni gyd yn cadw at beth rydym wedi dysgu ar ôl i'r camerâu adael. Ond mae'r broses yma wedi dod â'r teulu yn fwy agos at ein gilydd ac mae gyda ni cynlluniau i ddechrau chwarae badminton fel teulu bob wythnos i gadw ein lefelau ffitrwydd i fyny.