Cypyrddau Dillad: Elle Frieze
*
*
*
*

Fel Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a model i'r cynllunydd Siapaniaidd sy'n byw yn Llundain, Michiko Koshino, ffasiwn yw bywyd Elle o'r eiliad y mae'n codi am 7 y bore i'r funud yr aiff i'w wely am 2 neu 3 y bore, wedi iddo fod mewn parti lawns neu sioe ffasiwn...


*

Nia: Felly rwyt ti'n gweithio gyda'r dylunydd Michiko Koshino. Disgrifia dy waith

Elle: Dwi'n rhoi cyngor i'r cwmni. Dwi'n edrych ar ôl y 'main line collection' a'r casgliadau eraill. Os ydi Michiko yn teithio, mae'n rhaid i mi fynd efo hi hefyd. Mae llawer o bobl jyst yn edrych ar gylchgronau ffasiwn neu ma' nhw'n gweld ffasiwn ar y teledu, ond mae'r diwydiant ffasiwn yn waith caled iawn. Ambell waith mae'n rhaid i ti godi am bump o'r gloch y bore a wedyn ti allan tan bedwar o'r gloch y bore wedyn. Ma' 'na lawer o deithio hefyd.

Ma' 'na llawer o bartion, siwr o fod tri neu bedwar bob nos a ni ddim yn gallu mynd i bob parti felly mae'n bwysig i ni wneud yn siwr ein bod ni'n dewis yr un gorau i fynd iddo. Ambell waith, mi fydd yna lawer o bartion cylchgronau yn ystod yr wythnos, ond mae'n rhaid i ti ddewis y math o gylchgronau sy'n dangos ein casgliadau ni.

Os ma' 'na 'celebrity' yn gwisgo ein dillad ni mewn parti, ni'n gwneud yn siwr ein bod yn mynd i'r parti yna. Ma' Orlando Bloom yn gwisgo'n dillad ni. Mae'r brodyr Gallaghers hefyd yn ogystal â Meg Mathews, Kate Moss a Jodie Kidd. Ma' nhw'n dod ata i ofyn os allant gael y dillad neu ma' nhw jyst yn mynd i'r siop i brynu'r dillad.

*

Nia: Beth yw hanes y trowsus/sgert yma?
Beth yn union yw'r wisg

Elle: Darn o gelf ydi'r wisg hon! Par o drowsus gyda kilt dros ei ben. Ti jyst yn gwisgo nhw fel par o jins. Sgert ar y tu allan fel petai

*

Nia: Beth am y 'trowsus drafft'?

Elle: Nath Michiko eu dylunio nhw bum mlynedd yn ôl ond dim ond nawr ma' nhw allan yn y siopau. Ma' nhw ar gyfer bechgyn a merched hefyd. Mae'n rhaid eu gwisgo nhw'n eitha isel a gosod y gwaelod y tu mewn i bâr o fwts. Ma' nhw'n eitha caled i gerdded ynddyn nhw felly os ti ishe mynd allan am y nos, ma' raid i ti wneud yn siwr bo' rhywun yn mynd a ti a'n pigo ti fyny ar ddiwedd y nos!

*

Nia: Beth am y siaced goch steil 'beicar' yma?

Elle: Nes i brynu'r siaced goch yma tua dwy flynedd yn ôl am £20 o Portabello Market. Bargen!


*

Nia: Un peth dwi'n sylwi, does dim lot o ddillad yn y cwpwrdd nagoes? Wyt ti'n taflu pethau allan er mwyn cadw 'up-to-the-minute' o ran ffasiwn?

Elle: Ar hyn o bryd, gan fy mod i'n gweithio i Michiko Koshino, dwi'n gwneud yn siwr 'mod i'n gwisgo Michiko Koshino bob amser. Odd raid i mi daflu llawer o'm hen ddillad allan. Odd raid i mi eu rhoi i siop Oxfam. Os oes angen mwy o ddillad arna i, dwi jyst yn mynd i'r siop a dewis be dwi ishe - jyst dewis a byth yn gorfod talu amdanynt!

*

Nia: Beth am y top glitzy yma?

Elle: Anrheg oddi wrth y cynllunydd ffasiwn Alexander McQueen oedd hwn. Nes i wisgo'r top i'w sioe ffasiwn tua pum mlynedd yn ôl. Dwi erioed wedi'i wisgo ers y sioe ffasiwn.

Elle ar ddillad...
Does dim eiconau steil gen i ac alla i ddim meddwl am neb dwi ishe eu hefelychu nhw. Mi fyddwn i'n disgrifio fy steil yn hollol unigryw.

    CWPWRDD DILLAD