Neidio at y cynnwys

S4C

Cwm Sâl Cwm Iach

Thomas

Yanna

Owen

Thomas

Carys Thomas

Carys

Lloyd Thomas

Lloyd

Nerys Thomas

Nerys

Rob Thomas

Rob

  • Enw
  • Carys
  • Oedran
  • 14
  • O le
  • Glynedd
  • Teulu
  • Nerys (Mam), Rob (Dad), Lloyd (Brawd)
  • Ysgol
  • Ysgol Rhydywaun
  • Diddordebau
  • Rownderi, pêl rwyd
  • Pam benderfynais di enwebu dy deulu i fod yn fwy iach ar gyfer y rhaglen?
  • Roeddwn i a Lloyd yn eithaf ffit cyn dechrau Cwm Sal Cwm Iach, ond wnaethom ni enwebu'r teulu er mwyn ceisio annog mam i wneud mwy. Fel teulu, rydym i gyd yn aelodau o'r gampfa leol ac yn mwynhau nofio a chwarae sboncen. Mae Lloyd hefyd ar lyfrau'r Gweilch ac yn chwarae rygbi drwy'r amser.
  • Beth yw'r peth anoddaf am fod yn fwy iach?
  • Bwyta'n iach! Rydym ni gyd yn hoffi lot o fwydydd sy'n llawn braster felly roedd yn anodd iawn torri lawr i fod yn onest.
  • Beth yw'r peth gorau am fod yn fwy iach?
  • I ddilyn ffordd well o fyw ac i deimlo'n dda am eich hun.
  • Pwy allan o dy deulu sydd wedi cael yr anhawster fwyaf wrth geisio mynd yn fwy iach?
  • Lloyd. Cyn dechrau, doedd diet Lloyd ddim yn dda o gwbl. Mae ganddo ddant melys ac mae'n hoffi bwyta bwydydd llawn braster felly cafodd e amser caled iawn ar y cyfan. Ei broblem yw bod e ddim yn hoffi bwyta pasta neu salad - mae'n hoffi sglodion a phethau sydd ddim yn dda ichi!
  • Pa sialens oedd gorau gennych chi i wneud?
  • Rwy'n credu mai cerdded i fyny Pen-y-fan oedd gorau gen i. Wnes i fwynhau bod allan yn yr awyr iach a chael bod ymysg ffrindiau. Sialens gorau Lloyd oedd cael sesiwn hyfforddi gyda rai o sêr rygbi Cymru - Dwayne Peel ac Andrew Bishop. Wnaeth e fwynhau'n fawr ond roedd yn waith caled iddo.
  • Pa sialens oedd anoddaf?
  • Dwi ddim yn hoff iawn o nodwyddau ac ati, felly roedd y sialens gyntaf lle bu'n rhaid inni fonitro ein hiechyd (drwy gymryd pwysau gwaed ayyb) yn anodd iawn ifi. Rwy'n cofio teimlo'n sâl yn meddwl am y peth.
  • Pa gyngor fydde ti'n rhoi i deulu a oedd eisiau dilyn eich esiampl chi?
  • Cefnogwch eich gilydd achos dyw e ddim yn rhwydd a dilynwch ddiet cytbwys.
  • Sut mae'r broses wedi effeithio arnoch chi fel teulu?
  • Erbyn hyn rydym yn gwneud mwy o bethau fel teulu - rydym yn bwyta gyda'n gilydd yn fwy, yn mynd i'r gampfa neu i nofio gyda'n gilydd, ac rwy'n helpu Lloyd chwarae rygbi yn yr ardd pan fod angen ymarfer arno.
  • Os rhywbeth fyddech chi'n newid am eich amser ar y gyfres?
  • Rwy'n credu bydde' ni wedi gallu rhoi bach mwy o ymdrech mewn i'r sialensiau ar adegau.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales