Cwpwrdd Dillad: Adam Marc James
Adam Marc James
Adam Marc James
Adam Marc James
Adam Marc James

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Does yna ddim byd cyffredin am Adam Marc James. Mae'n cynllunio dillad i ddynion, ond ddim y math o ddillad y basa chi'n ystyried yn bob dydd, nid at ddant pawb falla. Ond, ceisio herio ein syniadau ni mae'r gŵr ifanc sydd bellach yn astudio ffasiwn yn Llundain.

Adam Marc James

Disgrifia dy waith cynllunio di mi.

Ma' ngwaith i wastad yn dechre gyda rhywbeth dynol - ryw emosiwn, ryw deimlad y medrwn ni gyd uniaethu gydag o. I fi ma'n hollol naturiol i ymdrin â'r materion yma ar y corff, y lle rhwng y corff a'r dilledyn a lle mae'r dilledyn yn cyffwrdd â'r corff. Es i mewn i'r cwrs yn gwybod mai ffasiwn o'n i am wneud, ond dwi ddim yn blinkered ar yr un pryd. Felly, mi wnes i ddefnyddio'r technege a'r cyfryngau i gryfhau y ngwaith i - gwaith ffilm, gwaith ffotograffiaeth a'r gwaith gosod wedyn.

Adam Marc James

Os wyt ti'n deud fod pethau dynol - emosiynau, pethau greddfol yn bwysig i ti, oes yna ryw emosiynau arbennig sy'n amlwg yn dy waith di?

Eleni yn enwedig oherwydd mod i wedi colli fy nhad-cu, ma' marwolaeth yn dod lan yn y ngwaith i drwy'r amser, a dwi'n credu fod hynny'n rywbeth y gall pawb uniaethu ag o. Ma' pawb yn ymwybodol nad ydyn nhw yn mynd i fod yma drwy'r amser, a dwi'n cwestiynu beth ydan ni yn adael ar ôl. Beth yw'r peth sy'n mynd i fyw heibio pan 'dych chi ddim yma? Hefyd mi nes i etifeddu siwtiau tad-cu, a fel trefnwr angladdau ro'n i mewn ffordd wastad wedi cysylltu marwolaeth gyda fe.

Adam Marc James

Siwt ar ôl dy hen dad-cu ydy hwn?

Dyma siwt fy hen dad-cu. Ma' hwn yn dod o Evans and Wilkins oedd yn deiliwr adnabyddus yng Nghaerfyrddin a mae'r lining yn hufen - dwi'n siŵr mai gwyn oedd o pan gafodd e'i wneud. Sai'n cofio tad-cu fel dyn mawr ond wrth edrych yn ôl ar y siwt yma ma'n amlwg ei fod o'n fwy na beth o'n i'n gofio pan o'n i'n blentyn achos mi farwodd o pan o'n i'n eitha' ifanc ac wrth edrych ar y llawes ti'n gallu dweud i fod o wedi ei deilwra'n dda.

Adam Marc James

Mae'n amlwg fod 'na ddilledyn yma, ond ma' 'na osodwaith yma hefyd, felly be ydy arwyddocâd y darn?

Mae'r darn yma ma' siwr yn un o'r darnau mwya' personol dwi wedi ei wneud. Dwi wedi cymryd darnau nes i etifeddu i greu darn sy'n cwestiynau marwolaeth, dyna pam mae'r saethau yn dod mewn iddo fe - lle da ni yn mynd ar ôl hynny? Mae'r llwch lli yma oherwydd dwi'n cofio pan o'n i yn mynd draw i dŷ hen dad-cu ac roedd e'n gwneud yr eirch, roedd wastad llwch lli o gwmpas y lle, a wedyn mi o'n i'n mynd ag yn pigo lan y llwch lli ar gyfer y cwningod o'n i'n cadw ar y pryd - felly ma hwn yn ddarn nostalgic.

Adam Marc James

Os wyt ti'n dweud mai'r emosiynau greddfol, dynol, sy'n bwysig yn dy waith di, sut mae hynny'n ymgorffori ei hun yn dy gwpwrdd dillad di?

Yn fy nghwpwrdd dillad i ma gen i lawer o siwts a blazers, eitha ffurfiol rhan fwyaf o'r amser. Dwi'n codi'n y bore a rhoi rhywbeth arno a dwi'n meddwl, ie, dwi am fynd mas heddiw a dwi am gyflawni rhywbeth.

Adam Marc James

Sut all y dillad ti'n wisgo fod mor wahanol i'r math o ddillad ti'n eu creu?

Dwi'n eitha hoffi'r disconnection rhwng y nillad i a ngwaith i. Ma' rhai cynllunwyr, rhai artistiaid, does dim gwahaniaeth rhyngddyn nhw a'u gwaith, ond mae'n gadael i mi gymryd cam yn ôl i gael asesu pethau o ochr weledol a hefyd ochr syniadol. Sa'i yma i roi atebion i bobl. Dwi yma i godi cwestiynau a'u hanfon nhw i feddwl.

Adam Marc James

Beth yw'r stori tu ôl i'r casgliad hwn?

Mae'r tri darn yma'n ran o'r casgliad nes i gynhyrchu fel rhan o ddiwedd y nghwrs i yn Caerfyrddin, a ma' nhw'n ddarnau o ddillad, fel showcase y casgliad mewn ffordd. Dydy nhw ddim wedi eu hongian, does dim un ffordd y bydda nhw'n gallu cymryd siâp oherwydd mai darnau ydyn nhw, fel blaen un coes trowsus neu ran o grys, a ma hongian nhw'n rhoi siâp neu syniad o'r corff tu ôl iddyn nhw.

Adam Marc James

Mae'r gwaith yn reit dywyll yn dydy, ydy hynny'n bwrpasol?

Ydy mae o'n bwrpasol. Un o'r themâu oeddan ni yn delio gyda fe fel rhan o'r gyfres yma oedd y syniad o absence and presence - ydy rhywbeth yna neu ddim? Ma' 'da fi olwg i wneud dillad dynion, fan yna ma'r cyfle i mi wneud gwahaniaeth, oherwydd bod dillad dynion wastad wedi cael eu edrych drosto achos falla na dydy dynion ddim yn becso cymaint dros ei olwg a ma' menywod yn draddodiadol. Mi fyddai'n gweithio tu mewn i gyd-destun ffasiwn sydd yn naturiol yn fasnachol, ond hefyd bod yna elfen approachable.