Neidio at y cynnwys

S4C

Holi'r Cyflwynwyr a'r Arbenigwyr

Gareth Roberts

  • Ers faint wyt ti wedi bod yn chwarae golff?

    Mae'n gamp rwy' wedi bod yn chwarae ers yn ifanc iawn. Roedd Dad yn chwarae - ac mae dal i chwarae tair gwaith yr wythnos heddiw! Rwy'n cofio dysgu ar Gwrs Golff Porthllechog gyda chriw o ffrindiau o'r ysgol - mae un ohonyn nhw bellach yn byw yn Lincoln ac yn Course Marshall yn y Cwpan Ryder. Gobeithio cai weld o yn ei swydd yn ystod y penwythnos.

  • Pam wyt ti'n hoffi golff?

    Mae bob gêm o golff yn wahanol - pob cwrs yn wahanol, sialensiau gwahanol, safle'r twll ar y lawnt yn newid bob tro a thywydd gwahanol - sy'n ei wneud yn gyffrous. Nid yn unig ydych chi'n chwarae yn erbyn y cwrs, ond rwyt ti'n chwarae yn erbyn ti dy hun. Fuaswn i'n dadlau mai golff yw un o'r gemau anoddaf sydd ar gael. Gyda snwcer mae'r bwrdd yr un maint bob tro. Gyda darts dydi'r rhifau ddim yn newid lle. Mae'n rhaid cael y meddylfryd iawn i chwarae - dwi 'di gweld ambell un yn colli clybiau heb sôn am beli.

  • Ble wyt ti'n chwarae nawr?

    Dwi'n aelod o glwb Creigiau, tu allan i Gaerdydd. Mae gennai ddiddordeb mawr yn y gêm ond dwi ddim yn cael chwarae mor aml â hoffen i!

  • Beth ydy dy 'handicap'?

    18.

  • Pwy yw dy arwr golffio?

    Pan oeddwn i'n iau, Jack Nicklaus, Tom Watson a Seve Ballesteros oedd y tri. Mae Ian Woosnam yn arwr hefyd - mae wedi ennill y Masters yn Augusta ac wedi cyfrannu'n allweddol i'r Cwpan Ryder fel chwaraewr a chapten buddugol.

  • Pa chwaraewyr wyt ti'n edrych ymlaen at weld yn y Cwpan Ryder?

    Rory McIlroy - y bachgen 21 oed o Ogledd Iwerddon. Ar hyn o bryd mae'n byrlymu hefo'i hunan hyder ac mae'n uchel iawn yn rankings y byd. Yn seicolegol, mae McIlroy mewn lle da i chwarae golff. Gobeithio cai amser i'w ddilyn a gweld e'n chwarae'n fyw.

  • Pwy fydd yn ennill Cwpan Ryder 2010?

    Mae yna lawer o sôn am Ewrop yn ennill yn rhwydd ond fedrwch chi ddim diystyru America o gwbl. Bydd hi'n agos iawn ac rwy'n amau bydd hi'n hwyr iawn ar y diwrnod olaf cyn daw enillydd i'r lan.

Gareth Roberts

Gareth Roberts

Rhodri Ogwen Williams

  • Beth ydy dy ' handicap'?

    12 - ond yn anffodus rwy ond yn gallu chwarae yn achlysurol. Ond fi'n eithaf parod am unrhyw gyfle i chwarae, ma' set o glybiau 'da fi yng nghist y car trwy'r amser - rhag ofn!

  • Pwy yw dy arwr golffio?

    Roedd Seve Ballesteros a Nick Faldo yn arwyr imi yn tyfu lan ac rwy'n cofio bod ym Mhencampwriaeth yr Open un flwyddyn a chael cinio ar yr un bwrdd â Faldo a Bernhard Langer - profiad bythgofiadwy.

    Ond mae'n rhaid hefyd sôn am Tiger Woods. Nid yn unig yw Tiger yn arwr y byd golffio, ond mae'n arwr ym myd chwaraeon i gyd. Mae wedi llwyddo i newid y gêm yn gyfan gwbl gan godi'r bar mor uchel - ac mae eraill wedi eu dilyn a chodi eu safonau nhw hefyd. Mae ei gyfraniad a'r hyn mae wedi cyflawni yn y gêm yn anhygoel.

  • Roeddet ti'n falch felly fod Tiger yng ngharfan Unol Daleithiau America?

    Y newyddion roedd pawb eisiau clywed am y Cwpan Ryder oedd Tiger yn dod i Gymru. Dyna beth mae pawb wedi bod yn disgwyl ers cyhoeddi'r gystadleuaeth nôl yn 2001. Mae'r cyfle i'w weld yn fyw yn anhygoel - dwi 'di bod yn ddigon ffodus fy hun i'w ddilyn mewn sawl gystadleuaeth.

  • Pwy fydd yn ennill Cwpan Ryder 2010?

    Dwi wir ddim yn siŵr. Roedd Ewrop yn canu'n gynnar iawn am gryfder y tîm ond mae tîm America yn hynod o gryf. Gall Phil Mickelson, Dustin Johnson a Bubba Watson taro'r bêl bellach nag unrhyw un arall - mantais fawr i'r ymwelwyr. Bydd y tensiwn a'r cyffro i gyd i'w weld hyd at y twll olaf un rwy'n credu.

Rhodri Ogwen Williams

Rhodri Ogwen Williams

Siôn Bebb

  • Pryd nes di ddechrau chwarae golff?

    Pan oeddwn i'n blentyn, ro'n i'n byw drws nesaf i Glwb Golff Llantrisant a bob haf fydde'n i yn dringo'r ffens ac yn chwarae yno gyda fy mrawd, Gareth. Mae Gareth nawr yn broffesiynol hefyd.

  • Beth yw dy hoff gwrs golff yng Nghymru?

    Cwrs Golff Trefynwy neu mae Harlech yn un da - gyda'r gwynt a'r glaw mae'n sialens anodd dros ben.

  • Sut gwrs yw'r Twenty Ten yn y Celtic Manor?

    Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae ar gwrs y Cwpan Ryder yn y Celtic Manor ar sawl achlysur ac mae'n gwrs heriol ac arbennig. Ond rwy'n amau erbyn yr hydref fe fydd y cwrs yn chwarae'n hir ac yn wlyb - ac yn cynnig her o'r radd uchaf i Americanwyr Corey Pavin.

  • Ym mha ffordd bydd Cymru'n elwa drwy gynnal y Cwpan Ryder?

    Heb os bydd yr economi lleol yn elwa gyda'r twristiaid yn pentyrru i Gasnewydd a Chaerdydd. Mae golff yng Nghymru wedi elwa yn barod gyda mwy o bobl ifanc a menywod yn dysgu chwarae'r gamp. A bydd pobl yn gwylio ar draws y byd i gyd ar y teledu ac yn gweld pa mor brydferth yw Cymru.

  • Wyt ti'n credu bydd Montgomerie yn gapten da?

    Mae Monty wedi dangos ei fod yn gapten perffaith ac mae pawb yn dueddol o edrych lan ato fe. Hefyd, mae'n gwybod sut mae'r cystadlaethau yma'n gweithio gan iddo fod yn rhan o'r timau dros y ddegawd a mwy diwethaf, felly bydd ei weld yn mynd ben ben â Pavin yn hynod gyffrous - gyda'r ddau yn gymeriadau gwbl wahanol.

    Pwy bynnag sy'n chwarae, bydd y diwedd yn agos iawn a'r tyllau olaf yn siŵr o achosi drama a chyffro i'r gwylwyr adref.

Dewi Pws Morris

  • Pam wyt ti'n hoffi golff?

    Hawdd i'w sillafu.

  • Beth ydy dy 'handicap'?

    Rhiannon (y wraig!)

  • Beth yw dy hoff gwrs yng Nghymru?

    Yr "Augusta" o far y Penllwyndu tu fas i Dresaith.

  • Pwy yw dy arwr golffio?

    Emyr Wyn! Achos ma cheek da fe i iwso swing mor ddoniol.

  • Oes unrhyw un arall yn y teulu'n gwirioni ar golff?

    Na. Falle bod Cyril y goldfish yn gwylio fe weithie - achos ma' fe'n llonydd yn syllu mas pan fod golff 'mlaen ar y teledu.

  • Pwy sy am ennill Cwpan Ryder 2010?

    Man U. Naill ai Ewrop neu America.

Dewi Pws Morris

Dewi Pws Morris

Llinos Lee

  • Pam wyt ti'n hoffi golff?

    Dwi wedi bod yn ffan o golff ers amser hir. Roedd golff wastad ar y teledu yn ein tŷ ni ac felly dwi wedi bod yn dilyn y gamp ers on i'n fach. Mae'n gêm sy'n llawn tensiwn a chyffro ac yn cynnal diddordeb. Mae'n gêm y gall pobl o bob oedran ei chwarae a'i mwynhau.

  • Beth yw dy hoff gwrs yng Nghymru?

    Ry'n ni'n lwcus iawn i gael gymaint o gyrsiau anhygoel dros Gymru gyfan ond os baswn i'n gorfod dewis un, Harlech fyddai e oherwydd y lleoliad. Mae'r golygfeydd o'r Castell o'r cwrs yn wefreiddiol. Wedi dweud hynny, fe ddylwn i fod wedi dewis clwb golff Brynhill yn y Barri, sef fy nghlwb lleol i. Mi fydd Mam yn gapten blwyddyn nesaf hefyd!

  • Pwy yw dy arwr golffio?

    Ers cyflwyno Golffio dwi wedi cwrdd â nifer o chwaraewyr enwoca'r byd. Dwi'n hoff iawn o wylio Miguel Àngel Jimenez achos bod e mor cŵl yn cerdded rownd y cwrs golff. Ond o ran y chwarae does neb tebyg i Tiger Woods!

  • Oes unrhyw un arall yn y teulu yn gwirioni ar golff?

    Mae fy nheulu i gyd yn hoff iawn o'r gêm ac yn chwarae golff o safon. Mae Mam, Dad, Huw fy ngŵr a Tomos fy mrawd yn frwd, ac mae fy nghefnder i, Kyron Sullivan, yn chwarae'n broffesiynol.

LLinos Lee

Llinos Lee

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales