Neidio at y cynnwys

S4C

Cwm Sâl Cwm Iach

Thomas

Yanna

Owen

Yanna

Yanna Vokins

Yanna

Alison

Alison

Rob

Rob

  • Enw
  • Yanna Vokins
  • Oedran
  • 13
  • O le
  • Penygraig
  • Teulu
  • Alison (Anti) Rob (Wncwl)
  • Ysgol
  • Y Cymer
  • Pa bwnc wyt ti'n hoffi mwyaf yn yr ysgol?
  • Drama
  • Diddordebau?
  • Rwy'n hoff iawn o karate.
  • Pam benderfynais di enwebu dy deulu i fod yn fwy iach ar gyfer y rhaglen?
  • Roedden i eisiau colli bach o bwysau i fod yn onest. Cyn y gyfres, ro'n i ddim yn berson ffit nac yn iach felly roedd yn rhaid gwneud rhywbeth i newid y ffordd o fyw. Rwy'n gaeth i siocled (Kit Kats yw'r ffefrynnau), bwyd McDonalds a phethau eraill sy'n ddrwg i chi.
  • Beth yw'r peth anoddaf am fyw yn fwy iach?
  • Mae pobl yn dueddol o drio'n rhy galed. Mae'n bwysig cofio gwneud y pethau bach yn gyntaf.
  • Beth yw'r peth gorau am fyw yn fwy iach?
  • Y peth gorau yw cael bod yn fwy ffit. Os ydych yn fwy ffit ac iach, gallwch chi fynd allan gyda ffrindiau a rhedeg o gwmpas y lle (fel rwy'n hoff o wneud)!!
  • Pa aelod o dy deulu sydd wedi cael yr anhawster fwyaf wrth geisio byw'n fwy iach?
  • Anti Alison. Roedd hi'n ysmygu trwy'r amser ac yn mynd am sigaréts yn y car pan doedd neb yn edrych. Roedd y ddwy ohonom ni eisiau colli pwysau gyda'n gilydd ond roedd hi'n ffeindio'r broses yn anodd iawn ar adegau.
  • Beth oedd eich hoff sialens?
  • Cerdded i fyny Pen-y-fan. Yr uchafbwynt oedd derbyn sws fawr gan Iolo pan wnaethon ni gyrraedd y copa. Doedden i ddim yn meddwl bydden i erioed wedi cerdded i'r top o'r blaen ac rwy'n falch iawn ohona i a'r teulu.
  • Pa sialens oedd anoddaf?
  • Y sialens gyntaf oedd yr anoddaf - sef cerdded lan a lawr y grisiau i weld pa mor ffit oedden ni. Fy nghyfanswm i oedd 7 gwaith cyn colli f'anadl yn llwyr! Roedd y sialens yma yn agoriad llygaid.
  • Pa gyngor fyddet ti'n rhoi i deulu oedd eisiau dilyn eich esiampl chi?
  • Mae'n anodd iawn ac mae'n bwysig cofio na fyddwch chi'n troi'n ffit dros nos. Cerwch ati a daliwch ati a byddwch chi'n gweld gwahaniaeth.
  • Sut mae'r broses wedi effeithio arnoch chi fel teulu?
  • Rydyn ni eisiau gwneud mwy o bethau fel teulu nawr ac rydym yn bendant wedi closio. I gadw'r lefelau ffitrwydd i fyny, rwy'n gobeithio bydd y tri ohonom ni yn gallu dringo Pen-y-fan eto i weld sut fyddwn ni'n ymdopi heb y gweddill.
  • Beth yw'r cam nesaf iti?
  • Rwy eisiau dechrau chwarae pêl-droed i ferched achos rwy'n ffan fawr - ond yn anffodus dwi ddim yn rhy dda i fod yn onest!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales