Cwpwrdd Capsiwl Merched
*

Par o jîns sydd yn ffitio'n dda

Mae hi'n werth gwario mwy ar rai da sy'n cadw eu siâp. Mae rhai gyda choesau 'Boottleg' yn dda os oes ganddoch gluniau mawr. Coes siâp syth sydd yn dda ar gyfer coesau tenau. Mae 'Hipsters' yn grêt os nad ydych yn rhy fawr o amgylch eich canol, ac mae jîns gyda gwast uwch yn gweddu'n well i ferched hyn a thrymach.

*

Siaced steil blaser mewn defnydd cord, denim neu frethyn

Mae blaser yn siwtio y rhan fwyaf o siapiau ac yn gallu cael ei gwisgo yn ystod y dydd neu ar gyfer y nos.


*

Top gwyn neu hufen

Gwyn neu hufen yn dibynnu ar liw eich croen gyda gwddf sy'n siwtio siâp eich corff. Gwddf crwn (crys-t arferol) yn siwtio merched sy'n fach eu bron ond angen gwddf siâp V neu yn syth ar draws os ydych yn fwy.


*

Bwts lliw tan, lledr naturiol hyd at groth y goes

Bydd rhain yn mynd gyda phob dim yn eich cwpwrdd boed yn sgert neu'n drowsus. Dewiswch bâr sy'n addas i chi - naill ai sodlau gweddol uchel neu eitha' fflat os ydynt yn fwy ymarferol. Mae sowdl 'kitten' yn un sy'n siwtio'r rhan fwyaf.


*

Top i wisgo gyda'r nos

Mae'n well osgoi un rhy sgleiniog gan y bydd eich cyfleon i'w wisgo yn cael eu cyfyngu. Defnydd sidan gydag ychydig o frodwaith efallai, gyda llewys os oes well gennych guddio'ch breichiau - llawes tri-chwarter yn dda, gallwch wisgo breichledi deniadol a dangos eich garddyrnau tra'n cuddio'r 'adenydd bingo'. Mae strapiau tenau yn ddeniadol gyda mwclis o amgylch y gwddf.


*

Trowsus smart

Gwisgwch gyda thop gyda'r nos neu'r siaced yn ystod y dydd. Lliw tywyll sydd orau er mwyn gallu eu cyfuno gyda thopiau patrymog neu olau. Ni fydd trowsus golau yn eich siwtio os nad yw hanner gwaelod eich corff yn fain, ond os ydych yn ddigon main, gallwch gyfuno'r trowsus gyda thop hir sy'n cuddio'r pen ôl a thop y coesau.


    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25