Neidio at y cynnwys

S4C
  • Ewrop yn ennill Cwpan Ryder 2010

    EWROP 14 ½ UDA 13 ½

    Ewrop sydd yn codi'r Cwpan Ryder wrth i'r chwarae dod i ben ar faes y Celtic Manor dydd Llun ond roedd hi'n ddiweddglo cyffrous llawn tensiwn.

    Aeth y gystadleuaeth lawr i'r par olaf, Graeme McDowell - enillydd yr US Open a'r Wales Open eleni - a Hunter Mahan, ar y twll olaf cyn i'r gynulleidfa ddarganfod pwy oedd Pencampwyr Cwpan Ryder 2010. Ewrop oedd ar y blaen yn ystod y naw twll gyntaf ond daeth garfan UDA nol i orffen yn gryf.

    Gallwch fwynhau holl uchafbwyntiau'r diweddglo anhygoel, yn ogystal â thrin a thrafod y digwyddiad ar ei chyfanrwydd ar raglenni'r Cwpan Ryder am 18:20 a 22:50 ar S4C heno.

    Llwyddodd Stricker i guro Westwood mewn gem lle'r oedd y pŵer yn symud o un ochr i'r llall. Ennill hefyd oedd hanes Donald (yn erbyn Furyk), Poulter (yn erbyn Kuchar) a Jimenez (yn erbyn Watson) gan ychwanegu at bwyntiau Ewrop.

    Roedd hi'n sgôr gyfartal rhwng McIlroy a Cink ac Edoardo Molinari a Fowler wrth iddyn nhw chwarae'r deunaw twll gyfan.

    Yn ogystal â Stricker yn curo Westwood, enillodd Dustin Johnson (yn erbyn Kaymer), Overton (yn erbyn Fisher), Woods (yn erbyn Francesco Molinari), Zach Johnson (yn erbyn Harrington) a Phil Mickelson (yn erbyn Hanson) i godi pwyntiau America.

    Cafodd hanes ei greu dydd Llun ar faes y Celtic Manor wrth i'r gystadleuaeth barhau am bedwerydd diwrnod am y tro cyntaf yn hanes y Cwpan Ryder - traddodiad sy'n rhedeg 83 mlynedd.

    Dyma'r sgorfwrdd terfynol:

    Lee Westwood v Steve Stricker 2&1
    Rory McIlroy A/S v Stewart Cink A/S
    Luke Donald 1UP v Jim Furyk
    Martin Kaymer                 v Dustin Johnson 6&4
    Ian Poulter 5&4 v Matt Kuchar
    Ross Fisher                                v Jeff Overton 3&2
    Miguel Angel Jimenez 4&3 v Bubba Watson
    Francesco Molinari v Tiger Woods 4&3
    Edoardo Molinari A/S v Rickie Fowler A/S
    Peter Hanson v Phil Mickelson 4&2
    Padraig Harrington v Zach Johnson 3&2
    Graeme McDowell 2&1 v Hunter Mahan
  • Mwy o raglenni Cwpan Ryder ar S4C dydd Llun

    Bydd hanes yn cael ei greu dydd Llun ar faes y Celtic Manor wrth i'r gystadleuaeth barhau am bedwerydd diwrnod am y tro cyntaf yn hanes y Cwpan Ryder.

    I nodi'r achlysur, bydd rhaglenni arbennig ar S4C am 18:20 a 22:50 gyda holl uchafbwyntiau a phwyntiau trafod y diwrnod olaf.

    Ewrop sydd ar y blaen ond mae'r cyfan yn y fantol yn y senglau - gyda 12 pwynt i'w ennill.

    Bydd y senglau yn cychwyn am 9:05 bore Llun.

    Dyma'r gemau:

    Lee Westwood v Steve Stricker
    Rory McIlroy v Stewart Cink
    Luke Donald v Jim Furyk
    Martin Kaymer v Dustin Johnson
    Ian Poulter v Matt Kuchar
    Ross Fisher v Jeff Overton
    Miguel Angel Jimenez v Bubba Watson
    Edoardo Molinari v Rickie Fowler
    Peter Hanson v Phil Mickelson
    Padraig Harrington v Zach Johnson
    Graeme McDowell v Hunter Mahan
    Francesco Molinari v Tiger Woods

  • Ewrop yn gwthio'r Americanwyr i'r eithaf

    Ewrop 9 1/2 UDA 6 1/2

    Mae gan Ewrop dri phwynt o fantais cyn y rownd olaf ar ôl perfformiadau arbennig gan y garfan oll.

    Enillodd Ewrop bump gêm allan o chwech ar ddydd Sul, diwrnod gwlyb wnaeth oedi'r chwarae am dros bump awr. Gêm gyfartal oedd ail gêm y brodyr Molinari yn y gystadleuaeth yn erbyn Stewart Cink a Matt Kucher.

    Dyma sut aeth y chwarae heddiw:

    Bob yn ail (Foursomes)

    3&2 Westwood/ Donald v Woods/Stricker
    3&1 McDowell/McIlroy v Z. Johnson/Mahan

    Y bêl orau (Fourballs)

    2&1 Harrington/Fisher v Furyk/D. Johnson
    2T Jimenez/Hanson v Watson/Overton
    2&1 Poulter/Kaymer v Mickelson/Fowler

  • Rownd 3 (fel mae'n sefyll)

    Westwood a Donald 4up v Woods a Stricker
    McDowell a McIlroy 3up v Z. Johnson a Mahan
    Poulter a Kaymer 2up v Mickelson a Fowler
    Harrington a Fisher 1up v Furyk a D. Johnson
    Jimenez a Hanson 2up v Watson ac Overton
    E. Molinari a F. Molinari 1up v Cink a Kuchar

  • Trwynau'r Americanwyr ar y blaen - Yr Ail ddiwrnod

    Ewrop 4 UDA 6

    Tîm America oedd ar y brig ar ddiwedd dydd Sadwrn, ond roedd Ewrop yn brwydro'n ôl drwy arwain ym mhob gêm yn rownd tri cyn i ddiffyg olau ddod â'r chwarae i ben.

    Mae'r chwarae bore Sul bellach wedi'i ohirio oherwydd glaw trwm dros nos, sy'n golygu bydd y gystadleuaeth yn parhau hyd at ddydd Llun - y tro cyntaf yn hanes y Cwpan Ryder.

    Bydd cyhoeddiad bellach am ail-ddechrau'r gemau am 11:00.

    Yn ystod ail rownd dydd Sadwrn, enillodd Cink a Kuchar yn erbyn McDowell a McIlroy. Woods a Stricker oedd y gorau yn y gêm yn erbyn Jimenez a Hanson a chafodd Mahan a Johnson fuddugoliaeth dros y brodyr Molinari. Enillodd Poulter a Donald, a Harrington a Fisher eu gemau yntau, tra bod Westwood a Kaymer wedi sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Furyk a Fowler.

  • Cwpan Ryder – Y gorau o'r diwrnod cyntaf

    Diwrnod rhwystredig oedd diwrnod agoriadol Cwpan Ryder 2010 yn y Celtic Manor, Casnewydd. Cafodd y tywydd effaith fawr ar y chwarae - gyda seibiant o saith awr a deunaw munud.

    Yn hwyrach yn y prynhawn, ail-ddechreuodd y gystadleuaeth ac mae'r sgorfwrdd wedi newid cryn dipyn. Yr Americanwyr, ac nid tîm Ewrop, sydd ar y brig er bod tyllau i'w gwblhau o'r rownd gyntaf fory.

    Tra bod Westwood a Kaymer yn ennill, mae'n gyfartal rhwng Poulter, Fisher, Stricker a Woods. Mae Cink a Kuchar ymhell yn y blaen yn erbyn McIlroy a McDowell a'r pâr olaf - Watson ac Overton - un pwynt yn well na Donald a Harrington.

    Oddi ar gwrs Twenty Ten, mae trefnwyr y Cwpan Ryder wedi cyhoeddi newid i drefn y gystadleuaeth er mwyn sicrhau gorffen nos Sul.

    Bydd yn rhaid cwblhau chwarae'r rownd gyntaf ar ddechrau bore Sadwrn cyn symud ymlaen at gystadleuaeth bob yn ail (Foursomes), Mae'r newid i'r drefn yn golygu bod pob aelod o'r ddau dîm yn chwarae yn y gemau sy'n weddill. Os yw'r tywydd yn parhau i amharu ar y gystadleuaeth dydd Sul, bydd yn rhaid ymestyn i ddydd Llun.

    Trefn Newydd

    Rownd 2 - 6 Gêm Bob yn Ail (Foursomes)

    Rownd 3 - 2 Gêm Bob yn Ail (Foursomes) / 4 Gêm Y Bêl Orau (Fourballs)

    Rownd 4 - 12 Senglau

  • Cyhoeddiad am y Cwpan Ryder

    Bydd timoedd Ewrop ac America yn ail-gychwyn chwarae cystadleuaeth Fourball am 17:00 ar ôl i'r glaw trwm a'r meysydd gwlyb achosi saib hir.

  • Saib yn y chwarae oherwydd glaw trwm

    Bu rhaid i'r chwarae ar fore agoriadol Cwpan Ryder 2010 gymryd saib hir oherwydd tywydd gwael a glaw trwm.

    Cyn i'r glaw amharu ar y chwarae, Ewrop oedd ar y blaen gyda thri allan o'r pedwar pâr yn arwain y ffordd. Yr Americanwyr Bubba Watson a Jeff Overton sy'n curo Luke Donald a Padraig Harrington ar ôl y ddau dwll agoriadol. Bydd y chwarae'n ail-gychwyn ar ôl cinio.

    Dyma'r parau ar gyfer y gystadleuaeth Fourball:

    Lee Westwood a Martin Kaymer v Phil Mickelson a Dustin Johnson

    Rory McIlroy a Graham McDowell v Stewart Cink a Matt Kuchar

    Ian Poulter a Ross Fisher v Steve Stricker a Tiger Woods

    Luke Donald a Padraig Harrington v Bubba Watson a Jeff Overton

  • Tiger Woods sy'n edrych ymlaen at Gwpan Ryder 2010

    Beth yw dy argraffiadau cyntaf o Gwrs y Twenty Ten yn y Celtic Manor?

    Rwy'n amau bydd yr amodau'n anodd iawn ar y cwrs wrth ystyried fod tywydd garw ar y ffordd, man gosod y tiau a phethau tebyg o'r natur yna. Mae'r lawntydd bach yn araf ar hyn o bryd ond rwy'n tybio bydd y cyflymder yn arafu'n fwy wrth i'r wythnos fynd ymlaen oherwydd y gwynt a'r glaw - felly bydd yn rhaid gwneud rhai newidiadau i'r gemau.

    Wyt ti'n teimlo fod yna bwysau ychwanegol arnat ti gan aelodau o'r tîm a'r cyhoedd i gyfiawnhau dy ddewis fel wild card?

    Mae'n rhaid ifi ymateb ar y cwrs drwy chwarae'n dda. Pwy bynnag fydd y capten yn rhoi ifi fel partner a pha bynnag weithiau fyddai'n chwarae dros y penwythnos, mae'n rhaid ifi gasglu gymaint o bwyntiau ag sy'n bosib.

    Os yna unrhyw chwaraewyr o garfan Ewrop rwyt ti'n mwynhau chwarae yn eu herbyn?

    Unrhyw un i fod yn onest. Yn y gemau sengl ar brynhawn Sul, yr holl bwrpas yw casglu pwyntiau i'r tîm. Dyna'ch cyfrifoldeb chi fel chwaraewr - i sicrhau'r pwynt.

    Wyt ti'n meddwl bydd y partneriaid yn cael unrhyw effaith ar y sgôr terfynol?

    Mae'n rhaid inni fynd allan ac ennill. Does dim ots pwy y'ch chi'n chwarae gyferbyn, mae'n rhaid cael y bêl yn y twll a churo'r gwrthwynebwyr. Rwy wedi chwarae mewn gemau pan ro'n i deg yn well na'r safon ac yna mynd ymlaen i golli. Dyna'r ffordd mae gemau'r Cwpan Ryder yn mynd. Mae'n rhaid gwneud yn siŵr o'r fuddugoliaeth. Mae rôl y capten yn hynod bwysig yn rhoi'r partneriaid at ei gilydd - ond ni allan ar y cwrs sy'n gorfod gweithredu.

  • Pwy fydd yn codi'r Cwpan Ryder ar ddiwedd y penwythnos?

    Bydd darllediadau S4C o'r Cwpan Ryder yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd yn parhau gydol y penwythnos.

    Mae'r rhaglenni ar ddechrau'r noson yn dod â holl fwrlwm prif ddigwyddiad chwaraeon Cymru i gartrefi'r gwylwyr yng nghwmni Gareth Roberts, Rhodri Ogwen Williams, Llinos Lee a Dewi 'Pws' Morris. Yn trafod y cystadlu bydd golffwyr proffesiynol a chefnogwyr brwd y gamp, gan gynnwys Siôn Bebb a Louise Davis.

    Bydd y rhaglenni hwyr y nos yn cynnwys uchafbwyntiau estynedig ac ymateb i'r holl chwarae.

    Unol Daleithiau America gipiodd y Cwpan Ryder y tro diwethaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn 2008 wrth i garfan Nick Faldo foddi wrth y lan. Cyn hynny, Ewrop aeth â hi ar y tri achlysur blaenorol.

    Ond gyda chymaint o gynnwrf a disgwyliadau uchel ar dîm Ewrop Colin Montgomerie yn 2010, ai nhw fydd yn codi'r Cwpan ar ddiwedd y penwythnos?

    Meddai Siôn Bebb, "Mae cwrs y Twenty Ten yn arbennig iawn ond rwy'n amau y bydd y cwrs yn chwarae'n hir ac yn wlyb adeg yma'r flwyddyn - ac yn cynnig her o'r radd uchaf i Americanwyr Corey Pavin.

    "Rwy'n rhagweld cystadleuaeth agos iawn a bydd y diwedd yn agos iawn a'r tyllau olaf yn siŵr o achosi drama a chyffro. Mae'r capteiniaid wedi gwneud eu penderfyniadau nhw - rhai dadleuol a rhai tactegol - ac mae'r llwyfan yn barod i'r chwaraewyr wneud eu marc. Gobeithio y bydd y ffaith bod ein bois ni'n adnabod y cwrs yn well yn helpu."

    Meddai Dewi Pws, "Gall y gystadleuaeth fynd unrhyw ffordd - mae gan Ewrop a'r UDA chwaraewyr ddigon abl, felly pwy a ŵyr pwy fydd yn ennill ar ddiwedd y tridiau.

    "Wrth gwrs byddai'n braf pe bai Ewrop yn ennill ond rwy wir yn edrych 'mlaen at y digwyddiad cyfan. Mae'r cwrs yn wych, y wâc yn neis ac mae'n lle bendigedig. Bues i'n ffodus iawn o gael chwarae rownd ar y cwrs a fi 'di rhagweld rhai o'r problemau a'r sialensiau fydd yn wynebu'r chwaraewyr. Bydd yn dipyn o her hyd yn oed i chwaraewyr mor brofiadol."

    Cwpan Ryder
    Nos Sadwrn 2 Hydref am 19:00 a 22:40
    Nos Sul 3 Hydref am 18:30 a 23:20

  • Cynnwrf a chyffro Cwpan Ryder ar S4C

    Gall cefnogwyr chwaraeon yng Nghymru fwynhau uchafbwyntiau dyddiol o bencampwriaeth golff mwya'r byd, Y Cwpan Ryder 2010 o'r Celtic Manor, ar S4C.

    Mae'r paratoadau olaf wedi eu cwblhau, mae chwaraewyr Ewrop ac America yn barod am her y cwrs, mae'r cefnogwyr wedi tyrru i Gasnewydd o bedwar ban byd a'r llwyfan yn barod ar gyfer Cwpan Ryder cyntaf Cymru.

    Un sy'n edrych ymlaen yn arw at gael bod yn rhan o'r digwyddiad mawreddog yw'r cyflwynydd a'r golffwraig frwd, Llinos Lee.

    "Mae Cymru wedi bod yn aros am y foment yma ers 2001 felly bydd tridiau'r bencampwriaeth yn uchafbwynt i'r holl waith caled a'r trefnu. O ran dilyniant ar deledu, y Cwpan Ryder yw'r trydydd digwyddiad chwaraeon mwyaf poblogaidd tu ôl i'r Gemau Olympaidd a Rownd Derfynol Cwpan y Byd Pêl-droed - mae'n gyfle euraidd i werthu Cymru i'r byd.

    "Yn ogystal ag uchafbwyntiau o'r chwarae, byddwn yn edrych ar y Cwpan Ryder fel achlysur. Cawn gipolwg ar yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni ac oddi ar y cwrs, cawn sgwrsio gyda rhai o'r ymwelwyr a thrin a thrafod hynt a helynt golffwyr gorau'r byd ar y cwrs."

    Bydd arlwy'r Sianel o'r Celtic Manor yn dechrau nos Fercher 29 Medi wrth i dîm Golffio edrych ar y paratoadau olaf. Ar noswyl y bencampwriaeth, bydd rhaglen arbennig yn cynnwys uchafbwyntiau Seremoni Agoriadol Cwpan Ryder.

    Ychwanega Llinos, "Rwy'n credu mai Ewrop fydd yn codi'r tlws ar ddiwedd y tridiau. Mae aelodau'r garfan wedi bod yn chwarae'n dda ac wedi ennill pencampwriaethau fel unigolion. Rwy'n ffyddiog byddant yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio tîm llwyddiannus. Mae yna gyfuniad da o chwaraewyr profiadol fel Padraig Harrington a Lee Westwood a sêr newydd fel y brodyr Molinari o'r Eidal, sy'n chwarae'n dda ar hyn o bryd. Ond yn ystod y gystadleuaeth, bydda i'n niwtral, wrth gwrs!"

    O ddydd Gwener 1 hyd ddydd Sul 3 Hydref, bydd rhaglenni am 19:00 yn dangos y gorau o'r digwyddiad a'r chwarae ar gwrs y Twenty Ten. Mae'r rhaglenni hefyd yn cynnwys dadansoddi a sgyrsiau gyda phanel o arbenigwyr, yn ogystal â chyhoeddi pwy fydd yn chwarae gyda phwy drannoeth.

    Darlledir rhaglenni hwyr y nos o'r Celtic Manor yn ystod tridiau'r bencampwriaeth, gan gynnwys mwy o uchafbwyntiau a dadansoddi.

    Gareth Roberts, Rhodri Ogwen Williams a Dewi 'Pws' Morris fydd yn ymuno â Llinos i gyflwyno'r rhaglenni. Bydd golffwyr proffesiynol a chefnogwyr brwd y gamp yn trafod y cystadlu, gan gynnwys Siôn Bebb a Louise Davis.

  • Gwledd o Golffio

    Mae Golffio yn dychwelyd i S4C gyda mwy o'r gamp nag erioed o'r blaen.

    Yn gyntaf, bydd uchafbwyntiau dyddiol o Bencampwriaeth Merched Ewrop Cymru S4C, sy'n cael ei chynnal yng Nghlwb Golff Conwy o 12-15 Awst, gyda'r rownd olaf yn fyw ar y prynhawn dydd Sul.

    Mae'n flwyddyn arbennig i golff yng Nghymru wrth i Gasnewydd gynnig llwyfan rhyngwladol i brif gystadleuaeth golff y byd, y Cwpan Ryder 2010. Mae disgwyl i gannoedd o filoedd o gefnogwyr y gamp deithio i Gymru i ddilyn y cystadlu o 28 Medi-3 Hydref a bydd camerâu Golffio yno hefyd i ddarlledu'r cyfan.

    Meddai Llinos Lee, o dîm cyflwyno Golffio, "Mae'r Cwpan Ryder yn rhywbeth rydyn ni i gyd wedi bod yn siarad amdano ers dros 2 flynedd ac rwy'n edrych ymlaen at gael cyflwyno o'r cwrs yn y Celtic Manor. Dyma'r tro cyntaf i'r gystadleuaeth fod ar ein stepen drws ac mae'n achlysur syfrdanol."

    Bydd Llinos a'r tîm yn dilyn y chwaraewyr bob cam o'r ffordd hyd y Cwpan Ryder. Bydd golffwyr o Ewrop a'r UDA yn brwydro am le yn eu timoedd a chanwn glywed cyhoeddiad Colin Montgomerie wrth iddo enwi aelodau Tîm Ewrop.

    Cyn hynny, bydd Golffio yn darlledu o'r prif gystadlaethau i ddynion a merched o Gylchdaith Ryngwladol Ewrop, PGA yr Unol Daleithiau a Chylchdaith Ewropeaidd y Merched.

    Meddai Siôn Bebb, y golffiwr proffesiynol fydd yn rhan o'r tîm cyflwyno, "Bydd mis Awst a mis Medi'n bwysig o ran penderfynu pwy fydd yn y tîm a phwy na fydd. Rhys Davies yw ein gobaith gorau yng Nghymru.

    "Bydd lot o golff yn cael ei chwarae rhwng nawr a'r hydref . Pwy bynnag sy'n chwarae yn y Cwpan Ryder, bydd diwedd y gystadleuaeth yn agos iawn a'r tyllau olaf yn siŵr o gynnig drama a chyffro i'r gwylwyr gartref."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales